Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cyngor yn Anrhydeddu Diwrnod y Llynges Fasnachol
Published: 05/09/2017
Cododd Cyngor Sir y Fflint y Lluman Coch ddydd Sul, 3 Medi, i nodi Diwrnod y
Llynges Fasnachol.
Mae’r Cyngor yn falch o ddangos cefnogaeth i forwyr y maer DU yn dibynnu
arnynt.
Ers 2000, mae Diwrnod y Llynges Fasnachol wedi anrhydeddu’r dynion a’r merched
dewr sydd wedi gwarchod ein hynys yn ystod y ddau Ryfel Byd. Rydym hefyd yn
dathlu ein dibyniaeth barhaus ar forwyr masnachol presennol sy’n gyfrifol am
95% o fewnforion y DU, gan gynnwys llawer o’r bwyd rydym yn ei fwyta, y rhan
fwyaf o’r tanwydd rydym yn ei losgi, a bron yr holl gynnyrch a’r nwyddau rydym
yn eu cymryd yn ganiataol.
Dywedodd y Cynghorydd Brian Lloyd, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint:
“Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o sefyll gydag awdurdodau lleol eraill i
gefnogi Diwrnod y Llynges Fasnachol. Rydym yn codir Lluman Coch bob blwyddyn
fel teyrnged i ymrwymiad, dewrder a hunanaberth ein morwyr heddiw a morwyr y
gorffennol. Mae gan y Llynges Fasnachol ran bwysig yn ein hanes fel ynys ac
mae hi’n dal i gludo cyflenwadau hanfodol yn ddiogel at ein glannau.
Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog:
“Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i Gyfamod y Lluoedd Arfog ac rydym yn
cydnabod ei bod yr un mor bwysig cydnabod gwasanaeth y Llynges Fasnachol in
gwlad.
Maer holl gynghorau lleol syn cymryd rhan wediu hychwanegu i “Restr
Anrhydedd” Diwrnod y Llynges Fasnachol ar
https://www.merchantnavyfund.org/merchant-navy-day/.