Alert Section

Trychfilod

Bydd hyd yn oed y ddôl flodau gwyllt leiaf yn denu ystod o wahanol drychfilod.

Mae’r rhan fwyaf o’r anifeiliaid di-asgwrn-cefn hyn yn dibynnu ar flodau gwyllt am ffynhonnell o fwyd. Yn eu tro mae’r blodau yn dibynnu ar y trychfilod i’w peillio a sicrhau eu bod yn gallu cynhyrchu hadau. Mae’r berthynas hon yn golygu eich bod yn sicr o weld llawer o bryfed lliwgar. Felly beth allwch chi ei ddarganfod yn y dolydd blodau gwyllt o amgylch Sir y Fflint. Isod mae rhai enghreifftiau cyffredinol o’r hyn y gallech chi ei ddarganfod, ond cadwch eich llygaid ar agor! Mae llawer mwy y gallech chi ei ddarganfod yn llechu rhwng y glaswellt a phennau’r blodau.


Gloÿnnod byw a gwyfynod

Gall gloÿnnod byw a gwyfynod yn aml fod yn lliwgar iawn gydag adenydd llydan patrymog. Maent yn rhywogaethau pwysig i ddangos pa mor iach yw ein hamgylcheddau ac maent yn ychwanegiad lliwgar i’n mannau trefol.

Gloÿnnod Byw:

Melyn y rhafnwydd (Gonepteryx rhamni)

Glöyn byw melyn mawr gydag adenydd sy’n debyg i ddail. Gall y rhai benywaidd fod yn hufen o ran eu lliw ac maent yn cael eu drysu’n aml gyda’r glöyn byw gwyn mawr.

Mantell Garpiog (Polygonia c-album)

Mae gan y glöyn byw oren frown hwn adenydd bylchog dwfn, sy’n gwneud iddo ymddangos yn eithaf carpiog.  Pan fo’i adenydd ar gau gallwch weld marc arian ar siâp coma sydd wedi rhoi ei enw Saesneg ‘Comma’ i’r glöyn byw hwn.

Mantell Goch (Vanessa atalanta)

Mae’r adenydd du gydag ymylon coch i’r adenydd ôl a streipiau coch ar draws yr adenydd blaen yn gwneud y glöyn byw hwn yn nodweddiadol iawn. Mae’r Fantell Goch yn gyffredin iawn yn y DU gan eu bod yn ymfudo o ganol Ewrop yn ystod yr haf.

Trilliw bach (Aglais urticae)

Gydag ymylon glas tywyll brith, mae gan y glöyn byw hwn adenydd oren yn bennaf gyda sgwariau melyn, du a gwyn ar hyd yr ymylon blaen.

Mae yna fwy o wybodaeth am loÿnnod byw ar wefan y Butterfly Conservation

Gwyfynod

Gwyfyn y Creulys (Tyria jacobaeae)

Mae gan Wyfyn y Creulys adenydd ôl coch llachar gydag adenydd blaen du, gyda streipiau a dotiau. Ni allwch golli hwn hyd yn oed wrth iddo hedfan.

Gwyfyn yr Hen Wrach (Callistege mi)

Mae adenydd y gwyfyn hwn yn frith o farciau brown a gwyn, sydd yn ôl pob sôn yn creu amlinelliad o wyneb gwrach.  Mae ei adenydd ôl hefyd yn frown gyda smotiau hufen.

Gwyfyn y Bwrned Chwe Smotyn (Zygaena filipendulae)

Mae gan y gwyfyn hwn 6 smotyn coch llachar ar bob adenydd blaen yn erbyn cefndir du sgleiniog. Mae ei adenydd ôl hefyd yn goch gydag ymylon du.  Mae ei gorff a’i antena yn flewog iawn.

Coediwr (Adscita statices)

Gwyfyn gydag adenydd blaen gwyrddlas symudliw ac antena du hir trwchus.   Mae ei adenydd ôl yn fwy gwelw.

