Alert Section

Geirfa


Bioamrywiaeth 
Yr amrywiaeth o fywyd planhigion ac anifeiliaid sy’n ffurfio ein byd naturiol neu’n gynefin penodol.


Carbon Deuocsid a’i gyfatebol (CO2e)
 Y swm cyfatebol o garbon deuocsid a fyddai’n cynhyrchu’r un faint o gynhesu byd-eang dros gyfnod o 100 mlynedd.


Storfa Garbon
Faint o garbon sy’n cael ei storio yn yr amgylchedd naturiol fel pridd, coetir, mawndir ac ati. Gellir disgrifio’r rhain hefyd fel dalfeydd carbon. 


Ymaddasu i Newid Hinsawdd
Camau i helpu sefydliadau a chymunedau i baratoi ar gyfer effeithiau newid hinsawdd.  


Lliniaru Newid Hinsawdd 
Camau i helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac felly helpu i atal newid pellach yn yr hinsawdd. 


Asedau’r Cyngor 
Adeiladau a thir sy’n eiddo i Gyngor Sir y Fflint.


Datgarboneiddio
Lleihau dwysedd carbon ac allyriadau nwyon tŷ gwydr gweithgaredd neu wasanaeth neu sefydliad ehangach.


Allyriadau Uniongyrchol
Allyriadau nwyon tŷ gwydr i’r atmosffer o ffynonellau sy’n eiddo i sefydliad neu’n cael ei reoli ganddo fel llosgi nwy naturiol mewn bwyleri, llosgi petrol mewn cerbydau sy’n eiddo i gwmni ac ati. 


Seilwaith Gwyrdd
Term dal popeth i ddisgrifio’r rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol o fewn a rhwng ein pentrefi, ein trefi a’n dinasoedd. Mae’r nodweddion hyn yn amrywio o ran maint, o goed stryd, toeau gwyrdd a gerddi preifat i barciau, afonydd a choetiroedd. Ar y raddfa fwy, mae gwlypdiroedd, coedwigoedd a thir amaethyddol i gyd yn cael eu cynnwys yn y term.


Allyriadau Anuniongyrchol
Allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n ganlyniad i weithgareddau’r sefydliad ond sy’n digwydd mewn ffynonellau sy’n eiddo i sefydliad arall neu’n cael ei rheoli gan y sefydliad hwnnw. 


Asesiad Cylch Bywyd
Mae hon yn dechneg dadansoddi crud i fedd neu crud i’r crud i asesu effeithiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â holl gamau bywyd cynnyrch, sy’n deillio o echdynnu deunydd crai drwy brosesu, gweithgynhyrchu, dosbarthu, defnyddio a gwaredu deunyddiau. 


Carbon Sero Net
Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cael eu cydbwyso drwy dynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer megis gan goed, mewndir a thechnolegau dal a storio carbon. 


Gwrthbwyso
Gostyngiad mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr (e.e. tyrbinau gwynt yn lle glo) neu gynnydd mewn storio carbon / gwella tynnu nwyon tŷ gwydr (plannu coed, adfer mewndiroedd) y tu allan i ffin allyriadau nwyon tŷ gwydr sefydliad a ddefnyddir i ddigolledu allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n digwydd o fewn ffin y sefydliad.


Cwmpas 1/2/3 
Defnyddir i nodi ffynonellau allyriadau uniongyrchol ac anuniongyrchol i wella tryloywder a darparu defnyddioldeb i sefydliadau a pholisïau hinsawdd.

Cyfeiria Cwmpas 1 at allyriadau nwyon tŷ gwydr o ffynonellau sy’n eiddo i’r sefydliad neu a reolir ganddo.

Cyfeiria Cwmpas 2 at allyriadau nwyon tŷ gwydr anuniongyrchol a gynhyrchir o’r trydan a ddefnyddir gan sefydliad.

Cyfeiria Cwmpas 3 at yr holl allyriadau nwyon tŷ gwydr anuniongyrchol eraill a gynhyrchir o weithgareddau sefydliad. 


Dal a Storio
Tynnu carbon deuocsid o’r atmosffer ac yna ei storio, fel arfer drwy brosesau amgylcheddol fel ffotosynthesis, amsugno gan bridd, cefnforoedd ac ati.


Canllaw Sector Cyhoeddus Cymru ar gyfer Adrodd ar Garbon Sero-Net
Mewn ymateb i darged Llywodraeth Cymru o sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 datblygwyd system adrodd ar allyriadau nwyon tŷ gwydr newydd yng Nghymru lle bydd sefydliadau’r sector cyhoeddus yn adrodd eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr yn flynyddol i Lywodraeth Cymru. Darparwyd canllawiau manwl i gefnogi sefydliadau yn eu cyfrifiadau.