Newyddlen Newid Hinsawdd Rhif 8
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn dyraniad o gyfanswm o £13.1miliwn i’w fuddsoddi dros dair blynedd. Cyflwynwyd cynllun buddsoddi er mwyn amlinellu’r blaenoriaethau allweddol sy’n berthnasol ar draws gogledd Cymru. Y blaenoriaethau buddsoddi yw:
- Cymuned a Lle
- Cefnogi Busnesau Lleol
- Pobl a Sgiliau
O’r 23 o brosiectau Sir y Fflint yn unig sy’n rhan o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae 4 ohonynt yn brosiectau sy’n ymwneud â charbon, sy’n cynnwys:
- ADAPTS
- FAST
- Cronfa Sir y Fflint
- Strategaeth Ddigidol Werdd Sir y Fflint
- Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru
Cyfleoedd Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru
Nod cyfle gweledigaeth twf gogledd Cymru yw cefnogi busnesau, cymunedau a phreswylwyr i gael mynediad at gyllid ar gyfer nifer o gyfleoedd fel pontio i sero net, yn benodol, trwy brosiect Ynni Lleol Clyfar y Fargen Dwf, cynyddu capasiti rhanbarthol wrth leihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth trwy fethodoleg arloesol UGC a dysgu cysylltiedig, datblygu platfform monitro ar-lein a’i weithredu’n barhaus ar gyfer partneriaid rhanbarthol.
Cyswllt: Nia Medi Williams, info@ambitionnorth.wales
Cronfa Sir y Fflint
Bydd y grant Lleihau Carbon yn darparu cefnogaeth cam cyntaf i alluogi creu cynlluniau busnes lleihau carbon ar gyfer ystod o dechnolegau carbon isel yn cynnwys cyfle cynhyrchu ynni, pecynnu, ôl-osod deunydd inswleiddio, diweddaru goleuadau a datgarboneiddio fflyd, ymysg mentrau eraill. Y nod yw cryfhau rhwydweithiau busnes lleol sy’n cefnogi busnesau i ddechrau arni, tyfu, cynnal eu datblygiad ac arloesi.
Cyswllt: Rowan Jones/Toni Godolphin, flintshirefund@anturcymru.org.uk
Mae Cyngor Sir y Fflint yn darparu rhagor o wybodaeth ar hafan dudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, os hoffech fwy o fanylion am y cyfleoedd cyllid hyn.
Wyddech chi?
Wythnos Hinsawdd Cymru 2023
Cynhaliwyd Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 ar 4-8 Rhagfyr gyda chanolbwynt ar ateb y cwestiwn “sut gallwn fynd i’r afael â newid hinsawdd mewn ffordd deg?”.
Mae’n gwestiwn hynod o bwysig ac roedd Cyngor Sir y Fflint yn ceisio cefnogi trwy ymgysylltu â’r cyhoedd yn Neuadd y Farchnad Rhuthun ar 7 Rhagfyr a Pharc Gwepra ar 8 Rhagfyr. Daeth y digwyddiadau â thimau ar draws Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint at ei gilydd gan gynnwys Timau Newid Hinsawdd, Gwastraff, Ynni Domestig a Bioamrywiaeth, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Cyfoeth Naturiol Cymru a Biogen.
Cyfarfu aelodau’r cyhoedd gyda thimau amrywiol, gan drafod yr argyfyngau hinsawdd a natur a’r gwaith sydd ar y gweill i’w datrys. Gan ganolbwyntio ar newid hinsawdd, bu i bobl gyfrifo eu hôl troed carbon, gan gymryd camau syml a hygyrch yn eu cartrefi (e.e. golchi dillad ar 20°C) er mwyn cyfrannu at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Cynhaliwyd ymgynghoriad “Sgyrsiau Hinsawdd” Llywodraeth Cymru hefyd lle y gallai’r cyhoedd gyflwyno eu sylwadau ar ddau gwestiwn a gyflwynwyd i gynorthwyo i ddatblygu Fframwaith Pontio Teg Llywodraeth Cymru.
Roedd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar sut y gellir lleihau allyriadau mewn ffordd sy’n deg gan sicrhau lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt, a sut y gall y cyhoedd ymgysylltu â chyfleoedd i newid hinsawdd yn deg. Roedd sawl testun dan sylw megis cludiant cyhoeddus, cefnogaeth ariannol a gwastraff, ac roedd y gweithgaredd yn llawn gwybodaeth, egni ac yn gyfle gwerthfawr i bobl leisio eu barn. Bydd y sgyrsiau hyn yn cael eu hadrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ac yn cefnogi datblygiad camau gweithredu hinsawdd Cyngor Sir y Fflint yn y presennol a’r dyfodol.
Mae ymgynghoriad Pontio Teg Llywodraeth Cymru ar agor tan 11 Mawrth 2024 a gall y cyhoedd gyflwyno eu hymatebion trwy’r ddolen hon.
