Adnoddau Dysgu
Gwers Ailgylchu
Mae addysg ac ymgysylltu’n rhan bwysig o helpu i newid ymddygiad er mwyn annog rhagor o bobl i ailgylchu. Mae’r wers hon yn addas ar gyfer disgyblion rhwng 7 ac 11 oed a’r bwriad yw addysgu disgyblion am ailgylchu. Mae’n cefnogi strategaethau ‘Tuag At Ddyfodol Diwastraff’ Cymru a Gwastraff ac Adnoddau Sir y Fflint, ac yn addysgu disgyblion am bwysigrwydd ailgylchu, beth gellir ei ailgylchu, a’r siwrnai ailgylchu. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint, canllawiau i athrawon, cardiau gweithredu a chardiau trafod. Mae’r canllawiau’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, ond os hoffech chi ragor o wybodaeth / cymorth, cysylltwch â’r Tîm Strategaeth Gwastraff ar KerbsideRecycling@siryfflint.gov.uk.
Sleidiau Ategol Cynllun Gwers
Cyflwyniad
Canllawiau i Athrawon
Gwers Ailgylchu Sir y Fflint Canllawiau i Athrawon
Ffeithiau a Chardiau Trafod Ailgylchu
Cardiau Trafod
Cerdyn Gweithredu Ailgylchu
Cerdyn Gweithredu
WRAP Cymru
Ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych
Ewch i Ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych - Lawrlwytho Ysgolion dolen allanol
Ymunwch ag Ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych
Gweithgareddau am ddim sydd yn gysylltiedig â’r cwricwlwm a chystadleuaeth i blant rhwng 5 ac 11 mlwydd oed
Ewch i Ymuno ag Ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych dolen allanol