Mae yna fwy o wybodaeth am wyfynod ar wefan Coed Cadw


Gwenyn

Mae gwenyn yn drychfilod carismatig sy’n cael llawer o sylw gan fod eu niferoedd yn gostwng yn gyflym iawn ac mae hyn yn cael effaith. Gellir rhannu gwenyn i 3 brif grŵp; cacwn, gwenyn mêl a gwenyn unig.

Cacynen Cynffon Goch (Bombus lapidarius)

Fel mae’r enw’n awgrymu mae gan y cacwn hyn gynffon oren-goch tra bod gweddill eu cyrff yn ddu. Bydd gan y rhai gwrywaidd ben a choler melyn.

Cardwenynen gyffredin (Bombus pascuorum)

Mae’r gwenyn hyn yn fach ac yn gyfan gwbl frown, sy’n unigryw i rywogaethau’r DU. Gall eu lliw amrywio o felyngoch i frown tywodlyd.

Gwenynen durio lwydfelyn (Andrena fulva)

Gyda chôt felyngoch drwchus a wyneb du mae’n rhywogaeth hawdd iawn i’w hadnabod.

Gwenynen ddeildorrol (Megachile centuncularis)

Math o wenyn unig sy’n llai blewog. Mae gan wenyn deildorrol frwsh paill sy’n rhedeg ar hyd ochr isaf eu habdomen.

Mae yna fwy o wybodaeth am wenyn ar wefan Coed Cadw


Chwilod

Buwch Goch Gota 7 smotyn (Coccinella septempunctata)

Dyma’r rhywogaeth fwyaf adnabyddus o’r fuwch goch gota yn y DU. Mae ganddi 7 smotyn du nodweddiadol ar ei chloradenydd.

Chwilen Goesdew (Oedemera nobilis)

Mae wedi cael yr enw hwn o ganlyniad i gluniau chwyddedig amlwg y gwrywod ar eu coesau cefn. Mae’r chwilod 6-11mm yn wyrdd symudliw gyda gorchudd adenydd main a hir nad ydynt yn cwrdd yn iawn yn y canol.

Ceffyl y cythraul (Staphylinus olens)

Mae’r chwilen hon o faint canolig yn loywddu ac mae ganddi enau amlwg. Mae’n dal ei chynffon ar ochr yn debyg iawn i sgorpion.

Chwilen gladdu (Nicrophorus vespilloides)

Gyda chloradenydd fflat a sgwâr, mae gan y chwilen hon farciau oren llachar a du ar ei chefn. Mae’n edrych yn debyg iawn i lawer o chwilod tyrchol eraill. Gall gyrraedd 3cm mewn hyd.

Chwilen Milwr Coch (Rhagonycha fulva)

Mae’r chwilod milwrol wedi eu henwi fel hyn o ganlyniad i’w patrwm coch a gwyn sy’n debyg i wisg swyddogol milwr. Mae ganddynt gyrff hirsgwar hir a main ac maent yn cyrraedd hyd at 1cm o ran hyd.

Mae yna fwy o wybodaeth am chwilod ar wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt


Pryfed cop

Pryf cop yr Ardd (Araneus diadematus)

Dyma’r pryf cop cronnell mwyaf cyffredin yn y DU. Mae ganddynt gorff llwyd-frown gyda chroes wen ar eu cefnau.

Pryf Cop Hela  (Pisaura mirabilis)

Maent i’w gweld fel arfer mewn glaswelltiroedd ac mae’r pryf cop hwn yn fawr gyda chorff main. Mae’n llwyd-frown gwelw gyda phatrymau brown tywyll yn rhedeg ar hyd ochr ei gorff.

Carw’r Gwellt (Phalangium opilio)

Mae’r trychfilod hyn yn hawdd i’w hadnabod o ganlyniad i’w coesau hir main a’u cyrff bach crwn sydd heb ganol. Mae carw’r gwellt yn frowngoch ar y top ac yn wyn oddi tano.

Mae yna fwy o wybodaeth am bryfaid cop ar wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt