Alert Section

Gwastraff Masnachol

Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid

Mae'n gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i sortio eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.

Mae'n berthnasol i'r holl gasglwyr a phroseswyr gwastraff a deunydd ailgylchu sy'n rheoli gwastraff gweithleoedd sy'n debyg i wastraff cartrefi.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y gyfraith hon i wella ansawdd y ffordd rydym yn casglu a gwahanu gwastraff a chynyddu'r gwaith hwn.

Gallwch weld y rhestr lawn o eitemau drwy glicio ar y ddolen isod.

Darganfod mwy

Sut mae’n gweithio

  • Cofrestrwch am drwydded a disgwyliwch i ni gadarnhau eich cofrestriad
  • Dewch â’ch gwastraff masnachol i Ganolfan Ailgylchu Maes Glas
  • Byddwn yn cofnodi’r hyn sydd gennych
  • Bydd ein tîm cyllid yn anfon anfoneb am y gwastraff a ailgylchwyd

Yr hyn fydd ei angen arnoch

Bydd angen i chi ddarparu:

  • Eich manylion busnes, yn cynnwys:
  • Manylion y cerbyd
  • Gwybodaeth am anfonebu

Ar ôl cadarnhau eich cofrestriad, byddwn yn anfon Trwydded Fasnachol ar gyfer Canolfan Ailgylchu Maes Glas.

Eitemau rhad ac am ddim

Gellir gwaredu rhai eitemau’n rhad ac am ddim:

  • Metel sgrap
  • Batris a Chronaduron cerbydau / ceir ail law
  • Dodrefn i’w hailddefnyddio

Ffi tanysgrifio flynyddol

Ar ôl derbyn eich trwydded, gallwch dalu am danysgrifiad blynyddol o £120 i waredu eitemau y gellir eu hailgylchu:

Mae’r deunyddiau hyn i gyd wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth ac mae’n rhaid eu hailgylchu.

  • Papur a cherdyn
  • Plastigion, metelau a chartonau cymysg
  • Gwastraff bwyd
  • Gwydr

Ffioedd talu wrth fynd

Ar ôl derbyn eich trwydded, gallwch dalu am yr eitemau hyn ar bob ymweliad.

Gwastraff a dderbynnir ar talu wrth fynd

Ffioedd talu wrth fynd
Math o WastraffCost
CRT (offer arddangos gweledol) £10 yr eitem
Offer trydanol domestig mawr £10 yr eitem
Offer trydanol domestig bach £10 yr eitem
Oergelloedd, cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff £10 yr eitem
Matresi wedi eu defnyddio, i’w hailgylchu £10 yr eitem
Teiars £10 y teiar
Diffoddyddion tân £10 yr eitem
Poteli nwy £10 yr eitem
Cemegion cymysg £10 yr eitem
Dodrefn na ellir eu hailddefnyddio £10 yr eitem
Erosolau (WD40, chwistrellau glud, ac ati) £10 am bum eitem, £2 am bob eitem ychwanegol
Tiwbiau fflworoleuol  £10 am bum eitem, £2 am bob eitem ychwanegol
Paent, inc, glud yn cynnwys sylweddau peryglus £10 am bum eitem, £2 am bob eitem ychwanegol
Paent, inc, glud NAD YDYNT yn cynnwys sylweddau peryglus  £10 am bum eitem, £2 am bob eitem ychwanegol
Plastrfwrdd (un ffrwd)  £60 y llwyth
Plastig (HP) (un ffrwd)  £30 y llwyth
Pren nad yw’n cynnwys sylweddau peryglus (un ffrwd)  £30 y llwyth
Pridd a rwbel (un ffrwd)  £30 y llwyth
Gwastraff gardd bioddiraddadwy (un ffrwd)  £30 y llwyth
Carpedi  £30 y llwyth
Llwythi cymysg yn cynnwys plastrfwrdd  £60 y llwyth
Llwythi cymysg NAD YDYNT yn cynnwys plastrfwrdd £30 y llwyth

Asbestos

Rhaid i'r gwastraff bod mewn bagiau coch. Mae’n bosib casglu’r bagiau o ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu trwy ddefnyddio eich cyfeirnod archebu.

