Alert Section

Gostwng allyriadau carbon y sir


 Green energy 

Ôl Troed Carbon Sir y Fflint 

Allyriadau nwyon tŷ gwydr sir y Fflint 

Mae sir y Fflint wedi gweld gostyngiad cyffredinol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr ers 2005 fel y dangosir yn Ffigur 6. Mae’r allyriadau yn ystod y cyfnod hwn wedi cael cyfnodau o gynnydd yn benodol tua 2011/12 a 2017/18.

 

Fig 6 Cym

Fig 7 Cym

Mae Ffigur 7 yn rhoi dadansoddiad pellach o’r ffynonellau allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n cyfrannu at holl allyriadau nwyon tŷ gwydr y Sir o 2014-2018*.  Y cyfranwyr mwyaf i’r ôl troed hwn yw gosodiadau diwydiannol mawr a thrafnidiaeth ffyrdd. Mae ardaloedd diwydiannol sylweddol yn y sir gan gynnwys Glannau Dyfrdwy, ac mae’r ffordd arfordirol a ddefnyddir yn helaeth hefyd yn rhedeg ar hyd y sir.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am tua 3% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y Sir.


* Mae data’r flwyddyn ddiweddaraf ar gael gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

Y modd y gall y Cyngor ddylanwadu ar allyriadau Sir y Fflint 

Mae nifer o gamau y gall y Cyngor eu cymryd i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r sir ehangach. Drwy ei rôl arweiniol, gall y Cyngor lywio a dylanwadu yn ogystal ag ysbrydoli gweithredu a chyfrifoldeb unigol a chyfunol. Mae llawer o gamau gweithredu megis cyflwyno seilwaith gwefru cerbydau trydan yn gofyn am ddull gweithredu cydgysylltiedig, cyffredin na ellir ond ei gyflwyno drwy gydweithio ar draws ffiniau.

Fodd bynnag, bydd cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol gan fod llawer o ffynonellau allyriadau nwyon tŷ gwydr y tu allan i reolaeth y Cyngor ac felly bydd angen mewnbwn traws-sector arnynt.
 county emissions cym

Dyma’r camau gweithredu o fewn y themâu allweddol nad ydynt yn cyfrannu at ein hôl troed carbon uniongyrchol ond y gallwn eu cyflawni er mwyn ymgysylltu, dylanwadu a grymuso eraill.

Adeiladau 

Rydym yn lleihau ein defnydd o ynni ac allyriadau o gartrefi a busnesau yn Sir y Fflint trwy hyrwyddo mesurau effeithlonrwydd ynni, adeiladu cynaliadwy, ffynonellau ynni adnewyddadwy a newid ymddygiad.

  • Datblygu cynlluniau ar gyfer datgarboneiddio cartrefi’r Cyngor yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau effeithlonrwydd thermol a  lleihau costau gwresogi.
  • Cefnogi Cynghorau Tref a Chymuned i leihau allyriadau gweithredu ac ymgysylltu â’n defnyddwyr adeiladau i annog newid cadarnhaol mewn ymddygiad
  • Parhau i ddarparu rhaglenni gydag aelwydydd preifat a busnesau i leihau tlodi tanwydd a darparu mynediad i gynlluniau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy ehangach.
  • Darparu cymorth drwy Gynllunio Perygl Llifogydd i fusnesau ac aelwydydd i weithredu cydnerthedd llifogydd eiddo yn well.

Symudedd a Thrafnidiaeth 

  • Lleihau allyriadau o drafnidiaeth drwy hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy, lleihau teithio mewn ceir a thagfeydd traffig, ac annog newid ymddygiad
  • Hyrwyddo’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol, a datblygu rhwydwaith cerdded a beicio’r Cyngor ymhellach
  • Hyrwyddo teithiau trafnidiaeth aml-foddol a datblygu canolfannau trafnidiaeth strategol. Gwella mynediad i gyfleusterau storio, gwefru a llogi.
  • Ymchwilio i ragor o gyfleoedd ar gyfer lleihau defnydd car gan ystyried cyd-destunau lleol a hygyrchedd trwy ardaloedd allyriadau isel, parthau dim ceir a strydoedd ar gyfer cerddwyr yn unig.
  • Gweithio gyda phartneriaid i alluogi fflyd wyrddach yn y sector trafnidiaeth (bysiau, rheilffyrdd, tacsis) gan gynnwys gwasanaethau dan gontract y Cyngor megis cludiant i’r ysgol.

Defnydd Tir 

  • Cefnogi tirfeddianwyr eraill a’r gymuned i ddefnyddio mannau gwyrdd a gwneud y mwyaf o amsugno carbon.
  • Gweithio gyda ffermwyr Tenant i rannu arfer gorau ar ffermio cynaliadwy a chynyddu amsugno carbon
  • Archwilio polisïau arferion gorau ac annog y ddarpariaeth o ofod ar gyfer tyfu bwyd yn y gymuned mewn datblygiadau newydd a safleoedd gwag neu safleoedd na chânt eu defnyddio lawer.
  • Cyflawni strategaeth defnydd tir er mwyn sicrhau bod tir yn cael ei reoli a’i warchod ar gyfer isadeiledd gwyrdd, datgarboneiddio ac er budd bioamrywiaeth.
  • Gweithio gyda ffermwyr Tenant i rannu arfer gorau ar ffermio cynaliadwy, cynyddu amsugno carbon a gwerth bioamrywiaeth.
  • Gweithio gyda chymunedau i gynyddu gwerth bioamrywiaeth a storio carbon 
  • Canfod cyfleoedd i gaffael tir Cyngor newydd ar gyfer y diben o amsugno carbon a gwella bioamrywiaeth.

Ymddygiad 

  • Cefnogi gwasanaethau, trigolion a busnesau’r Cyngor i addasu i effeithiau newid hinsawdd.
  • Archwilio’r posibilrwydd o dynnu portffolios pensiynau a buddsoddiadau eraill oddi wrth danwydd ffosil er mwyn cefnogi ynni gwyrdd.
  • Hwyluso digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a sut i leihau ôl troed carbon.