Alert Section

Creu Lleoedd yn Sir y Fflint – Bwcle, Treffynnon a Shotton


Aros canlyniadau

Mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi a byddant yn cael eu cyhoeddi yma maes o law

Pam mae angen Cynlluniau Creu Lle a pham mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal? Mae Creu Lle yn broses sydd â’r nod o osod gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a nodi ystod o weithgareddau a fyddai o fudd i’r lle, pobl leol a sefydliadau lleol. Bydd gwybodaeth a gesglir trwy broses Creu Lleoedd yn cael ei defnyddio i lywio datblygiad blaenoriaethau’r dyfodol ar gyfer yr ardal a nodir mewn cynllun ar gyfer ardal ddiffiniedig megis canol tref (neu weithiau’n rhan o dref/dinas fwy).

"Bydd y cynllun yn rhoi manylion am y camau gweithredu sydd eu hangen ac sy'n debygol o gael eu cymryd o fewn y 5-10 mlynedd nesaf gan amrywiaeth o bobl a sefydliadau i sicrhau newid cadarnhaol. Drwy gael Cynlluniau Creu Lleoedd, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd awdurdodau lleol a’u partneriaid yn cyflawni dull mwy cyd-gysylltiedig o gydweithio, nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddi, gwella’r ardal ar gyfer trigolion lleol, busnesau ac ymwelwyr ac amrywiaeth o ganlyniadau cadarnhaol eraill.

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint (corff gwneud penderfyniadau’r Cyngor sy’n cynnwys aelodau etholedig) wedi penderfynu gwneud y gwaith fesul cam o ystyried yr adnoddau sydd ar gael a’r amser sydd ei angen i greu cynlluniau ar gyfer 7 prif dref y sir. Cytunwyd y byddai Bwcle, Treffynnon a Shotton yn rhan o waith rhan 1 Cynllun Creu Lleoedd Sir y Fflint, gwaith a ddechreuwyd arno yn 2023. 

Bydd y gwaith ar ddatblygu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer cyfran 2, sy’n canolbwyntio ar Gei Connah a Queensferry, yn dechrau ym mis Chwefror 2024, gyda chyfran 3 sy’n cynnwys y Fflint a’r Wyddgrug i ddilyn yn ddiweddarach yn 2024/25. Bydd ymgynghoriad digidol yn cael ei gynnal ar gyfer y trefi sy’n weddill yn ystod mis Chwefror a Mawrth 2024, ond bydd datblygiad y cynlluniau yn cael eu cwblhau un ar y tro dros yr 18 mis nesaf. 

Bydd dau ymarfer ymgynghori yn cael ei gynnal ar gyfer pob cynllun; un ar y cychwyn cyntaf i gasglu barn pobl ar anghenion y dref ac un wedyn i roi cyfle i fudd-ddeiliaid adolygu’r cynllun drafft. 

Rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2023 gwahoddwyd trigolion Bwcle, Treffynnon a Shotton i gymryd rhan mewn sawl ffordd wahanol, yn cynnwys digwyddiadau ar-lein a sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb.

Bydd canlyniadau ymgynghoriadau Creu Lleoedd Sir y Fflint ar gyfer Bwcle, Treffynnon a Shotton ar gael gyda hyn.

Creu Lleoedd yn Sir y Fflint

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 20/01/2023

    Caewyd: 30/06/2023

  • Manylion cyswllt
  • Gwasanaeth Menter ac Adfywio

    E-bost: adfywio@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01267 224923