Alert Section

Gyrfaoedd

Dyma gyflwyno Gwella, enw masnachu newydd Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint Cyfyngedig.

Mae Gwella yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am reoli canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, datblygu chwaraeon, Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, gwasanaethau treftadaeth a mannau chwarae i blant yn Sir y Fflint.

Mae’n hyfryd gweld bod gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â thîm Gwella. Mae gennym amrywiaeth eang o swyddi ar gael ar draws ein gwasanaethau, gan gynnwys swyddi proffesiynol a chyfleoedd i weithwyr wrth gefn.

Mae rhestr o bob un o’n swyddi gwag i’w gweld isod.  

Gwella Logo - Dark Variant

Gwella bywydau drwy iechyd a lles.

swoosh

Glanhawr


Rydym yn dymuno recriwtio unigolion sy’n gallu dangos menter ac yn ymfalchïo mewn darparu glanweithdra o safon uchel fel rhan o dîm brwdfrydig ac ymroddgar.

Am sgwrs anffurfiol am y cyfle, cysylltwch â Goruchwyliwr Ffitrwydd Gwella ar alan.duppa@siryfflint.gov.uk

Swydd-ddisgrifiad

  • Cyfradd Tâl: £22,954 y flwyddyn (pro rata) neu £11.90 yr awr, Parhaol, Rhan amser (20 awr)
  • Lleoliad: Sba Afon yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
  • Cyfeirnod y Swydd: T0000001058
  • Dyddiad Cau Ceisiadau: 19/01/2025
  • Buddion: 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn codi i 32 gyda hyd wasanaeth; cynllun pensiwn cystadleuol, ac aelodaeth o gampfa a sba am bris gostyngol

Gwneud cais

Lawrlwytho ffurflen gais

Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i llenwi dros e-bost i alan.duppa@siryfflint.gov.uk