Alert Section

Coelcerth yn yr ardd


Camsyniad cyffredin yw bod is-ddeddfau penodol sy’n gwahardd pobl rhag cynnau coelcerth yn yr ardd neu sy’n nodi amseroedd penodol ar gyfer gwneud hynny. Nid yw hyn  yn wir. Weithiau, cynnau coelcerth yw’r ffordd orau o gael gwared ar wastraff o’r ardd na ellir ei gompostio - fel gweddillion planhigion afiach neu wastraff coediog gwydn. Os llosgir dim ond gwastraff sych o’r ardd, ni ddylai ambell goelcerth greu problem fawr.

Beth yw’r problemau posibl?

Llygredd aer

Mae gwastraff o’r ardd yn creu mwg os yw’n cael ei losgi, yn enwedig os yw’n llaith ac os yw’r goelcerth yn mudlosgi. Bydd hyn yn cynnwys llygryddion gan gynnwys carbon monocsid, deuocsidau a gronynnau. Mae llosgi plastig, rwber neu ddeunyddiau wedi’u peintio nid yn unig yn creu arogl annymunol ond mae hefyd yn cynhyrchu cyfansoddion gwenwynig amrywiol.

Peryglu iechyd

Er nad yw’ch iechyd yn debygol o ddioddef os nad ydych yn anadlu mwg o goelcerth am gyfnod hir, gall greu problemau i rai. Gall effeithio’n arbennig ar y rhai sydd â phroblemau iechyd eisoes, fel:

  • Asthma
  • Bronchitis
  • Cyflwr ar y galon
Eryglu diogelwch

Dylech gymryd gofal wrth losgi gwastraff oherwydd:

  • Gall tân ledaenu i ffensys neu adeiladau a deifio coed a phlanhigion
  • Gall sbwriel gynnwys potelu neu ganiau a all ffrwydro pan  gânt eu llosgi
  • Mae anifeiliaid gwyllt yn gaeafgysgu ac anifeiliaid anwes yn cysgu’n aml mewn tomenni o wastraff yn yr ardd

Parchu’ch cymdogion

Mae llawer o’r cwynion a gaiff awdurdodau lleol yn ymwneud â ‘r mwg, y parddu a’r arogl sy’n codi o goelcerthi. Mae mwg yn atal eich cymdogion rhag mwynhau eu gerddi, agor ffenestri neu roi dillad ar y lein, a gall amharu ar allu gyrwyr i weld ar y ffyrdd cyfagos. Gall rhandiroedd ger cartref greu problemau penodol os yw’r rhai sy’n rhentu’r plotiau’n llosgi gwastraff yn aml.

Os yw cymydog yn creu problemau drwy losgi gwastraff, mae’r gyfraith o’ch plaid chi. O dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (EPA) 1990, mae niwsans statudol yn cynnwys mwg, mygdarth neu nwyon sy’n codi o eiddo ac sy’n peryglu iechyd neu’n niwsans. Yn ymarferol, er mwyn iddo fod yn niwsans statudol, byddai’n rhaid i  hyn fod yn broblem barhaus, yn ymyrryd yn sylweddol â’ch lles, a’r cysur a’r mwynhad a gewch o’ch eiddo.

Gallai’r amgylchiadau a ganlyn hefyd fod yn niwsans statudol:

  • Mwg yn mynd i mewn i dai pobl.
  • Mwg yn chwythu ar draws gerddi ac yn atal pobl rhag defnyddio’u gerddi yn y modd arferol.
  • Mwg yn effeithio ar ddillad sy’n sychu ar y lein.
  • Marwor a lludw poeth yn glanio ar eiddo.
  • Ni fyddai coelcerth achlysurol yn cael ei ystyried yn niwsans (oni bai ei fod yn llosgi gan greu mwg sy’n niwsans i chi am gyfnod hir neu’n creu allyriadau arbennig o niweidiol).
  • Os oes mwg du yn codi o goelcerth o wastraff diwydiannol/masnachol, mae hynny’n drosedd o dan Ddeddf Aer Glân 1993.

O dan Ddeddf Aer Glân 1993, mae’n drosedd i fwg tywyll godi o simneiau ffatrïoedd ac eiddo masnachol oni bai bod hynny’n anorfod (e.e. wrth danio). Dylai’r dechnoleg gyfredol ganiatáu iddynt losgi’n effeithiol heb gynhyrchu mwg tywyll. Mae mwg tywyll mewn tanau agored (coelcerthi) ar safleoedd diwydiannol neu fasnachol neu dir amaethyddol hefyd wedi’i wahardd (gan gynnwys safleoedd dymchwel adeiladau), ac eithrio dan amgylchiadau cyfyngedig iawn. Mwg lliw llwyd a ddiffinnir gan y gyfraith yw mwg ‘ tywyll’.

Os yw’r mwg sy’n codi o goelcerth eich cymydog yn ein poeni, ewch atynt i esbonio’r broblem. Mae’n ddigon posibl y byddwch yn teimlo’n annifyr, ond mae’n bosibl hefyd nad ydynt yn sylweddoli eu bod yn creu trafferth i chi. Gobeithio y byddant yn deall ac yn cymryd mwy o ofal yn y dyfodol. Os nad yw hyn yn gweithio, fodd bynnag, cysylltwch ag adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol. Rhaid iddyn nhw ymchwilio i’ch cwyn ac anfon hysbysiad atal niwsans o dan y Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd.

Ydych chi am roi gwybod am broblem yn ymwneud â choelcerth?