(mewn bagiau dwbl, 5 bag ar y mwyaf, gellir ei waredu yn ystod yr wythnos yn unig)

RHYBUDD:

Peidiwch â thorri, malu, sandio na drilio asbestos gan fod hynny’n rhyddhau ffibrau llidus i’r aer sy’n berygl os ydych chi’n eu hanadlu.

Tydi mygydau llwch cyffredinol ddim yn eich gwarchod rhag ffibrau Asbestos.

Darllenwch fwy am asbestos ar wefan Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

£25 y bag

Canolfan Ailgylchu Maes Glas

Cyfeiriad

Parc Busnes Maes Glas Rhif 2,
Maes Glas
CH8 7GJ

Oriau agor

DyddiauAmser
Dydd Llun 9yb - 5yp
Dydd Mawrth Ar gau
Dydd Mercher Ar gau
Dydd Iau 9yb - 5yp
Dydd Gwener 9yb - 5yp
Dydd Sadwrn 9yb - 5yp
Dydd Sul 9yb - 5yp

Telerau ac Amodau Codi Tâl a Gwaredu Gwastraff Masnachol

  1. Mae Gwastraff Masnachol, Diwydiannol neu Fusnes yn fath o wastraff a gynhyrchir gan fasnachwyr, contractwyr neu labrwyr sy’n gweithio ar safleoedd preswyl neu fusnes.  Mae hyn yn cynnwys landlordiaid yn gwaredu gwastraff o eiddo rhent, neu wastraff y mae’n rhaid talu i gael gwared ohono.  Mae angen “trwydded cludo gwastraff” ar gyfer y math hwn o wastraff, ac mae’n destun “Dyletswydd Gofal”. 
  2. Cyflwynir gwasanaeth gwaredu gwastraff masnachol yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Maes Glas er mwyn cynorthwyo masnachwyr lleol i gael gwared â’u gwastraff a’u deunyddiau ailgylchu yn gywir a chydymffurfio â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
  3. Mae’n rhaid gwaredu’r holl wastraff masnachol a deunyddiau i’w hailgylchu yn ein Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Maes Glas; dyddiau agor, dydd Iau – dydd Llun, 9am-5pm. Rhif 2 Parc Busnes Maes Glas, Maes Glas, CH8 7GJ. 
  4. Nid oes angen trefnu ar gyfer gwaredu gwastraff masnachol a deunydd ailgylchu; fodd bynnag, bydd gwiriadau perthnasol yn cael eu cynnal ar yr holl fasnachwyr wrth iddynt gyrraedd i sicrhau bod deunyddiau a phwysau yn cael eu cofnodi’n gywir. 
  5. Bydd gweithredwr safle yn gwirio’r holl ddeunyddiau a maint llwythi, ac yn cadarnhau’r tâl a godir. Mae’n rhaid i bob masnachwr lofnodi ei gytundeb cyn gwaredu deunyddiau.  Pan fo wedi ei lofnodi ac wedi gwaredu’r deunyddiau, mae’r ffi hon yn derfynol ac nid yw’n agored i drafodaeth.
  6. Gall masnachwyr gofrestru ar gyfer tanysgrifiad blynyddol i waredu swm diderfyn o ddeunyddiau i’w hailgylchu, gan gynnwys papur a cherdyn, plastigau cymysg, metelau a chartonau, gwastraff bwyd a gwydr. £120 yw ffi’r tanysgrifiad blynyddol, a dylid talu hyn ar ôl derbyn trwydded ac anfoneb. 
  7. Mae’n rhaid i fasnachwyr sy’n dymuno defnyddio’r safle fod â Thrwydded Cludo Gwastraff ddilys a fydd yn cael ei gwirio wrth wneud cais. Gofynnwn i’r drwydded cludo gwastraff fod ar gael gan y masnachwyr pan ofynnir amdani ar y safle. 
