Rhestr o waith celf yn cael ei arddangos
Rhestr o waith celf sy’n cael ei arddangos ac sydd ym meddiant Cyngor Sir y Fflint, yn gywir hyd at Ebrill 2020
Dalier Sylw: Mae darluniau a gwybodaeth bellach am rai eitemau ar gael ar wefan y Public Catalogue Foundation. Pan fo hyn yn bodoli, mae dolen gyswllt wedi’i gynnwys. Mae eitemau sy’n cael eu harddangos mewn adeiladau ar gael yn ystod oriau agor yr adeiladau hynny. Mae eitemau ar safleoedd y Gwasanaethau Cefn Gwlad ar gael bob amser ar wahân i’r ffens yng Nghanolfan Dreftadaeth Quay Watermen, sydd i’w gweld pan fo’r Ganolfan Dreftadaeth ar agor yn unig.
Mewn Gwasanaethau Cefn Gwlad ledled y sir, mae nifer o weithiau celf i’w gweld, gan gynnwys y rhain:
- Cerfluniau gan Mike Owens:
- The Netsman, Cei Connah;
- Big Flintshire Guardian (BFG), Pwynt y Fflint;
- Mainc Fisherwoman, Fflint
- Mainc World War I Tommy, Fflint
- Bettisfield Bob, glöwr yn safle Pwll Glo Llys Bedydd
- Cockle, Doc Maes Glas;
- The Lookout, Doc Maes Glas;
- Ceffyl y Pwll Glo yn safle Pwll Glo Y Parlwr Du
- Celf Poster y Fflint;
- “Celf Gweithredol”, ffens yng Nghanolfan Dreftadaeth Kathleen & May a safle Pwll Glo Y Parlwr Du
- Arwydd dolen y gymuned
- Pedwar goleufa ar hyd yr arfordir:
- Haig o bysgod yn Noc Maes Glas;
- Cerflun draig yn Llys Bedydd;
- Basged Syml ym Mhwynt y Fflint;
- Goleufa Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, tua’r dwyrain o Gastell y Fflint.
- Dau oleufa i gofio canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf un parhaol ar Dock Road, Cei Connah; un symudol;
- Canŵ a chwe BEAMS wedi’u cerfio ar Blaendraeth y Fflint, tua’r gorllewin o Ddoc y Fflint.
- Cerflun cwch Kathleen & May; Cei Connah
- Goleudy a pyrth arafu, Talacre
- Cerfluniau o neidr a madfall y dŵr, Parc Gwepra.
- Carreg Porth ar ddiwedd Llwybr Arfordir Cymru, wedi’i gerfio gydag arwydd Llwybr Arfordir Cymru mewn Tywodfaen Pennant.
- Copi o ffotograff gan Angus McBean. Wedi’i gopïo o’r print Angus McBean gwreiddiol sy’n cael ei gadw yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, nid yw’n cael ei arddangos yn gyhoeddus (cyfeirnod: CC/TC/1/6/1).
- “Marriage by Registrar”, print wedi’i fframio, dim llofnod. Yn yr Ystafell Seremoni.
- “Health of the Bride” gan W Dindy Sadler, print wedi’i fframio. Yn yr Ystafell Seremoni.
- “Signing the Register” gan Edmund B Leighton, print wedi’i fframio. Yn yr Ystafell Seremoni.
- “The Wedding”, print wedi’i fframio, dim llofnod. Yn ystafell y Cofrestrydd Arolygol.
- “Queen Elizabeth II and Prince Philip” – print wedi’i fframio. Ddim yn cael ei arddangos, ond yn cael ei ddefnyddio ar gyfer seremonïau dinasyddiaeth.
Fel y rhan fwyaf o wasanaethau amgueddfeydd, mae tua 10% o gasgliad Sir y Fflint yn cael ei arddangos ar unrhyw adeg benodol. Mae cynnwys y 10% hwnnw yn newid yn rheolaidd.