Gwastraff o Eiddo ar Rent yn Sir Y Fflint – Gwybodaeth i Landlordiaid ac Asiantau Gosod
Beth all landlord ei ddisgwyl gan Gyngor Sir y Fflint o ran gwastraff tenantiaid?
Mae casgliadau gwastraff ac ailgylchu o eiddo ar rent preswyl yn rhad ac am ddim.
Gall landlordiaid wneud cais am finiau gwastraff a bocsys ailgylchu i’w preswylwyr, boed mewn fflatiau, fflatiau un ystafell neu dai amlfeddiannaeth.
Caiff y bocsys eu darparu yn rhad ac am ddim ond byddant yn parhau i fod dan berchnogaeth Cyngor Sir y Fflint.
Trefnu Biniau Gwastraff a Bocsys Ailgylchu
Cysylltwch â Gwasanaethau Gwastraff Gwasanaethau Stryd.
Wrth gysylltu bydd gofyn i chi nodi’r math o eiddo, ac os oes ardal bin cymunedol, unedau unigol neu lety a rennir. Bydd y math o focsys a ddarperir yn cael ei bennu gan y mynediad sydd ar gael, y math o eiddo a’r nifer o denantiaid.
Os yw’r eiddo yn gyfleuster ar rent sefydledig neu’n adeilad newydd, mae’n rhaid cael mynediad digonol heb rwystrau i gerbydau a chriwiau sbwriel.
Pwysig: Gwybodaeth am Wastraff sydd ar gael i’ch Tenantiaid
Mae er budd pawb bod tenantiaid yn storio eu gwastraff yn y bocsys a ddarperir. Mae angen i wybodaeth fod ar gael o ran beth allwn ac na allwn ei gasglu, pa focsys i’w defnyddio ar gyfer gwahanu eu gwastraff, dyddiad casglu a sut i ddelio ag eitemau gwastraff swmpus.
I helpu gyda rhedeg casgliadau a storio gwastraff yn esmwyth, mae posteri a thaflenni gwybodaeth yn cael eu creu i Landlordiaid i helpu eu tenantiaid i ddefnyddio biniau / bocsys cymunedol neu unigol yn gywir.
Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn safonol yn Sir y Fflint, fodd bynnag bydd y wybodaeth a ddarperir yn bennaf yn weledol i helpu’r rheiny nad ydynt yn gyfarwydd â’r iaith.
Eitemau Gwastraff Mwy
Mae Sir y Fflint yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff swmpus i breswylwyr sydd eisiau cael gwared ag eitemau gwastraff mwy. Mae taliadau is ar gael i denantiaid sydd ar fudd-daliadau.
Gall tenantiaid neu landlordiaid drefnu hyn drwy gysylltu â Gwasanaethau Stryd.
Cwestiynau Cyffredin
Cyfrifoldeb y landlord yw rhoi gwybod i denantiaid beth sy’n ofynnol ohonynt o ran cael gwared a’u gwastraff.
Dylai landlord sicrhau bod tenantiaid yn ymwybodol o’r cyfleusterau ar gyfer gwaredu gwastraff a ddarperir gan Gyngor Sir y Fflint, a sut i gael gwared ag eitemau mwy yn gyfreithlon. Rhaid annog Ailgylchu hefyd.
Er mai’r tenant sydd angen gwaredu gwastraff y cartref o ddydd i ddydd, dan ei drwydded, cyfrifoldeb y landlord yw sicrhau bod biniau a dulliau gwaredu gwastraff digonol yn yr eiddo a bod y tenant yn cael gwybod sut a phryd i waredu gwastraff y cartref.
Gan fod y landlord yn berchen ar yr eiddo at ddibenion masnachol, mae’r gwastraff yn dod o dan y categori “gwastraff masnachol” ac nid gwastraff y cartref.
Er enghraifft, gall gynnwys gwastraff adeiladu, dymchwel, tirlunio’r ardd yr ydych yn ei wneud eich hun neu debyg, wedi’i greu gan y landlordiaid eu hunain neu gan gontractwyr neu adeiladwyr a gomisiynwyd gan y landlord.
