Alert Section

Cais Ailgylchu Eitemau / Gwastraff


Rydym wedi adolygu’n polisi casglu gwastraff i wella’n perfformiad ymhellach ac i sicrhau arbedion hanfodol.  

Yn y gorffennol, rydym wedi bod yn dosbarthu cynwysyddion ailgylchu fel blychau glas a bagiau ailgylchu ond, o 1 Mehefin 2015 ymlaen, ni fyddwn yn gallu rhoi’r rhain i chi. Bydd angen i bobl Sir y Fflint gasglu’r eitemau hyn o safleoedd ar hyd y lled y Sir.

Rydym yn monitro’r stoc yn ofalus felly ni fyddwch yn  gallu mynd i safle arall i gasglu’r eitemau. 

Ni fydd angen ichi dalu amdanynt a byddwn yn dal i roi biniau du/brown ar olwynion i chi. 

Darllenwch y canllawiau a ganlyn cyn gwneud cais am eitemau; os ydych yn cael cymorth gan y swyddogion casglu, ewch yn syth i bwynt 2. 

Newidiadau i Ofyn am Fagiau Gwastraff Bwyd

Ni fydd tag mewnosod bellach ar ddiwedd y rholyn i'w osod ar ddolen y cadi. Yn lle hynny, tua diwedd y rholyn bydd streipen goch yn ymddangos a fydd yn rhybuddio preswylwyr bod cyflenwad eu bagiau yn isel.

Gellir cael mwy o fagiau trwy glymu bag gwastraff bwyd wrth ddolen y cadi gwyrdd ar y diwrnod casglu.

Fel arall, gweler isod os ydych yn dymuno casglu bagiau bwyd yn bersonol.

Sut i wneud cais am Eitemau Ailgylchu:
(Bocsys Glas, Bagiau Glas, Bagiau Bwyd ac ati) 

Cam 1 - Penderfynwch o ba safle rydych am gasglu’r eitemau

Nodwch os gwelwch yn dda:

Nid oes angen cyfeirnod casgliad arnoch i gasglu eitemau ailgylchu o Sir y Fflint yn Cysylltu felly nid oes angen i chi lenwi'r ffurflen archebu ar-lein na chysylltu â Cysylltu â Ni.

Ymwelwch â'r Ganolfan gan roi eich cod post ac enw/rhif y tŷ yn ystod oriau agor.

Cam 2 - Cysylltwch â’r Gwasanaethu Stryd i ofyn am yr eitemau.

Cewch rhif cyfeirnod y casgliad, a bydd hwn yn bwysig gan y bydd ei angen arnoch pan fyddwch yn casglu’r eitemau o’r safle rydych wedi’i ddewis. Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Stryd drwy lenwi’r ffurflen isod neu ffoniwch 01352 701234.

Cais Eitemau Ailgylchu

Cam 3 - Ar ôl cael eich rhif cyfeirnod y casgliad, ewch i’r safle rydych wedi’i ddewis. Bydd angen i chi ddangos dogfen sy’n profi lle’r ydych yn byw hefyd.  Rhowch y wybodaeth i’r swyddog ar y safle a bydd yn rhoi’r eitemau i chi. 

Oherwydd monitro stoc llym, ni fyddwch yn gallu mynd i safle casglu gwahanol i'r un a ddewisoch wrth archebu.