Rhannau Uchaf ac Isaf Aston Hall Lane - Gwelliannau Teithio Llesol
Aros canlyniadau
Mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi a byddant yn cael eu cyhoeddi yma maes o law
Rydym yn ceisio eich barn am gynllun teithio llesol newydd sydd â’r nod o wella cysylltiadau cerdded a beicio ar hyd rhannau uchaf ac isaf Aston Hall Lane. Nod y cynllun yw creu coridor cerdded a beicio diogel sy’n cysylltu cymunedau Aston a Phenarlâg.
Rhannau Uchaf ac Isaf Aston Hall Lane - Gwelliannau Teithio Llesol
Mae’r Cyngor yn gwerthfawrogi eich adborth ar y mesurau a nodir. Gall unrhyw un roi adborth.
I roi adborth, anfonwch neges e-bost i transportstrategyconsultation@flintshire.gov.uk, neu anfonwch lythyr i’r Strategaeth Gludiant, Cyngor Sir y Fflint, Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, Sir y Fflint, CH7 6LG, neu ffoniwch 01352 701234.
Gwahoddir eich adborth rhwng 18 Tachwedd 2024 a 6 Rhagfyr 2024.
Ar ôl adolygu’r ymgynghoriad, byddwn yn bwrw ymlaen â’r cynllun terfynol. Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd drwy ddatganiadau i'r wasg ac ar wefan Cyngor Sir y Fflint.