Nid yw gwastraff sy’n cael ei adael ar ôl gan denant blaenorol yn dod o dan y categori ar gyfer gwastraff y cartref. Mae’n cael ei ystyried fel “gwastraff masnachol”, felly cyfrifoldeb y landlord yw cael gwared ohono.
- Gwastraff a gynhyrchwyd gan welliannau, atgyweiriadau neu newidiadau i’ch eiddo.
- Gosodiadau a ffitiadau a waredwyd sydd wedi’u darparu fel rhan o delerau prydles yr eiddo.
- Gwastraff sy’n cael ei symud ar ran tenant yn hytrach na’n cael ei waredu gan y tenant ei hun.
- Gwastraff sy’n cael ei adael ar ôl i denant adael yr eiddo.
Dan Adran 34 o’r Ddeddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990, mae gan landlordiaid sy’n rhentu eiddo rwymedigaethau cyfreithiol, sy’n cynnwys Dyletswydd Gofal i sicrhau bo’r holl wastraff sy’n codi o osod eiddo yn cael ei waredu’n gyfreithiol. Mae methiant i gydymffurfio yn drosedd a gall arwain at erlyniad.
Gall asiantau sy’n gweithredu ar ran landlordiaid honni cyfrifoldeb ar gyfer landlordiaid absennol.
Caiff eiddo sy’n cael ei rentu, ar gyfer preswylio neu’n fasnachol, ei ystyried fel busnes ac felly mae unrhyw wastraff sy’n cael ei gynhyrchu o ganlyniad i’r gweithgarwch busnes hwn yn cael ei ddosbarthu fel gwastraff masnachol.
Ni dderbynnir gwastraff gan landlordiaid mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Dim ond gwastraff y cartref a dderbynnir gan Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Cyngor Sir y Fflint. Mae gwaredu neu dderbyn gwastraff masnachol (a ddiffinnir fel gwastraff Landlordiaid) yn anghyfreithlon.
Mae mynd â’r gwastraff i gyfleuster trwyddedig addas fel cwmni gwaedu gwastraff cofrestredig lleol yn cyflawni eich cyfrifoldebau.
Os oes angen i chi symud gwastraff o’ch eiddo ar rent bydd angen i chi fod wedi cofrestru fel cludwr gwastraff.
Cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru.
- Gwastraff a gynhyrchwyd gan y tenant yn ystod ei denantiaeth e.e. gwastraff cyffredinol (gwastraff bwyd, clytiau ac ati)
- Ailgylchu (cynhwysyddion plastig, caniau, papurau ac ati.)
- Gwastraff gardd hefyd os yw’n berthnasol i’r eiddo ar rent
Mae’r rhain i gyd yn gyfrifoldeb ar y tenant i’w gwaredu drwy wasanaethau casglu gwastraff domestig y Cyngor a ddarperir i bob eiddo preswyl gradd Treth y Cyngor h.y. lle mae’r tenant wedi cofrestru ac yn talu Treth y Cyngor ar gyfer yr eiddo drwy ei rent neu’n uniongyrchol i’r Cyngor.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio contractwr gwastraff trwyddedig addas. Ystyriwch ychwanegu cymal i’ch cytundeb tenantiaeth sy’n gofyn i’r eiddo gael ei glirio o’r holl wastraff ar ddiwedd y cyfnod rhent. Gall methiant i gydymffurfio arwain at godi tâl ar y tenant i symud y gwastraff.
Fodd bynnag, bydd y Landlord wedyn yn gyfrifol am unrhyw wastraff sy’n cael ei gadw ar ôl.
Efallai y bydd yn fwy cost effeithiol i sefydlu contract gyda chwmni casglu gwastraff gan mai eich cyfrifoldeb chi yw’r gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu gan welliannau, atgyweiriadau neu newidiadau i’ch eiddo a’r holl wastraff sy’n cael ei symud ar ran y tenant.
Nid yw Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint yn derbyn gwastraff gan landlordiaid gan ei fod yn anghyfreithlon.