Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu Canlyniadau Safon Uwch
Published: 17/08/2017
Mae myfyrwyr chweched dosbarth yn ysgolion Sir y Fflint yn dathlu heddiw wrth i
ddosbarthiadau 2017 dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch. Mae canlyniadau
Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) yn dangos bod 97.8% o’r rhai sydd wedi sefyll
arholiadau CBAC wedi pasio gyda graddau A*-E. Ffigwr Sir y Fflint yn 2016 ar
yr un adeg oedd 97.2%.
72.7% yw cyfran y graddau A* i C yn 2017, o gymharu â chyfran o 73% yn derbyn
yr un graddau yn 2016.
Cafodd 18.2% o ymgeiswyr CBAC yn Sir y Fflint raddau A* neu A, o gymharu â
14.7% yn 2016.
Mae’r rhan fwyaf o ymgeiswyr Lefel A Sir y Fflint yn sefyll arholiadau CBAC ac
fe fydd canlyniadau gan fyrddau eraill ar gael yn nes ymlaen heddiw.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg:
“Ar ôl cael y wybodaeth am y rhai a fu’n sefyll arholiadau Bwrdd Arholi CBAC,
maer Cyngor yn llongyfarch yr holl fyfyrwyr yn wresog am eu gwaith caled au
llwyddiant. Wrth i ni ddathlu’r canlyniadau hynny, rydyn ni’n cydnabod
ymrwymiad a chefnogaeth broffesiynol ein hysgolion a’n hathrawon wrth baratoi
eu myfyrwyr ar gyfer eu harholiadau a hefyd am y gefnogaeth gan eu rhieni a’u
gofalwyr dros y blynyddoedd. Mi ydw i’n benodol falch o’r cynnydd cadarnhaol yn
nifer y graddau A* ac A.
“Mae myfyrwyr Sir y Fflint wedi gweithion galed i ddilyn rhaglenni astudio
heriol. Mi ydw i’n falch iawn dros bob un ohonyn nhw ac yn dymuno pob
llwyddiant iddyn nhw ar y llwybrau maen nhw wediu dewis ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Prif Swyddog Dros Dro Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:
“Mae’n braf gweld canlyniadau fel y rhain ac maen nhw’n dod yn sgil gwaith
caled a dyfalbarhad myfyrwyr Sir y Fflint wrth astudio. Rydw i’n llongyfarch
pob un ohonyn nhw ac yn diolch iw hathrawon, eu rhieni au gofalwyr am eu
hanogaeth au cefnogaeth. Mae’r canlyniadau’n newyddion da i bobl ifanc Sir y
Fflint ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw wrth wynebu heriau newydd,
boed hynny yn y coleg, yn y brifysgol neu ym myd gwaith.”
NODYN I OLYGYDDION
Ar adeg ei chyhoeddi, mae’r wybodaeth a roddir yn seiliedig ar wybodaeth Bwrdd
CBAC yn unig. Rydym yn aros am fanylion gan ysgolion ynglyn â’r darlun
cyffredinol unwaith y bydd data byrddau arholi Lloegr (nad yw ar gael yn
ganolog i Awdurdodau Lleol Cymru) wedi ei brosesu.