Cymuned y Lluoedd Arfog
Beth yw'r Cyfamod?
Ni ddylai unigolion sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, Arferol neu Wrth Gefn, unigolion sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol, na’u teuluoedd, wynebu anfantais o’i gymharu â dinasyddion eraill wrth gael darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a masnachol. Mae angen rhoi ystyriaeth arbennig mewn rhai achosion, yn enwedig i unigolion sydd wedi rhoi'r mwyaf, fel y rhai sydd wedi'u hanafu a'r rhai sydd wedi cael profedigaeth.
Datganiad o Ddisgwyliad
Mae’r rhwymedigaeth yn cynnwys pob aelod o gymdeithas: mae’n cynnwys cyrff gwirfoddol ac elusennol, sefydliadau preifat, a chamau gweithredu unigolion sy’n cefnogi’r Lluoedd Arfog. Mae cydnabod yr unigolion sydd wedi cyflawni dyletswydd filwrol yn uno’r wlad ac yn dangos gwerth eu cyfraniad. Does dim ffordd well o fynegi hyn na thrwy gefnogi’r Cyfamod hwn.
Cronfa’r Cyfamod
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi rhoi £10 miliwn y flwyddyn (Cronfa’r Cyfamod) i gefnogi cymuned y lluoedd arfog. Mae sawl maes blaenoriaeth ar gyfer ceisiadau grant, sy'n amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r blaenoriaethau hyn yn cael eu dewis i gefnogi darpariaeth y Cyfamod a chryfhau perthnasau rhwng y gymuned lluoedd arfog a’r gymuned sifil.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn prosesu eich data dim ond i’r pwrpas penodol o ymateb i’ch ymholiad i Dîm y Lluoedd Arfog. O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, y sail gyfreithlon dros brosesu’r wybodaeth hon yw bod arnom ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus o dan Ddeddf y Lluoedd Arfog 2021 a Rheoliadau (Cyfamod) y Lluoedd Arfog 2022.
Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data gydag unrhyw sefydliad arall heb eich cydsyniad.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data am 3 blynedd o ddyddiad cwblhau eich ymholiad. Os ydych yn teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan www.ico.org.uk/concerns neu ffonio eu llinell gymorth: 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau chi, darlenwch yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.