Alert Section

Rheolau Tŷ Cyfryngau Cymdeithasol

Rydym i gyd yn gyfrifol am gynnwys rydym yn ei roi ar gyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â chynnwys rydym yn dewis ei rannu.

Mae Cyngor Sir Y Fflint yn defnyddio ystod o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, fel Facebook, Twitter, Instagram a LinkedIn i ymgysylltu â phreswylwyr, cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth.

Hoffem i chi ein dilyn ni ar un o’n n sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Rydym yn cydnabod bod cyfryngau cymdeithasol yn sianel bwysig o gyfathrebu i rannu gwybodaeth a chyngor am ein gwasanaethau.  Rydym eisiau i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol fod yn fannau ble mae pobl wedi ymrwymo i #BodYnGaredigArLeinCSFf ble mae pobl yn hyderus i rannu eu barn, hyd yn oed ar adegau pan fyddant yn wahanol i’n rhai ni.

Rydym yn credu y dylai cyfryngau cymdeithasol fod yn sianel gyfathrebu ble mae pawb yn cael ei barchu a’i gefnogi, heb unrhyw fath o seiberfwlio. Wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu gyda ni rydym yn disgwyl i bawb ddilyn ein Rheolau Tŷ #BodYnGaredigArLeinCSFf:


Byddwn yn cymryd camau ar unwaith ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol os bydd cynnwys mewn unrhyw fformat, fel sylwadau, fideos, delweddau, GIFau, atodiadau, dolenni, emojis: 

• yn ddifenwol, athrodus, camarweiniol neu ffug 

• yn sarhaus neu’n fygythiol – mae hyn yn cynnwys rhegi, addasu sillafiad gyda’r un ystyr ac ati

• yn dychryn ein gweithwyr, aelodau etholedig neu ddefnyddwyr eraill cyfryngau cymdeithasol 

• ble mae swyddogion y cyngor ac neu aelodau etholedig yn cael eu henwi gyda’r bwriad o achosi niwed neu embaras iddynt

• yn annog trosedd casineb neu eiriau trosedd casineb. Ewch i’n tudalen Trosedd Casineb am fwy o wybodaeth.

• yn frwnt, amharchus neu â gogwydd rhywiol• gwahaniaethol mewn unrhyw ffordd • hybu gweithgaredd anghyfreithlon

• hybu cynnyrch neu wasanaethau unigol

• oddi ar y pwnc yn llwyr 

• ble mae’r un neges yn cael ei chynnwys sawl gwaith, a elwir fel arall yn ‘sbamio’.

• yn ddadleuol, amherthnasol neu oddi ar y testun, a elwir fel arall yn ‘trolio’.

• yn cynnwys gwybodaeth breifat neu sy’n adnabod unigolyn penodol, yn nodweddiadol gyda chynnwys maleisus, a elwir fel arall yn docsio.

• sy’n anelu i hybu gwybodaeth anghywir, camarweiniol neu niweidiol gyda’r bwriad o ddylanwadu ar eraill.


Pan mae Rheolau Tŷ yn cael eu torri 

Rydym i gyd yn gyfrifol am gynnwys rydym yn ei roi ar gyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â chynnwys rydym yn dewis ei rannu.

Os bydd cynnwys yn torri ein Rheolau Tŷ, mae’n bosibl y byddwn yn ei guddio neu’n ei ddileu.  Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn ymateb yn gyhoeddus i gynnwys sy’n torri ein Rheolau Tŷ neu drwy neges uniongyrchol yn gofyn iddo gael ei ddileu ar unwaith. 

Ble nad yw pobl yn dilyn ein Rheolau Tŷ ac nad ydynt yn cywiro eu hymddygiad pan ofynnir iddynt, mae’n bosibl y byddwn yn rhwystro mynediad i’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn dweud wrth bobl pan fyddwn yn gwneud hyn. 