Plannu coed ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru
Daeth staff Cyngor Sir y Fflint a gwirfoddolwyr Equans, a osododd y fferm solar, ynghyd i blannu dros 300 o goed yn fferm solar y Fflint. Yn 2021, achosodd Storm Arwen ddifrod i’r fferm solar. Bydd y gwaith plannu yn tyfu i greu llain gysgodol, gan ddarparu diogelwch i’r fferm solar yn ystod cyfnodau o wyntoedd cryfion. Roedd y rhain yn cynnwys pinwydd yr Alban, gwernen yr Eidal, sycamorwydden ac ychwanegu coed cyll a chastanwydden bêr bach. Bydd y coed hyn yn darparu diogelwch rhag y gwynt, a hefyd yn chwarae rôl allweddol i leihau newid hinsawdd a pherygl llifogydd a chynyddu bioamrywiaeth.
Beth yw plaladdwyr?
Defnyddir plaladdwyr i reoli chwyn a chlefydau ymhlith planhigion/pryfaid/ffyngau/perlysiau a gallant fodoli mewn sawl ffurf. Gall rhai o’r plaladdwyr hyn gael effaith andwyol ar yr amgylchedd, ac mae’r chwynladdwr Glyphosate wedi’i gofnodi fel un sy’n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.
Y cysylltiad rhwng Plaladdwyr a Newid Hinsawdd
Mae tystiolaeth wedi dod i’r amlwg o blaladdwyr yn cael effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol ar newid hinsawdd, trwy broses gynhyrchu a chludo’r plaladdwyr. Yn ogystal ag effeithio ar allu’r pridd i atafaelu carbon, pan fydd ansawdd y pridd wedi’i leihau oherwydd cemegion, gall leihau gallu’r pridd i gadw dŵr. Bydd hyn yn cael effaith andwyol pan fydd llifogydd oherwydd ni ellir cadw gymaint o ddŵr, ac mae llifogydd yn digwydd yn amlach oherwydd hinsawdd sy’n newid. Amheuir ei fod yn niweidiol i natur hefyd, yn enwedig peillwyr fel gwenyn. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cymryd camau i leihau’r defnydd o chwynladdwyr ar draws ei ystâd trwy fuddsoddi yn y system ‘Foamstream’, sy’n rhydd o gemegau ac yn defnyddio gwres a starts planhigion i ladd chwyn.
Diwrnod Arddangos
Cynhaliodd tîm bioamrywiaeth Cyngor Sir y Fflint ddiwrnod arddangos i ymchwilio i gynnyrch amgen. Gwahoddwyd cyflenwyr i’r digwyddiad i arddangos cyfres o ddulliau amgen i reolaeth trwy gemegion. Arddangoswyd amrywiaeth o fesurau gan gynnwys rhai mecanyddol, trydanol, tecstiliau a gwres er mwyn mynd i’r afael â’r amrywiaeth o sefyllfaoedd rheoli chwyn rydym ni’n eu hwynebu. Roedd nifer helaeth o westeion o Lywodraeth Cymru, Network Rail, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau elusennol yn bresennol yn y digwyddiad. Roedd Diwrnod Arddangos yn llwyddiannus o ran archwilio dewisiadau amgen, ac roedd 100% o fynychwyr a lenwodd y ffurflen adborth yn cytuno’n gyffredinol bod Diwrnod Arddangos Sir y Fflint yn ‘llawn gwybodaeth’.
Y Mis Hwn!
Ymgynghoriad Gwastraff
Mae lleihau defnydd o ddeunyddiau crai a chynyddu faint yr ydym ni’n ailddefnyddio ac ailgylchu er mwyn adfer adnoddau pwysig yn rhan hanfodol o sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni carbon sero net. Mae’r Cyngor wedi llunio Strategaeth Adnoddau a Gwastraff ddrafft sy’n pennu’r cyfeiriad i leihau gwastraff a rhagori ar dargedau statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer ailgylchu, rhai nad ydynt yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd.
Mae’r Cyngor yn gwahodd preswylwyr i leisio’u barn ynglŷn â’r Strategaeth Adnoddau a Gwastraff ddrafft rhwng 1 Rhagfyr 2023 a 12 Ionawr 2024. Yn ystod y cyfnod hwn, mae cyfle i drafod y strategaeth wyneb yn wyneb mewn digwyddiadau galw heibio i ddarparu gwybodaeth i’r gymuned. Mae’r strategaeth ddrafft yn fyw ar wefan y Cyngor ynghyd â holiadur byr. Gallwch lenwi’r holiadur ar bapur a’i e-bostio i streetsceneadmin@siryfflint.gov.uk neu ei anfon trwy’r post at:
Cyngor Sir y Fflint,
Gwasanaethau Stryd a Chludiant,
Depo Alltami,
Ffordd yr Wyddgrug,
Alltami,
Sir y Fflint,
CH7 6LG
Mae’n rhaid i ymatebion ddod i law erbyn 12 Ionawr 2024 fan bellaf, os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, ewch i wefan y Cyngor.