  8. Mae’n rhaid i fasnachwyr sy’n dymuno defnyddio’r safle gyflwyno Nodyn Trosglwyddo Gwastraff gyda’r gwastraff pan fo’n cael ei waredu – ni dderbynnir gwastraff heb un. Gellir gwneud cais am gael trefnu Nodyn Trosglwyddo Gwastraff blynyddol neu “aml-dro” drwy anfon e-bost i kerbsiderecycling@siryfflint.gov.uk. Dylid cadw copïau o Nodiadau Trosglwyddo Gwastraff am 2 flynedd, o leiaf. Mae’n anghyfreithlon casglu gwastraff, neu drefnu i wastraff gael ei gasglu, heb i’r ddwy ochr fod â dogfennau trosglwyddo gwastraff dilys.
  9. Bydd masnachwyr yn derbyn templed gwag ar gyfer Nodiadau Trosglwyddo Gwastraff ar ôl derbyn cymeradwyaeth am eu cais am drwydded. Nid oes fformat safonol ar gyfer Nodiadau Trosglwyddo Gwastraff, ond argymhellir defnyddio fformat .gov.
  10. Anfonir anfonebau ôl-weithredol i’r manylion a ddarparwyd, ac mae’n rhaid i fasnachwyr dalu’r swm llawn o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn yr anfoneb.
  11. Gall math y cerbyd bennu a yw trwydded yn cael ei rhoi ai peidio. Ni fydd y cerbydau isod yn gymwys am drwydded fasnachol:
    • Faniau bocs mawr
    • Cerbydau nwyddau mawr
    • Cerbydau nwyddau trwm
    • Cerbydau codi
    • Cerbydau gwastad
    • Faniau mawr (XLWB; LWB)
    • Faniau gyda thoeau uchel (dros 7 troedfedd)
    • Trelars sy’n hirach na 6.6 troedfedd neu 2 fetr
    • Trelars bocs / trelars gyda phaneli ochr estynedig / trelars wedi eu haddasu
    • Trelars â rampiau mynediad- Bws mini (gyda gosodiadau mewnol wedi eu tynnu)
    • Faniau camper a chartrefi modur (gyda gosodiadau mewnol wedi eu tynnu)
    • Cerbydau amaethyddol
    • Lorïau ceffylau / trelars ceffylau
  12. Mae “llwyth” yn cyfeirio at lwyth llawn o ddeunyddiau cymysg neu un ffrwd, e.e. mae cab neu drelar llawn (6.6 troedfedd ar y mwyaf) yn hafal i lwyth. Bydd llwythi’n cael eu rhannu’n llwythi llawn, hanner llwythi a chwarter llwythi ar gyfer pob ffrwd ddeunydd, ac mae’r costau’n adlewyrchu maint y llwyth a phwysau cyfartalog ar gyfer ffrydiau deunyddiau. Mae’n rhaid i bob masnachwr lofnodi ei gytundeb cyn gwaredu deunyddiau.  Pan fo wedi ei lofnodi ac wedi gwaredu’r deunyddiau, mae’r ffi hon yn derfynol ac nid yw’n agored i drafodaeth.
  13. Mae’n rhaid i’r holl ddeunyddiau gael eu didoli ymlaen llaw a’u gwahanu cyn eu rhoi yn y ffrwd ddeunydd gywir ar y safle. 
  14. Gall masnachwyr waredu nifer o eitemau yn rhad ac am ddim, gan gynnwys:
    • Metel sgrap
    • Batris a chronaduron ail law cerbydau / ceir
    • Dodrefn i’w hailddefnyddio
  15. Mae’r gwastraff a deunydd i’w ailgylchu a dderbynnir gyda ffioedd talu wrth fynd yn cynnwys y canlynol:
    • CRT (offer arddangos gweledol) £10 yr eitem
