Alert Section

Dweud Eich Dweud ar Ddyfodol Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru


Byddem wrth ein boddau’n eich gweld yn ein sesiynau galw heibio ym mis Ebrill – (1 neu 8 Ebrill) - ond os nad ydych yn gallu mynychu, gallwch gymryd rhan drwy gwblhau’r arolwg ar-lein.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal dwy sesiwn wybodaeth galw heibio i breswylwyr gael dysgu mwy am y Cynllun Cludiant Rhanbarthol.

Fel rhanbarth wledig gyda rhwydweithiau rheilffyrdd a ffyrdd yn aml o dan bwysau, nid oes llawer o amheuaeth bod angen gwella trafnidiaeth a chysylltedd lleol.

Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi lansio ymgynghoriad 12 wythnos, gan roi cyfle i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr lywio dyfodol teithio yn y rhanbarth.

Fel rhan o’r ymgynghoriad, mae’r Cyngor yn gwahodd preswylwyr i gael gwybod mwy am y Cynllun Cludiant Rhanbarthol a chwblhau’r arolwg ar 1 Ebrill yng Nghanolfan Treffynnon yn Cysylltu rhwng 3pm a 6.30pm ac ar 8 Ebrill yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy rhwng 3pm a 6.30pm.

Mae Uchelgais Gogledd Cymru, sydd hefyd yn gwasanaethu fel Cyd-Bwyllgor Corfforedig y rhanbarth – gyda chyfrifoldeb dros gynllunio trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir strategol a gwella lles economaidd, yn gwahodd adborth ar gynllun drafft Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Mae'r ddogfen yn nodi polisïau ac ymyriadau strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf, gan gwmpasu pob dull o deithio, gan gynnwys rheilffordd, ffyrdd, bws, cerdded a beicio, gyda’r nod o ddarparu gwell opsiynau teithio, gwella cysylltedd digidol, a lleihau effeithiau amgylcheddol.

Nod y cynllun yw llunio polisi a buddsoddiad trafnidiaeth hyd at 2030, gan ddisodli cynlluniau trafnidiaeth leol presennol er mwyn  cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol.

Mae'n cael ei ystyried yn hanfodol i sicrhau bod Gogledd Cymru yn cwrdd â heriau economaidd yn y dyfodol, yn cefnogi teithio cynaliadwy, ac yn cyfrannu at amcanion hinsawdd.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 14 Ebrill 2025, a gellir hefyd ei gwblhau ar-lein yma.

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 20/01/2025

    Dyddiad cau: 14/04/2025

  • Manylion cyswllt
  • Gwasanaethau Stryd a Chludiant

    E-bost: teithio.llesol@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01352 701234