Alert Section

Arolwg Mannau Gwyrdd Cyhoeddus


Rydym yn cynnal arolwg mannau gwyrdd cyhoeddus i gael safbwyntiau ar y defnydd o fannau gwyrdd lleol.

Cliciwch yma i ddweud eich dweud


 

Y dyddiad cau i roi adborth yw dydd Llun 22 Awst 2022.

Rydym eisiau cefnogi ein cymunedau yn Sir y Fflint i fyw bywydau iach ac actif. Mae gennym hefyd nifer o ymrwymiadau corfforaethol yn ein Cynllun y Cyngor, Strategaeth Newid Hinsawdd a’r Cynllun Bioamrywiaeth i reoli ein tir gyda natur mewn cof.

Mae mannau gwyrdd lleol yn hynod o bwysig ar gyfer y bobl yn ein cymunedau ac maent yn gynyddol ddod yn lloches hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt yn ein hamgylchedd trefol. 

Mae’r Adroddiad Sefyllfa Byd Natur diweddaraf yn dangos fod 1 mewn 6 rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu. 66% o wyfynod a 70% o loÿnnod byw yn gostwng yn hirdymor. Mae 7 rhywogaeth o wenyn eisoes wedi diflannu yng Nghymru, a 5 rhywogaeth arall mewn perygl uchel o ddiflannu. Mae bron i draean o rywogaethau cacwn yn gostwng yn helaeth o ran amrywiaeth. Mae hyn angen gweithredu cenedlaethol a lleol ystyrlon ar frys. 

Mae nifer o astudiaethau sy’n amlygu buddion lles ac iechyd, o dreulio amser yn ac o amgylch natur. Trwy gefnogi natur o fewn ein mannau gwyrdd trefol rydym yn darparu mwy o gyfleoedd i bobl gael y buddion hynny a chael profi natur eu hunain.

Bydd canlyniadau’r arolwg mannau gwyrdd hwn o gymorth wrth gefnogi a chyfeirio camau yn y dyfodol o ran mannau gwyrdd sydd ar gael i’r cyhoedd ar gyfer natur a phobl.