Sir y Fflint yn Cysylltu
Aros canlyniadau
Mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi a byddant yn cael eu cyhoeddi yma maes o law
Mae ein Canolfannau Cyswllt yn werthfawr iawn, yn arbennig i bobl sy’n ei chael yn anodd mynd ar-lein neu ddefnyddio’r ffôn, ond ers pandemig COVID-19 nid oes cymaint o bobl yn eu defnyddio.
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu’r gwasanaeth a hoffem glywed eich safbwyntiau a barn ar sut allai’r Canolfannau Cyswllt gael eu defnyddio i fodloni eich anghenion chi a phobl eraill yn ein cymunedau lleol.
Mae gan Gyngor Sir y Fflint bum Canolfan Gyswllt - fel siopau un alwad - sy’n darparu cymorth wyneb yn wyneb ar ystod o wasanaethau’r Cyngor a chymorth digidol i’r rhai sydd ei angen.
Mae Canolfannau Cyswllt ar agor rhwng 9am a 4.30pm ar y dyddiau canlynol:
Bwcle: Dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau
Cei Connah, y Fflint a Threffynnon: Dydd Llun i ddydd Gwener
Yr Wyddgrug: Dydd Llun, dydd Mercher, dydd Gwener
Mae rhai Canolfannau Cyswllt yn rhannu gofod gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill megis Heddlu Gogledd Cymru a’r Ganolfan Waith.
Ceir rhagor o wybodaeth am Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu y Cyngor yma.
Mae’r arolwg yn agored i bawb. Gall preswylwyr nad ydynt yn gallu llenwi’r arolwg ar-lein fynd i unrhyw un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu lle bydd modd cael cefnogaeth.
Drwy rannu eich safbwyntiau a’ch barn, byddwch yn helpu i lywio ein hadolygiad.
Ar ôl i ni ystyried yr holl adborth a gwneud ein penderfyniadau byddwn yn cyhoeddi’r canlyniadau ar y wefan.
Mynd i’r arolwg (external link)