Alert Section

Newyddlen Newid Hinsawdd Rhif 5


Plannu Coed

Tyfu gwell yfory: Ein menter plannu coed

Yn 2018 lansiodd Cyngor Sir y Fflint eu Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol cyntaf.  Roedd y cynllun yn amlinellu gweledigaeth strategol ar gyfer plannu coed ar hyd a lled y Sir, gan ganolbwyntio’n benodol ar ardaloedd trefol. Mae’r cynllun hwn yn gosod nod ar gyfer cyflawni gorchudd coed trefol o 18% erbyn 2033.

I gefnogi’r Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol, mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i gael grant gan Lywodraeth Cymru, trwy’r gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. 

Yn 2018, gorchudd coed trefol Sir y Fflint oedd y seithfed lleiaf yng Nghymru, gyda’r coed yn gorchuddio 14.5% o’r tir. Mae coed yn arwydd o’r byd naturiol oherwydd y rôl allweddol maent yn ei chwarae wrth liniaru newid hinsawdd, creu cynefinoedd a chynyddu bioamrywiaeth. O safbwynt dynol, mae coed yn cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddyliol a chorfforol, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.

Tree planting intiative

I gyrraedd y targed gorchudd canopi o 18% erbyn 2033, mae Cyngor Sir y Fflint wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn gweithio gyda chynghorau lleol, cymunedau ac ysgolion i nodi a chytuno ar nifer o safleoedd trefol i blannu coed. Drwy gydol y tymor plannu coed diwethaf (Rhagfyr 2022 - Mawrth 2023), mae’r timau Mynediad ac Amgylchedd Naturiol wedi ymgymryd â gwaith plannu coed sylweddol, plannu coed newydd, plannu 154 o goed safonol a 7099 o goed chwip ar draws y sir yn llwyddiannus.  Yn ogystal â hynny, rydym yn gweithio’n galed i gynnal ein gorchudd canopi presennol drwy blannu coed yn lle’r rhai rydym wedi gorfod eu torri.  Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu Coedwig Sir y Fflint.

Mae disgyblion ar hyd a lled y sir hefyd wedi rhoi help llaw i staff blannu dros 2500 o blanhigion coed bach yn ystod digwyddiadau plannu, gan greu dros 550 metr o wrychoedd newydd.

Os oes gan eich tref neu gymuned ddiddordeb mewn plannu coed, yna cysylltwch â ni i drafod pethau ymhellach: biodiversity@flintshire.gov.uk.  Bydd y safleoedd yn cael eu blaenoriaethu yn ôl y budd posibl i’r gymuned a byd natur.

A wyddoch chi?

Cynhyrchiwyd 636,395kWh o drydan drwy baneli solar ffotofoltäig ar ein hysgolion, swyddfeydd ac adeiladau cyhoeddus y llynedd.  Mae hyn yn gyfystyr â phweru oddeutu 219 o gartrefi bob blwyddyn. 

Mae hyn hefyd yn gyfystyr â phweru 318 o geir trydan - yn ddibynnol ar amodau tywydd, pwysau ac effeithlonrwydd y ceir. 

Defnyddir yr ynni a gynhyrchir drwy’r paneli solar hyn yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr yr adeiladau. 

Solar panels

Pam ei bod yn bwysig ailgylchu ein gwastraff bwyd? 

Mae gwastraff bwyd a gaiff ei adael mewn safleoedd tirlenwi’n pydru ac yn creu methan - nwy tŷ gwydr cryf iawn.  Mae nwyon tŷ gwydr yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd drwy gau gwres yn yr atmosffer ac achosi i’r blaned gynhesu.  Mae’n bwysig ailgylchu ein gwastraff bwyd er mwyn lleihau’r nwyon tŷ gwydr a gaiff eu rhyddhau i’n hatmosffer.  Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio eich cadi gwastraff bwyd. 

Food waste

I ble mae’r gwastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu’n mynd?

Caiff gwastraff bwyd a gaiff ei ailgylchu yn Sir y Fflint ei gludo i beiriant treulio anaerobig yn Llanelwy.  Caiff y gwastraff bwyd ei dreulio gan ficro-organebau sy’n cynhyrchu bio-nwy.  Gellir ei ddefnyddio fel tanwydd mewn uned gwres a phŵer cyfunedig, a fydd yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy. 

