Alert Section

Llifogydd Ymchwiliad


Aros canlyniadau

Mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi a byddant yn cael eu cyhoeddi yma maes o law

Mae’r Pwyllgor yn awyddus clywed gan weithwyr proffesiynol, preswylwyr, ac aelodau’r cyhoedd.

I helpu gyda’r adborth perthnasol, a fydd yn nodi’r gwaith hwn, mae’r Pwyllgor wedi llunio nifer o gwestiynau, gyda’r bwriad o’ch tywys chi pan fyddwch yn gwneud eich datganiad. Nid oes angen i chi defnyddio’r cwestiynau hyn i’ch helpu chi ysgrifennu eich datganiad, ac nid oes rhaid i chi ateb bob un.

Yn aml, mae angen i gyflwyniadau fod yn glir ac yn gryno, hyd at 2000 o eiriau. Os hoffech chi ategu dogfennau o fewn eich ymateb, sylwch fod cyfyngiad o ran maint, sef 20MB.

Efallai bydd y Pwyllgor yn dymuno estyn gwahoddiad i chi i un o’i gyfarfodydd, os hoffech chi gymryd rhan yn y modd hwn, rhowch eich manylion cyswllt, ac os ydych chi’n ymateb mewn modd proffesiynol, eich sefydliad a’ch teitl swydd. Os nad yw hyn yn rhywbeth yr hoffech ei wneud, dywedwch yn glir yn eich datganiad.

Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cadw gan dîm newid hinsawdd Sir y Fflint. Ni fydd y data yn cael ei rannu gydag unrhyw drydydd parti arall a dim ond i gysylltu â chi fel y disgrifir uchod y bydd yn cael ei ddefnyddio. Bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gadw nes mae’r ymchwiliad drosodd. Os hoffech i ni ddileu eich cyfeiriad e-bost ar unrhyw adeg a pheidio anfon gwybodaeth atoch, e-bostiwch ni, climatechange@flintshire.gov.uk

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau data personol, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd

Yn ogystal â’ch datganiad ysgrifenedig, hoffem ofyn i chi hefyd ddarparu gwybodaeth am eich hun, gan ddefnyddio ein ffurflen monitro cydraddoldeb. Mae hyn yn gwbl wirfoddol ac nid oes modd i chi gael eich adnabod yn bersonol o’r atebion a roddir. Bydd yr atebion y byddwch yn eu rhoi i’r cwestiynau hyn cael eu defnyddio i’n helpu ni ddeall faint o bobl o wahanol grwpiau sydd wedi ymateb, er enghraifft faint o ferched, dynion, pobl ifanc, pobl hŷn, pobl anabl, ac ati.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymholiad neu eich datganiad, cysylltwch â climatechange@flintshire.gov.uk

Dylid cyflwyno datganiadau ysgrifenedig erbyn 18 Awst 2023, fan bellaf.

Os nad oes modd i chi gael mynediad at e-bost, anfonwch eich datganiadau ysgrifenedig at:

d/o y Tîm newid Hinsawdd, Cyngor Sir y Fflint, Tŷ Dewi Sant, Ewloe. CH5 3FF

Os oes arnoch angen cefnogaeth ychwanegol i gwblhau eich datganiad, ewch i un o’r Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.

Ewch i dudalen Llifogydd Ymchwiliad

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 09/06/2023

    Caewyd: 04/08/2023

  • Manylion cyswllt
  • Pwyllgor Newid Hinsawdd

    E-bost: newidhinsawdd@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01267 224923