Sorted Sir y Fflint
Mae Tîm Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc SORTED Sir y Fflint yn rhan o’r ddarpariaeth ieuenctid integredig ac mae’n rhan o bortffolio Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint. Rydym yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr i blant a phobl ifanc hyd at 22 oed a’r nod yw lleihau’r perygl o niwed yn ymwneud â chyffuriau ac alcohol i unigolion, teuluoedd a’r gymuned.
Mae SORTED Sir y Fflint yn cynnwys gwaith atal mewn ysgolion a’r gymuned yn ogystal â gwaith wedi’i dargedu ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o gamddefnyddio sylweddau. Yn ogystal â hynny, mae gwasanaeth therapiwtig ar gael ar gyfer unigolion a grwpiau bychain o bobl ifanc, lle mae eu defnydd o sylweddau’n cael effaith negyddol ar fywyd bob dydd ac iechyd meddwl.
Mae ein Tîm yn cydweithio gyda phobl ifanc er mwyn adnabod angen unigol a theilwra ymyrraeth i fodloni’r angen hwnnw orau, yn ogystal â cheisio gwella cadernid a chanlyniadau o ran dyheadau yn y dyfodol. Mae SORTED Sir y Fflint yn cynnig ymgynghoriad ac arweiniad i bobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol ac yn darparu pecynnau hyfforddi pwrpasol ar gais.
RYDYM YN DAL I DDERBYN ATGYFEIRIADAU ER GWAETHA’R CYFYNGIAD PRESENNOL OHERWYDD COVID-19.
Am gyngor, cymorth neu atgyfeiriad cysylltwch â 01352 703490
sorted@flintshire.gov.uk