Alert Section

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru


Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) yn annibynnol ar bob corff llywodraethol ac yn gallu ystyried cwynion lle mae rhywun yn teimlo eu bod wedi cael eu trin yn annheg neu wedi bod dan anfantais oherwydd methiant gwasanaeth ar ran y Cyngor. 

Pan mae’r Ombwdsman yn cyhoeddi adroddiad dan a16 o Ddeddf Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (“y Ddeddf”) mae gan y Cyngor ddyletswydd dan a17 o’r Ddeddf i gyhoeddi’r adroddiad a’i wneud ar gael i’r cyhoedd yn ei swyddfeydd ac ar ei wefan. 

Gellir gweld bob adroddiad a16 drwy ddefnyddio Dogfennau Defnyddiol ar y dudalen hon neu mae fersiwn papur ar gael i’w harchwilio yn Swyddfeydd y Sir, Lôn y Capel, Fflint, Sir y Fflint, CH6 5BH neu Tŷ Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint, CH5 3FF.