Mae llyfryn Teithiau Cerdded Gwledig Sir y Fflint yn argymell 25 o deithiau cerdded gorau’r sir ac yn cynnwys mapiau, cyfarwyddiadau a ffotograffau lliw, yn ogystal â llawer o straeon lleol. Yn ogystal â Bryniau Clwyd a grybwyllir uchod, gallwch archwilio glannau afonydd tawel, dyffrynnoedd coediog a thir amaethyddol tonnog Llanasa, Ysgeifiog, Chwitffordd a Chaergwrle. Dewch i ddarganfod arfordiroedd llawn bywyd gwyllt Talacre ac aber Afon Dyfrdwy. Neu am dro bach gwahanol, beth am ddarganfod y straeon cyfoethog am dreftadaeth ddiwydiannol Helygain, Maes Glas a Bwcle?