Parciau a chefn gwlad
Mae amgylchedd naturiol Sir y Fflint yn unigryw. Mae’r tirlun yn ymestyn o fynydd i arfordir, gyda Pharciau Gwledig ag amrywiaeth prydferth hygyrch rhwng y ddau.
Mae Parciau Gwledig Sir y Fflint; Parc Gwepra a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas i gyd wedi ennill gwobr Parc y Faner Werdd, sy’n ofodau naturiol gwerthfawr, o ansawdd uchel, ac yn llawn hanes a bywyd gwyllt. Mae’r Parciau yn hygyrch i bawb gael eu harchwilio a’u mwynhau.
Amgueddfa a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas
Lleolir Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, ac mae’n cynnwys 70 erw o hanes diwydiannol. Yn hanesyddol, roedd Dyffryn Maes Glas yn cyflogi cannoedd o bobl yn ei ffatrïoedd copr a’i felinau cotwm, sydd erbyn hyn yn fannau gwyrdd agored, gwych. Mae’r Dyffryn yn gartref i nifer o henebion rhestredig ac yn le delfrydol i fywyd gwyllt. Mae’r Ganolfan Ymwelwyr, sydd am ddim, yn cynnig gwybodaeth ar y diwydiant, gweithgareddau a theithiau cerdded. Rheolir Dyffryn Maes Glas gan Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas, elusen cofrestredig sy’n ganlyniad i waith Cyfeillion Dyffryn Maes Glas yn y 1980au. I ddysgu rhagor ewch i wefan Amgueddfa a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas.
Datblygwyd Amgueddfa Dyffryn Maes Glas o amgylch adeiladau amaethyddol Fferm yr Abaty gwreiddiol, a oedd yn fferm waith nes 1979. Cafodd adeiladau a achubwyd o rannau eraill Sir y Fflint eu symud yma hefyd i ffurfio amgueddfa awyr agored, sy'n cynnwys ffermdai hanesyddol ac ysgoldy Fictoraidd. Mae’r rhan fwyaf y casgliadau’n ymestyn o ddyddiadau rhwng 1850 a 1950, ac yn cynnwys amrywiaeth o themâu gan gynnwys amaethyddiaeth, hanes cymdeithasol a hanes diwydiannol yr ardal leol.
Dathlwch a diogelwch y gorffennol heddiw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yfory
Mae cyfleoedd yn bodoli i wneud gwahaniaeth a bod yn rhan o’r fenter gyffrous hon. Mae Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas yn dymuno recriwtio tri Ymddiriedolwyr i’r Bwrdd. Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, ewch i Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas.
Parc Gwepra
Mae Parc Gwepra yn fan gwyrdd 160 erw, sy’n cuddio yng Nghalon Cei Connah. Mae’n safle unigryw gyda chynefinoedd a daeareg amrywiol. Mae nodweddion yn cynnwys; Gerddi’r Hen Neuadd, Ffrwd a Rhaeadr, erwau o goetir gyda llwybrau cerdded a Chastell Ewlo i gyda ar agor i'r cyhoedd i'w harchwilio. Mae gennym faes chwarae am ddim i blant gorau’r rhanbarth, dau gae pêl-droed, pwll pysgota wedi ei reoli’n dda a Chanolfan Ymwelwyr gyda staff i’ch helpu i fwynhau eich ymweliad.
Llyfryn Darganfod Parc Gwepra
Cynllun RheoliParc Gwepra
Mae cyfeillion Parc Gwepra yn grŵp deinamig sy’n weithredol ar y safle ynghyd â'r ceidwaid wrth gefnogi a chynnal digwyddiadau. I ymuno, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Cadeiryddfrirndsofweprepark@hotmail.co.uk neu galwch heibio Ganolfan Ymwelwyr Parc Gwepra.
Ymunwch â ni i gael eich ysbrydoli ar unrhyw un o'n teithiau tywys, sgyrsiau neu ddigwyddiadau i ddarganfod harddwch Sir y Fflint o'ch amgylch.
Mae llyfryn Teithiau Cerdded Gwledig yn Sir y Fflint yn cynnwys 25 o deithiau cerdded gorau’r Sir, ac yn trafod sawl ardal y disgrifir isod. Mae’n disgrifio tirluniau allweddol Sir y Fflint hefyd.
Yn Sir y Fflint, mae’r hawl mynediad yn cynnwys rhannau o Fryniau Clwyd. Yn ychwanegol at hynny, gallwch gwrdded ar hyd Tir Comin Bwcle a Mynydd Helygain, sy'n Diroedd Comin Dinesig.
Gweler ffiniau penodol unrhyw ardal fynediad agored a thir mynediad agored arall yng Nghymru ar https://naturalresourceswales.gov.uk/?lang=cy (ffenestr newydd)
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Mae ardaloedd yn Sir y Fflint sy’n ffurfio rhan o Fryniau Clwyd, sy'n gadwyn amlwg o gopaon, a nifer ohonynt dan fantell borffor y rhostir grugog gyda bryngaerau yn lleoliadau mwyaf dramatig Prydain ar eu pennau. Mae ardal Bryniau Clwyd yn cynnwys: tir calchfaen gyda chreigiau, palmentydd a glaswelltir dan gadwraeth arbennig; afonydd a nentydd sy’n llifo trwy ddyffrynnoedd coediog hudol; gweadau amrywiol bryniau’r fforestydd; a'r tir ffermio ffrwythlon sydd ar y llethrau is. Dyma un o dirweddau gorau Prydain sy'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).
Cysylltwch â Loggerheads ar 01352 810614.
Gwefan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Mae taith glywedol nawr ar gael (ffenestr newydd).
Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint (Rheolaeth parciau ac ardaloedd o natur ddinesig sy’n perthyn i’r Cyngor)
Cysylltwch â Mynediad Sir y Fflint a’r Gwasanaeth Amgylchedd Naturiol yng:
Nghanolfan Ymwelwyr Parc Gwepra
Wepre Drive, Cei Connah, CH5 4HL, ffoniwch 01267 224923 neu anfonwch neges e-bost at countryside@flintshire.gov.uk
Cyflwynwch ymholiad ar-lein
Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas
Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas, Treffynnon, CH8 7GH
01267 224923, info@greenfieldvalley.com