Alert Section

Newyddlen Newid Hinsawdd Rhif 4


Arbed ynni mewn ysgolion. 

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn brysur yn lleihau’r defnydd o ynni a’r allyriadau carbon dilynol o fwy na 26 o’n hysgolion ledled y sir. Rydym wedi bod yn lleihau ynni drwy newid hen fylbiau fflworoleuol am ddewisiadau eraill sy’n effeithlon o ran ynni megis goleuadau LED, gosod synwyryddion golau mewn ardaloedd na ddefnyddir llawer er mwyn osgoi gadael y golau ymlaen, gosod gorchuddion dros byllau nofio mewn canolfannau hamdden i gadw gwres yn nŵr y pyllau, uwchraddio gwresogyddion i ddewisiadau eraill sy’n defnyddio llai o ynni, a gosod cyfarpar ar adeiladau ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy fel ynni solar a gwynt.

School

Pam ydym yn lleihau’r defnydd o ynni mewn ysgolion?

Mae lleihau’r defnydd o drydan yn trosi’n uniongyrchol i leihau allyriadau carbon, a thrwy osod cyfarpar ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy gall yr ysgol elwa o’i thrydan ei hun. Mae’r rhain yn gamau pwysig iawn tuag at ein nod o fod yn Gyngor Di-garbon Net erbyn 2030, lleihau’r costau a delir gan yr ysgol am ynni, ac mae hefyd yn gyfle da iawn i gael y disgyblion i feddwl am newid hinsawdd a pha gamau gweithredu y gallwn ni i gyd eu cymryd.

School 2

Wyddech chi?

Mis Cerdded Cenedlaethol.

Mae gan Sir y Fflint lawer o lwybrau cerdded hygyrch ym mhob cwr o’r sir, yn amrywio o lwybrau arfordirol i barciau gwledig. Mae ein tîm mynediad wedi dyfeisio nifer o fapiau llwybrau sy’n amrywio o 1 i 2 filltir yn y Fflint, Bwcle, Caerwys, Ewlo, yr Hôb a Chaergwrle.

Mae gennym hefyd fap rhyngweithiol yn yr adran Hawliau Tramwy, lle gellwch ganfod holl lwybrau troed Sir y Fflint.

Cadwch olwg am y llyfryn newydd, Teithiau Cerdded Gwledig Sir y Fflint, sy’n dod yn fuan.

Sut allaf i gymryd rhan?

Mae’r Mis Cerdded Cenedlaethol yn digwydd o 1 i 31 Mai. Gellwch gymryd rhan am gyn lleied ag 20 munud i 40 munud y diwrnod, yn dibynnu ar lefel eich ffitrwydd a’ch amserlen. Gellwch wneud addasiadau bychain i’ch diwrnod er mwyn cael mwy o amser i gerdded a mwy o amser yn yr awyr agored.

  • Parciwch ymhellach oddi wrth ben eich taith, neu dewch oddi ar y bws un safle bws ynghynt.
  • Ewch am dro amser cinio neu gyda’r nos.
  • Dewiswch y llwybr gyda’r golygfeydd gorau.
  • Ewch i ymweld â pharciau neu lwybrau cerdded lleol gyda ffrindiau a theulu.
  • Cerddwch i’r siopau lleol.

Mae cerdded yn rhywbeth y gellwch ei wneud yn rhad ac am ddim, ac mae’n rhoi ymarfer i’ch corff cyfan. Gellwch ei gynnwys yn eich amserlen ddyddiol drwy ychwanegu teithiau cerdded bychain 10-20 munud o hyd os nad oes gennych amser ar gyfer taith 30-40 ar yr un pryd.

Pam mae cerdded mor bwysig?

Mae cerdded yn cyfrif tuag at y lefel a argymhellir o weithgaredd corfforol. Os ydych yn cerdded am 30 munud y diwrnod, o leiaf 5 niwrnod yr wythnos, byddwch yn dechrau teimlo rhai o fanteision arbennig cerdded, fel mwy o egni, llai o straen, a gwell cwsg, yn ogystal â mynd i’r afael â salwch cronig fel clefyd y galon ac iselder.

Pam mae’n bwysig ar gyfer newid hinsawdd?

Lleihau llygredd aer.

Drwy ddewis cerdded yn amlach yn hytrach na defnyddio eich car neu gludiant cyhoeddus, mae’n lleihau maint llygredd aer. Nid yn unig bod yr allyriadau o losgi petrol a disel yn llygru’r aer yr ydym yn ei anadlu, gyda’r posibilrwydd o achosi problemau iechyd, ond mae hefyd yn cyfrannu tuag at newid hinsawdd gan fod nwyon tŷ gwydr niweidiol yn cadw gwres yn yr atmosffer – gan gynhesu’r blaned.

Lleihau llygredd sŵn.

Mae cerdded mwy o gymorth i leihau nifer y cerbydau sy’n defnyddio’r ffyrdd, sy’n lleihau tagfeydd a’r sŵn sy’n dod o injans. Mae llygredd sŵn yn tarfu ar anifeiliaid a chynefinoedd, ac ar bobl hefyd.

