Croeso i Sir y Fflint
Croeso i Sir y Fflint
Mae gan y sir brydferth hon gefn gwlad ac arfordir sy’n gyforiog o hanes hynod ddiddorol. Mae modd teithio yno’n hwylus ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd sy’n ei gwneud hi’n gyrchfan hawdd ei chyrraedd.
Mae Sir y Fflint yn gymysgedd hudolus o bentrefi gwledig, trefi marchnad traddodiadol, traethau tywod, cestyll canoloesol a rhai o’r golygfeydd mwyaf bendigedig yng Ngogledd Cymru. Mae Bryniau Clwyd, lle ceir nifer o fryngaerau hynafol, yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae’n cynnwys rhan o lwybr Clawdd Offa. Yn y llyfryn Cerdded yng Nghefn Gwlad yn Sir y Fflint gwelir 25 o’r teithiau cerdded gorau yn y Sir.
Mae crwydro’r sir yn hawdd os dilynwch chi Daith Hamdden Sir y Fflint, sy’n 83 milltir o hyd. Rhennir y daith yn naw adran amrywiol, a thrwy ddefnyddio’r llyfryn a dilyn yr arwyddion, cewch hyd i nifer o leoedd diddorol.
Llyfrynnau Cymunedol Sir y Fflint Wledig. Mae'r llyfrynnau dweud stori ddiddorol am y dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a naturiol a fydd yn apelio at drigolion lleol ac ymwelwyr â'r sir.