Mae’r sylwedd sy’n weddill o’r broses hon yn fio-wrtaith llawn maeth a gaiff ei basteureiddio’n gyntaf i ladd unrhyw bathogenau.  Caiff ei storio a’i ddefnyddio ddwywaith y flwyddyn ar dir amaethyddol.  Mae hyn yn cynnig opsiwn amgen i wrtaith sy’n deillio o danwydd ffosil. 

Ffyrdd i helpu i leihau gwastraff bwyd:

  • Cynllunio prydau bwyd.
  • Rheoli maint prydau.
  • Gwybod sut i storio cynnyrch bwyd gwahanol yn eich cartref. 
  • Deall y gwahaniaeth rhwng labeli dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’. 
  • Gwneud y mwyaf o fwyd dros ben yn y rhewgell. 
  • Gosod y tymheredd priodol ar gyfer yr oergell. 

Y Mis Hwn!

Ymchwiliad Cyhoeddus - I gyflawni carbon sero net.

Mewn cefnogaeth i’r datganiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru, cynhyrchodd a chyhoeddodd Cyngor Sir y Fflint ei Strategaeth Newid Hinsawdd gyntaf ym mis Chwefror 2022.

Gan gynnwys themâu megis defnydd tir, adeiladau, symudedd a chludiant, caffael a newid ymddygiad, mae’r Strategaeth yn nodi ystod o gamau gweithredu y bydd y Cyngor yn eu cymryd i gyflawni Carbon Net Sero erbyn 2030. Er mwyn craffu a monitro cynnydd y Cyngor yn erbyn y camau gweithredu hyn yn effeithiol, ffurfiwyd Pwyllgor Newid Hinsawdd ym Mai 2022. 

Fel rhan o’r gwaith hwn mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus ar ddau faes sy’n effeithio ar liniaru, ac addasu i, newid hinsawdd.

Mae’r cyntaf mewn perthynas â llifogydd o fewn ffiniau Sir y Fflint, yn arbennig llifogydd dŵr wyneb, ac mae’n awyddus i glywed gan bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd ac os ydynt yn teimlo bod atal llifogydd yn cael ei drin yn briodol.

Mae’r ail yn ymwneud â Chronfa Bensiynau Clwyd, ac mae’r Pwyllgor yn gofyn am farn ar ei dargedau buddsoddi net sero a dad-fuddsoddi mewn cwmnïau tanwydd ffosil.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Alasdair Ibbotson:

“Dyma’r Ymchwiliad Cyhoeddus cyntaf a gynhelir gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y Cyngor, ac rydym yn awyddus i glywed gan weithwyr proffesiynol, trigolion ac aelodau o’r cyhoedd sy’n barod i rannu eu profiadau, barn a meddyliau, ar un neu’r ddau destun sydd o dan sylw ar hyn o bryd.  Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw 18 Awst 2023 ar gyfer Llifogydd a 4 Awst 2023 ar gyfer Cynllun Pensiwn Clwyd, a hoffwn annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan.”

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i gymryd rhan ar wefan y Cyngor:

  • Cronfa Bensiynau Clwyd
  • Llifogydd

Gall preswylwyr sy’n methu cael mynediad at yr wybodaeth ar-lein y cyfeiriwyd ati uchod ymweld ag un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu rhwng 9am a 4.30pm ar y diwrnodau a restrir isod:

  • Bwcle – dydd Mawrth neu ddydd Iau.
  • Cei Connah, y Fflint neu Dreffynnon – dydd Llun i ddydd Gwener
  • Yr Wyddgrug – dydd Llun, dydd Mercher neu ddydd Gwener

Wythnos Natur Cymru - Sir y Fflint yn ei Blodau

Dewch i ddysgu am brosiect blodau gwyllt Sir y Fflint a darganfyddwch am y cyfoeth o fywyd y mae’r dolydd yma’n eu cefnogi! Ymunwch â’r tîm bioamrywiaeth, ynghyd â gwesteion eraill ar gyfer brwydr bach bioblitz rhwng ardaloedd lle caiff y gwair ei dorri, neu ei adael i dyfu er mwyn dathlu wythnos natur Cymru.  Mae'n ddigwyddiad llawn hwyl i bobl o bob oedran. Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 10am a 12pm ym Mharc Gwepra a 1pm a 3pm yn Nyffryn Maes Glas.

Bydd y digwyddiad yn dathlu wythnos natur Cymru rhwng 22 a 30 Gorffennaf, y thema eleni yw dathlu trysorau natur.