Gwaith blodau gwylltion yn Sir y Fflint.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r Cyngor wedi bod yn cyflwyno ardaloedd o flodau gwylltion ac ardaloedd lle mae’r glaswellt yn cael ei dorri’n llai aml er mwyn hybu natur a lles ein cymunedau fel rhan o’r cynllun dyletswydd bioamrywiaeth “Cefnogi Natur yn Sir y Fflint”. 

Pam mae blodau gwylltion yn bwysig?

Mae ystad laswelltir mwy amrywiol yn darparu nifer o fuddion gan gynnwys rhwystrau sŵn a gweledol ar hyd ein ffyrdd, amsugno mwy o lygredd a dŵr, storio carbon yn well, a  rhoi cartref a ffynhonnell fwyd i’n bywyd gwyllt.

Gyda dim ond 2% o gynefinoedd glaswelltir traddodiadol ar ôl yn y DU, mae’n bosibl y gall y cam hwn greu cynefin pwysig ledled y sir, gan gynnal peillwyr hanfodol ac amgylchedd naturiol iach, sy’n bwysig ar gyfer lles preswylwyr.   

Wildflower 

Sut y rheolir y safleoedd hyn drwy gydol y flwyddyn?

Rheolir ein safleoedd blodau gwylltion drwy gynllun llai o dorri glaswellt. Mae hyn yn golygu torri’r glaswellt a’i gasglu unwaith y flwyddyn rhwng mis Awst a mis Medi. Mae’n hanfodol bod y toriadau’n cael eu casglu a’u cludo oddi yno. Mae hyn yn lleihau ffrwythlondeb a ‘grym’ y glaswellt o flwyddyn i flwyddyn, sydd o gymorth i rywogaethau blodeuog lluosflwydd barhau i sefydlu. (Rhywogaethau sy’n byw mwy na dwy flynedd.)

Lle gellir gweld y gwaith hwn yn Sir y Fflint?

Hyd yn hyn mae gennym 196 o safleoedd ledled Sir y Fflint a reolir ar gyfer blodau gwylltion, ac mae llawer o safleoedd i’w gweld yn hawdd ar hyd ymyl y ffyrdd a chylchfannau. Mae’r rhain yn cynnwys: Comin Bwcle, Llyfrgell Cei Connah, maes pentref Gwaenysgor, llain ymyl ffordd yr A548 ym Magillt, a chylchfannau fel Pen y Ffordd, yr Wyddgrug, Shotton a Maes Glas.

Wildflower 2

Felly, cadwch olwg am ffrwydrad o liw yr haf hwn ar y dolydd bychain yma!

Newidiadau pwysig i bolisïau.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r tîm bioamrywiaeth wedi bod yn gweithio’n galed i wneud rhai newidiadau i’r polisi cyfredol ar dorri glaswellt. Yn gynharach eleni, cynhaliwyd gweithdy ar gyfer Cynghorwyr gan staff Gwasanaethau Stryd a bioamrywiaeth er mwyn trafod colli bioamrywiaeth yn lleol, effeithiau defnyddio chwynladdwyr a chyfleoedd i newid arferion.

Mewn cam pwysig, cymeradwyodd y Pwyllgor Craffu y newidiadau i’r polisi sy’n ehangu’r arferiad o dorri’r glaswellt yn llai aml a rheolaeth torri a chasglu y tu hwnt i’n safleoedd blodau gwylltion. Mae’r polisi bellach yn cynnwys camau i hybu natur ym mhob ardal dan sylw, gan flaenoriaethu diogelwch defnyddwyr ffyrdd bob amser a sicrhau bod ein safleoedd yn edrych yn fwriadol, trwy ddefnyddio borderi torri glaswellt, llwybrau ac arwyddion lle bo angen. Cafwyd ymateb hynod gadarnhaol ynghylch y newidiadau hyn gan y gymuned.

Y Mis Hwn!

Mai Di-dor.

Beth yw Mai Di-dor?

Mae Mai Di-dor yn ymgyrch flynyddol sy’n edrych ar bwysigrwydd gadael i’n gerddi dyfu a ffynnu yn ystod mis Mai. Mae’n bwysig gwybod nad yw cadw’r glaswellt yn hir drwy gydol y flwyddyn y peth gorau i’w wneud – argymhellir dull haenog gyda dwy dôn sy’n hybu amrywiaeth blodeuol, neithdar a chynhyrchu paill drwy gydol y flwyddyn.

Pam mae’n bwysig?

Ers y 1930au, mae Prydain wedi colli bron i 7.5 miliwn o erwau o ddolydd a oedd yn gyfoethog mewn blodau gwylltion a thir pori. Gall y dolydd cyfoethog hyn gynnwys cannoedd o rywogaethau o blanhigion a all gynnal gweoedd cymhleth o famaliaid, infertebratau, adar a ffyngau. Heb y dolydd a’r tiroedd pori hyn mae bioamrywiaeth yn dirywio; fodd bynnag, mae gennym 15 miliwn o erddi, sydd â’r potensial i fod yn ffynhonnell neithdar bwysig.

Sut mae cymryd rhan?

Gellwch gymryd rhan drwy adael eich peiriant torri glaswellt yn y sied drwy gydol mis Mai, a gwylio eich gardd yn blodeuo i fod yn gartref bach ar gyfer bywyd gwyllt. Mae gan Plantlife ei ymgyrch ei hun, gyda newyddlen a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am bopeth yn ymwneud â Mai Di-dor.