Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canolfan Melrose, Shotton
Published: 14/07/2017
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo datblygiad o fwy o gartrefi
Cyngor pan fydd yn cyfarfod nesaf, yn hwyrach ymlaen yng Ngorffennaf.
Bydd gofyn iddynt gymeradwyo datblygiad o naw cartref Cyngor newydd ar safler
hen Ganolfan Melrose yn Shotton, syn safle y cytunwyd arno iw gynnwys o fewn
y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol, rhaglen o’r radd flaenaf gan y Cyngor.
Mae’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol eisoes wedi darparu cartrefi Cyngor
newydd yng Nghei Connah a’r Fflint, gydag eraill yn cael eu hadeiladu yn yr
Wyddgrug, Coed-llai a Chei Connah.
Bydd gofyn i’r Cabinet gymeradwyo benthyca darbodus o £1,191,092 i ariannur
datblygiad hwn.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
“Mae ailddatblygu hen Ganolfan Adnoddau Melrose yn flaenoriaeth strategol i’r
Cyngor. Roedd yr adeilad wedi dod yn darged ar gyfer fandaliaeth ac ymddygiad
gwrthgymdeithasol wedi iddo gau, felly cafodd ei ddymchwel yn gynharach eleni.
Rydym eisiau ail-ddatblygu’r safle drwy adeiladu 5 ty 2 ystafell wely a phedwar
fflat 1 a 2 ystafell wely.
“Rwy’n falch iawn bod y Cyngor yn gwneud defnydd llawn o’r benthyciad sydd ar
gael iddo, i adeiladu cymaint o gartrefi Cyngor â phosibl, a’n bod ni’n mynd
ati i chwilio am gymeradwyaeth benthyca arall gan Lywodraeth Cymru, fel y
gallwn wneud hyd yn oed mwy.”