Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Celfyddydau Anabledd Cymru – Yn Galw ar Artistiaid o Sir y Fflint
Published: 06/09/2017
Ydych chi’n artist, gwneuthurwr neu’n ymarferydd creadigol sy’n byw ac yn
gweithio yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn chwilio am artistiaid, gwneuthurwyr ac
ymarferwyr creadigol o bob cyfrwng celf sy’n ystyried eu hunain yn anabl neu
rywun â chyflwr iechyd hirdymor i ymuno â ni i fod yn aelodau o Gelfyddydau
Anabledd Cymru yn ardaloedd Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam.
Rydym yn cyfarfod bob deufis yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug i rannu syniadau a
chyfleoedd.
Fel sefydliad, rydym yma ich cynorthwyo i ddatblygu fel ymarferydd creadigol.
Rhaid i chi fod o leiaf 16 oed, nid oes cyfyngiad o ran oedran uchaf ac ni
chodir ffi aelodaeth ar unigolion anabl.
Fel aelod o Gelfyddydau Anabledd Cymru bydd swyddog rhanbarthol yn eich cefnogi
fel artist unigol a bydd cyfle i chi gystadlu mewn cystadleuaeth arddangos a
barddoniaeth flynyddol, cael rhestriad yn yr oriel artistiaid a byddwch yn
derbyn e-bost wythnosol i ddweud wrthych beth syn digwydd.
Am sgwrs anffurfiol neu os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â
Lowri-Mair Owen, Swyddog Rhanbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru, lowri@dacymru.com
neu 07910766774, fel arall edrychwch ar y wefan, sef
www.disabilityartscymru.co.uk.