Rhif ffôn:01352 703330

E-bost:pollution.control@flintshire.gov.uk

Ysgrifennwch at –

Rheoli Llygredd

Diogelu’r Cyhoedd
Adran yr Amgylchedd
Cyngor Sir y Fflint
Safle IV, Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug
CH7 6NF

Sut i danio coelcerth heb achosi niwsans?

  • Os oes raid i chi danio coelcerth, rhaid i chi ystyried eich cymdogion.
  • Llosgwch dim ond deunyddiau sych.
  • Peidiwch byth â gadael y tân
  • Peidiwch byth â denfyddio petrol, paraffîn, disel, hylif tanio neu hen olew i gynnau’r tân
  • Peidiwch byth â llosgi gwastraff o’r tŷ, teiars rwber r nac unrhyw beth sy’n cynnwys plastig, deunydd sbwng neu baent
  • Peidiwch â chynnau coelcerth ar benwythnos neu ŵyl banc
  • Rhybuddiwch bobl gerllaw y gallai’r goelcerth effeithio arnynt.
  • Peidiwch â chynnau tân mewn tywydd anaddas. Mae mwg yn aros yn yr awyr ar ddyddiau llaith, llonydd a gyda’r nos. Os yw’n wyntog, gall y mwg chwythu i ardd drws nesaf ac ar draws y ffordd. Hefyd, peidiwch â chynnau tân ar ddiwrnod poeth pan fydd eich cymdogion yn debygol o fod yn mwynhau’r ardd.
  • Peidiwch â chynnau tân pan fydd y llygredd aer yn uchel yn yr ardal. Cewch hyd i’r wybodaeth hon yn rhagolygon y tywydd neu ffoniwch 0800 556677, neu ewch ihttp://www.airquality.co.uk

Cofiwch y gall partïon coelcerth a barbeciw greu swn a mwg

Ffyrdd eraill o gael gwared ar wastraff o’r ardd

Mae nifer o ffyrdd eraill o gael gwared ar wastraff o’r ardd heb ei losgi. Er enghraifft, gellir ailgylchu llawer ohono drwy gompostio, gan gynnwys toriadau lawnt, toriadau ar ôl tocio coed a gwrychoedd, dail a gwastaff llysiau o’ch cegin.

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i chi ein ffonio ni cyn i chi losgi – rydym hefyd yn annog perchnogion tir i ddilyn rhai gweithdrefnau diogelwch sylfaenol ac i hysbysu’r gwasanaeth tân ac achub cyn y byddant yn mynd ati i losgi.  Mae'r rheolau llosgi grug a glaswellt yn dynodi mai dim ond rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth y caniateir llosgi ar uwchdiroedd a rhwng 1 Tachwedd a 15 Mawrth ymhobman arall. llyw.cymru

Mae nifer o ffermwyr yn manteisio ar y cyfle i losgi grug, rhedyn ac eithin dan reolaeth ar eu tir ac ni ddylent wneud hyn y tu allan i’r tymor llosgi.  Meddai’r Uwch Reolwr Diogelwch Tân Stuart Millington:  “Bob blwyddyn, byddwn yn cael ein galw i nifer o gamrybuddion a llosgiadau rheoledig sydd wedi mynd tu hwnt i reolaeth.  "Rydym yn annog tirfeddianwyr sy'n llosgi dan reolaeth ar eu tir i roi gwybod i ni drwy ffonio ein hystafell reoli ar 01931 522006.   Bydd hyn yn helpu i osgoi galwadau ffug ac anfon criwiau i ddigwyddiadau yn ddiangen, yn ogystal â sicrhau ein bod yn barod i ymateb pe byddai'r tân yn mynd tu hwnt i'ch reolaeth.  "Yn ystod tywydd sych gall tanau ledaenu'n gyflym iawn.  Mae'r math yma o danau fel arfer yn cael eu cynnau mewn ardaloedd sydd yn anodd eu cyrraedd a lle mae'r gyflenwad ddŵr yn brin - gall tân sydd allan o reolaeth roi pwysau mawr ar ein hadnoddau, gan y bydd diffoddwyr tân yn brysur am beth amser yn ceisio dod â'r tân dan reolaeth.  Gall y tanau hyn beryglu cartrefi ac anifeiliaid heb sôn am fywydau'r criwiau a thrigolion gan na fydd diffoddwyr tân ar gael i ymateb i ddigwyddiadau brys gwirioneddol. 

Dilynwch y canllawiau isod os ydych yn bwriadu llosgi dan reolaeth:

  • Sicrhewch fod digon o bobl o gwmpas a bod offer digonol ar gael rhag ofn i chi golli rheolaeth ar y tân
  • Edrychwch i ba gyfeiriad y mae'r gwynt yn chwythu i sicrhau nad oes perygl i eiddo, ffyrdd a bywyd gwyllt
  • Os collwch reolaeth ar y tân cysylltwch â'r gwasanaeth tân yn syth gan roi manylion lleoliad a mynediad
  • Mae’n anghyfreithlon gadael tân heb neb yn ei wylio neu chael tân â dim digon o bobl i’w reoli
  • Mae'n anghyfreithlon gadael tân heb neb yn gofalu amdano neu beidio â chael digon o bobl i'w gadw dan reolaeth

Gwnewch yn siŵr fod y tân wedi diffodd yn llwyr cyn gadael a dychwelwch i'r fan y diwrnod canlynol er mwyn gwneud yn siŵr nad ydyw wedi ailgynnau.