Alert Section

Adolygiad y Cynllun Premiwm Treth y Cyngor i ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor


Canlyniadau ar gael

Mae'r ymatebion wedi'u dadansoddi a'u cyhoeddi isod

Cynhaliodd Cyngor Sir y Fflint ymgynghoriad cyhoeddus am ddeuddeg wythnos gan ofyn i’r cyhoedd a buddgyfranogwyr am eu barn ynglŷn ag unrhyw newid yn y Premiwm Treth y Cyngor a godir ar eiddo sy’n wag yn hirdymor ac ail gartrefi.

Bu modd i bobl gwblhau’r arolwg ar-lein rhwng 15 Ebrill 2024 ac 8 Gorffennaf 2024 a chodwyd ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad ar gyfryngau cymdeithasol, gwefan y Cyngor ac mewn datganiad i’r wasg, yn ogystal ag ysgrifennu’n uniongyrchol at y bobl hynny sy’n talu’r premiwm ar hyn o bryd a’r 34 o Gynghorau Tref a Chymuned.

Derbyniom 215 o ymatebion, gan gynnwys rhai gan drigolion Sir y Fflint nad ydynt yn talu’r premiwm, pobl o Sir y Fflint a thu hwnt sy’n talu premiwm am eu bod yn berchen ar eiddo sy’n wag ers tro neu ail gartref.

Cyflwynwyd canlyniadau’r ymgynghoriad mewn adroddiad y bu’r Cyngor Llawn yn ei ystyried a’i drafod ar 24 Medi 2024 wrth i’r Aelodau Etholedig benderfynu a ddylid amrywio’r cynllun premiymau presennol o fis Ebrill 2025 ymlaen.

Yn gryno, o safbwynt premiymau ar ail gartrefi, cadarnhaodd canlyniadau’r ymgynghoriad bod:

  • 39.7% o bobl o’r farn bod ail gartrefi’n effeithio’n negyddol ar eu cymunedau lleol, o gymharu â 23% a oedd o’r farn eu bod yn cael effaith gadarnhaol
  • Mwy na dau draean (67.3%) o’r farn y dylai’r premiwm ar ail gartrefi aros yr un fath, gostwng neu ddiflannu’n llwyr, o gymharu â 32.7% a oedd o’r farn y dylid ei gynyddu.

O safbwynt eiddo a fu’n wag ers tro, cadarnhaodd canlyniadau’r ymgynghoriad bod:

  • 55.9% o bobl o’r farn bod eiddo a fu’n wag ers tro’n effeithio’n negyddol ar eu cymunedau lleol, o gymharu â dim ond 2.5% a oedd o’r farn eu bod yn cael effaith gadarnhaol
  • 44.9% o bobl o’r farn y dylid cynyddu’r premiwm ac eiddo a fu’n wag ers tro uwchlaw’r lefel presennol o 75%
  • Bron 44% o ymatebwyr o’r farn y dylai’r premiwm ar eiddo a fu’n wag ers tro fod yn gysylltiedig â hyd y cyfnod y bu’n wag.

Pan ofynnwyd am eiddo a fu’n wag ers tro ac ail gartrefi ar yr un pryd, roedd bron 49% o bobl o’r farn eu bod yn lleihau nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael a dim ond 3.4% a awgrymodd eu bod yn cynyddu’r nifer, a chytunodd 57% o bobl y gallai’r swm o ail gartrefi ac eiddo a fu’n wag ers tro ostwng pe byddai’r premiwm yn cynyddu.

Wedi trafod ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn Sir y Fflint ynghyd â chanlyniadau’r ymgynghoriad, penderfynodd yr aelodau etholedig, o 1 Ebrill 2025 ymlaen:

  • Y byddai’r premiwm a godir ar ail gartrefi’n aros yr un fath, sef 100%
  • Y dylid cynyddu’r premiwm a godir ar eiddo gwag hirdymor o 75% i 100%.

Penderfynwyd hefyd, o 1 Ebrill 2026 ymlaen, y dylai’r premiwm a godir ar eiddo gwag hirdymor gynyddu yn ôl hyd y cyfnod y mae’r eiddo’n dal yn wag, er mwyn annog pobl i’w rhoi at ddefnydd eto, yn unol â’r raddfa isod:

  • 100% ar gyfer eiddo a fu’n wag ers 1-3 o flynyddoedd
  • 150% ar gyfer eiddo sy’n wag am 3 blynedd neu’n hwy
  • 200% ar gyfer eiddo sy’n wag am 5 mlynedd neu’n hwy
  • 300% ar gyfer eiddo sy’n wag am 10 mlynedd neu’n hwy.

Cymeradwywyd yr amrywiadau uchod yn y cynllun a daw’r newidiadau i rym ar y dyddiadau a bennwyd.

Diwygiwyd gwefan Cyngor Sir y Fflint yn unol â’r diwygiadau hynny, er mwyn rhoi digon o rybudd i bobl, a gohebwyd yn uniongyrchol â pherchnogion eiddo a fu’n wag ers tro sy’n talu’r premiwm ar hyn o bryd, i roi gwybod iddynt am y newidiadau a allai effeithio arnynt a rhoi cyfle iddynt roi’r eiddo at ddefnydd eto cyn y dyddiadau perthnasol.

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 15/04/2024

    Caewyd: 08/07/2024

  • Manylion cyswllt
  • Gwasanaethau Refeniw

    E-bost: local.taxation@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01352 704848