Ymgynghoriadau Partneriaid
Dweud Eich Dweud ar Ddyfodol Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru
Mae Uchelgais Gogledd Cymru, sydd hefyd yn gwasanaethu fel Cyd-Bwyllgor Corfforedig y rhanbarth – gyda chyfrifoldeb dros gynllunio trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir strategol a gwella lles economaidd, yn gwahodd adborth ar gynllun drafft Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Mae'r ddogfen yn nodi polisïau ac ymyriadau strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf, gan gwmpasu pob dull o deithio, gan gynnwys rheilffordd, ffyrdd, bws, cerdded a beicio, gyda’r nod o ddarparu gwell opsiynau teithio, gwella cysylltedd digidol, a lleihau effeithiau amgylcheddol.
Dyddiad cau 14 Ebrill 2025
Dweud Eich Dweud ar Ddyfodol Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru
Trafnidiaeth Cymru - Dweud eich dweud
Rydym yn gweithio i wella'r lleoedd parcio beiciau diogel sydd ar gael mewn gorsafoedd ac rydym am glywed eich barn.
Dyddiad cau 20 Ebrill 2025
Parcio beiciau diogel - dweud eich dweud
Llywodraeth Cymru
Mae mwy o wybodaeth am ymgynghoriadau ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru (dolen allanol)