Darganfyddwch fwy am ein cynllun rheoli dolydd drwy'r flwyddyn mewn ardaloedd glaswelltir a blodau gwyllt.
-
Chwefror - Mawrth
Yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn mae’n bwysig torri’r gwair a chasglu’r toriadau ar y safleoedd sydd wedi gweld tyfiant mawr. Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau i’n blodau gwyllt dyfu a chystadlu’n llwyddiannus yn erbyn y glaswellt.
-
Ebrill - Gorffennaf
Yn ystod misoedd cynhesach y flwyddyn, rydym ni’n gadael i’n glaswelltiroedd dyfu. Drwy wneud hyn rydym ni’n caniatáu i’r blodau flodeuo ac ail hadu eu hunain.
-
Awst - Hydref
Unwaith mae’r blodau wedi hadu, mae’n bwysig torri a chasglu’r toriadau gwair. Mae hynny’n tynnu’r maetholion o’r pridd ac yn helpu i greu’r amgylchedd perffaith i’r blodau gwyllt.
-
Tachwedd - Ionawr
Yn ystod misoedd y gaeaf, rydym ni’n gadael ein safleoedd heb eu torri oni bai bod y glaswellt wedi tyfu gormod ac yn mynd i gystadlu yn erbyn ein blodau gwyllt yn y gwanwyn.
Lawrlwythwch 'Ein gwaith rheoli dolydd drwy'r flwyddyn'