Yn dibynnu ar y cynnwys, mae’n bosibl y byddwn hefyd yn cynnwys sgrinlun o negeseuon cyfryngau cymdeithasol ac yn ystyried camau cyfreithiol neu’n rhoi gwybod i’r Heddlu ar gyfer ymchwilio. 


Cyhuddiadau yn erbyn ein gweithwyr ac Aelodau etholedig 

Rydym yn ystyried honiadau o gamymddwyn yn erbyn gweithwyr ac aelodau etholedig yn ddifrifol iawn.

Mae gennym weithdrefn Gwyno ar gyfer delio gyda honiadau o’r fath. 

Os bydd yna honiad ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol byddwn yn darparu cyngor ar y sianel mwyaf priodol i’w ddilyn fel y gellir ei ymchwilio’n llawn. Bydd negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn honni camymddwyn yn cael eu dileu.


Honiadau neu ddatgeliadau diogelu

Mae pryderon diogelu yn achosi pryder mawr i ni.  Bydd holl honiadau neu ddatgeliadau diogelu ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn cael eu cyfeirio i’r sefydliadau perthnasol i’w hymchwilio.

Bydd negeseuon cyfryngau cymdeithasol sy’n ymwneud â materion diogelu yn cael eu dileu tra byddant yn cael eu hymchwilio. Rydym bob amser yn argymell rhoi gwybod i ni yn uniongyrchol am bryderon diogelu. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalen Diogelu.


Cwynion

Rydym yn deall weithiau pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le fod pobl yn gallu bod yn anfodlon gyda ni. Mae gennym weithdrefn gwyno sy’n egluro sut i gwyno yn erbyn gwasanaeth.

Rydym yn annog pobl i ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am gwyn oherwydd efallai y byddwn angen gwybodaeth bersonol na ellir ei rhannu ar gyfryngau cymdeithasol. Os byddwch yn codi pryder ar gyfryngau cymdeithasol yna mae’n bosibl y byddwn yn gohebu gyda chi yn breifat i gasglu gwybodaeth fydd yn ein cynorthwyo i wella pethau.

I gael mwy o wybodaeth am sut i gofrestru pryder neu gŵyn ewch i’n tudalen Pryderon a Chwynion.


Cyfnod Etholiad 

Yn y cyfnod hyd at etholiad, mae yna reolau caeth ar y wybodaeth y gallwn ei chyhoeddi er mwyn cynnal niwtraliaeth wleidyddol, mae hyn yn berthnasol i bob Cyngor.

Er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith, os bydd unrhyw neges yn cael ei dehongli yn cefnogi plaid neu ymgeisydd yn ystod cyfnod yr Etholiad, mae’n bosibl y byddwn yn gorfod ei dileu.


Oriau

Mae ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael eu monitro 8.30am tan 5pm dydd Llun tan ddydd Gwener. 

Mewn achos o argyfyngau neu ddigwyddiadau mawr, mae’n bosibl y byddwn yn cynnwys negeseuon y tu allan i’r oriau hyn ac er na allwn warantu ymgysylltu â sylwadau cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr amseroedd hyn, byddwn yn cyhoeddi’n glir ble gall pobl fynd i gael ateb i’w cwestiynau yn ystod argyfwng neu ddigwyddiad mawr.     


Logo a brandio 

Byddwn yn rhoi gwybod i’r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol perthnasol am unrhyw broffiliau a sefydlir yn defnyddio logo Cyngor Sir y Fflint, brandio neu ddelweddu, yn cynnwys ffontiau heb ganiatâd.  Gall hyn gynnwys cymryd unrhyw gamau cyfreithiol. 


Monitro a chymedroli

Er ein bod yn monitro ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gellir rhoi gwybod am unrhyw bryderon am sylwadau ymosodol drwy negeseuon preifat ar unrhyw adeg.  

Gellir rhoi gwybod am unrhyw bryderon am gynnwys ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol drwy customerservices@flintshire.gov.uk.