Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lansiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy yn Prysur Agosáu
Published: 07/09/2017
Bydd lansiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy #DdyrfywyMawr17 eleni yn digwydd ym Mharc
Gwepra, Cei Connah, ddydd Gwener 15 Medi am 9:30am.
Noddir y lansiad eleni gan McDonald’s, ac mae’r digwyddiad glanhau blynyddol
hwn, sy’n cael ei gynnal dros sawl diwrnod, yn cael ei gydlynu gan Gyngor Sir y
Fflint yn ogystal â staff o gynghorau cyfagos gan gynnwys, Gorllewin Caer a
Chaer, Sir Ddinbych, Wrecsam a Swydd Amwythig a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Mae McDonalds wedi bod yn rhan o Ddiwrnod Mawr y Ddyfrdwy ers blynyddoedd
bellach ac eleni fe fydd dros 14 o bobl o’r saith bwyty gwahanol sydd dan
reolaeth Stewart Williams yn Sir y Fflint a Wrecsam, allan unwaith eto ar 20
Medi yn casglu sbwriel ar draeth Talacre. Maent hefyd wedi cynorthwyo
Ceidwaid Sir y Fflint â phlannu bylbiau, glanhau nentydd, plannu coed a thasgau
eraill dros y blynyddoedd diwethaf ar adegau gwahanol or flwyddyn.
Dyma’r drydedd flwyddyn i Tesco gymryd rhan a bydd oddeutu 150 aelod o staff yn
ein cynorthwyo yn y chwe sir. Bydd y gwirfoddolwyr yn ymgymryd â thasgau
amrywiol, gan gynnwys plannu eithin, casglu sbwriel a thorri prysg yn
Greenfield. Bydd y gwirfoddolwyr hefyd yn casglu sbwriel ar Yr Wyddfa ac yn
torri coed ar Moel Famau.
Ers y cynhaliwyd y digwyddiad am y tro cyntaf 11 mlynedd yn ôl mae wedi tyfu o
nerth i nerth ac fe fydd oddeutu 40 sefydliad yn cymryd rhan yn y digwyddiad
eleni. Mae’r sefydliadau hyn yn cynnwys McDonald’s, Sefydliad Cenedlaethol
Brenhinol y Badau Achub, Coleg Llyfasi, Ysgol Gwynedd, Ysgol Uwchradd Cei
Connah, Friends of Bagillt Foreshore, Sustrans, Kingspan, Grwp Sgowtiaid
Treffynnon, Cyfeillion Parc Gwepra, Tesco, Toyota ac Airbus. Mae pawb syn
cymryd rhan yn gweithion galed i glirio sbwriel yr afon a sbwriel morol syn
cael ei olchi i fyny ar hyd yr Afon Dyfrdwy, ac yn paentio a thaclusor lleoedd
arbennig ar hyd ei glannau ar arfordir, o fynyddoedd Cymru i gynefin
arfordirol aber afon Dyfrdwy.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Cefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n parhau i gefnogir digwyddiad llwyddiannus hwn ac
fe hoffwn ddiolch i McDonald’s yn benodol am noddi ein digwyddiad lansio
eleni. Rydym yn llwyddo i gyflawni ei nod o lanhau ein harfordir ar gyfer
ymwelwyr a bywyd gwyllt. Mae hyn, ynghyd â gwaith Llwybr Arfordir Cymru, yn
gwneud ein harfordir ni yn le delfrydol i ymweld ag ef. Fel digwyddiad
trawsffiniol, rydym yn mynd i’r afael â phroblem cenedlaethol a byd eang gyda
phobl, busnesau a chymunedau yn Sir y Fflint.”
Dywedodd Ceidwad Cefn Gwlad Sir y Fflint, Tim Johnson:
“Mae’r digwyddiad hwn yn llwyddo i ddod â llawer o grwpiau a sefydliadau ynghyd
a phob un ohonynt â nod cyffredin, mae’n wych. Mae Tesco unwaith eto wedi
mynychu’r holl gyfarfodydd drwy gydol y flwyddyn i baratoi ar gyfer y
digwyddiad, yn sicr dylid cydnabod cefnogaeth o’r fath.”