Alert Section

Adolygu Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol


Beth yw’r Adolygu Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?

Mae’r Adolygu Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn broses sy’n galluogi aelodau o’r gymuned i ofyn i Gyngor Sir y Fflint adolygu eu hymatebion i gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

Adolygu Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gellir ei ddefnyddio os ydych chi (fel unigolyn) wedi cwyno wrth Gyngor Sir y Fflint, Heddlu Gogledd Cymru neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig am 3 achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol dros gyfnod o chwe mis.  Bydd pob adroddiad wedi’u cyflwyno cyn pen mis ar ôl y digwyddiad.  Dylid defnyddio’r sbardun os ydych o’r farn nad yw’ch cwyn wedi’i thrin yn briodol neu os na chymerwyd unrhyw gamau gweithredu.  Ni ellir defnyddio’r sbardun i adrodd am droseddau cyffredinol, gan gynnwys troseddau casineb neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Ar ôl derbyn atgyfeiriad Adolygu Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, bydd nifer o bobl yn dod at ei gilydd o adrannau perthnasol yn y cyngor a sefydliadau partner megis Heddlu Gogledd Cymru.  Byddant yn edrych ar y materion yr ydych wedi’u hadrodd ar y cyd ac ar unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd er mwyn pennu a oedd y camau hynny’n ddigonol yn seiliedig ar ddisgwyliadau ac amserlenni rhesymol.  Gall y panel adolygu wneud argymhellion i gymryd camau pellach er mwyn ceisio datrys y broblem.

Sut ddylwn i wneud cais?

I ddefnyddio’r Adolygu Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol  gallwch lenwi ffurflen gais, e-bostio neu anfon llythyr. 

Os ydych yn penderfynu gwneud cais am sbardun cymunedol bydd angen i chi roi’r manylion canlynol:

  • Dyddiad pob cwyn a gyflwynoch;
  • Manylion ble y gwnaethoch gwyno (enw, sefydliad a/neu gyfeirnod)
  • Gwybodaeth ynglŷn â’r ymddygiad gwrthgymdeithasol

Sut i gysylltu â Chyngor Sir y Fflint

Argraffwch a dychwelwch y ffurflen a geir yma: Ffurflen Gais Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 

Neu fel arall anfonwch lythyr at:


Swyddfa Diogelwch Cymunedol,
Ty Dewi Sant
Ewlo
Sir y Fflint
CH5 3FF

E-bost: communitysafety@flintshire.gov.uk