    • Offer trydanol domestig mawr £10 yr eitem 
    • Offer trydanol domestig bach £10 yr eitem 
    • Oergelloedd, cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff £10 yr eitem 
    • Matresi wedi eu defnyddio, i’w hailgylchu £10 yr eitem - Teiars £10 y teiar 
    • Diffoddyddion tân £10 yr eitem 
    • Poteli nwy £10 yr eitem 
    • Cemegion cymysg £10 yr eitem
    • Dodrefn na ellir eu hailddefnyddio £10 yr eitem
    • Erosolau (WD40, chwistrellau glud, ac ati) £10 am bum eitem, £2 am bob eitem ychwanegol
    • Tiwbiau fflworoleuol £10 am bum eitem, £2 am bob eitem ychwanegol
    • Paent, inc, glud yn cynnwys sylweddau peryglus £10 am bum eitem, £2 am bob eitem ychwanegol
    • Paent, inc, glud NAD YDYNT yn cynnwys sylweddau peryglus £10 am bum eitem, £2 am bob eitem ychwanegol
    • Plastrfwrdd (un ffrwd) £60 y llwyth
    • Plastig (HP) (un ffrwd) £30 y llwyth
    • Pren nad yw’n cynnwys sylweddau peryglus (un ffrwd) £30 y llwyth- Pridd a rwbel (un ffrwd) £30 y llwyth
    • Gwastraff gardd bioddiraddadwy (un ffrwd) £30 y llwyth
    • Carpedi £30 y llwyth
    • Llwythi cymysg yn cynnwys plastrfwrdd £60 y llwyth
    • Llwythi cymysg NAD YDYNT yn cynnwys plastrfwrdd £30 y llwyth
    • Asbestos £25 y bag (mewn bagiau dwbl, 5 bag ar y mwyaf, gellir ei waredu yn ystod yr wythnos yn unig)
  16. Mae cyfyngiadau o ran gwaredu Asbestos oherwydd ei natur beryglus, mae’r rhain yn cynnwys:
    • Cyfyngiad ar faint y gwastraff a ddaw i mewn. Derbynnir asbestos dim ond os yw mewn bagiau dwbl a bod y gwastraff yn ffitio i’r bag coch / clir a ddarperir. Gellir casglu’r bagiau o flaen llaw o Ganolfan Gyswllt.
    • Mae cyfyngiadau yn eu lle ar faint o wastraff a ddaw i mewn. Dim ond pum bag coch llawn a dderbynnir mewn un archeb.
    • Dim ond unwaith bob blwyddyn y caniateir gwaredu.
    • Dim ond ar ddyddiau’r wythnos y gellir cael gwared ag asbestos.
    • Peidiwch â thorri, malu, sandio na drilio asbestos gan fod hynny’n rhyddhau ffibrau llidus i’r aer sy’n beryglus os ydych chi’n eu hanadlu.
  17. Cyhoeddir rhestr o ffioedd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol ar wefan y Cyngor. Mae’r ffi a godir ar gyfer y deunyddiau a restrir yn destun adolygiad yn ôl disgresiwn y Cyngor. 
  18. Mae’r deunyddiau a restrir yn destun adolygiad yn ôl disgresiwn y Cyngor. 
  19. Bydd unrhyw wastraff a gyflwynir i’r safle yn destun archwiliadau rheolaidd gan weithredwyr y safle a/neu unrhyw Swyddog awdurdodedig o’r Awdurdod neu Gorff Rheoleiddio.  Mae’n bosibl y bydd gofyn i bobl sy’n ymweld â’r safle agor sachau neu gynwysyddion i wirio’r cynnwys.  
  20. Mae’n rhaid gwahanu a gosod deunyddiau a gyflwynir i’r safle yn y sgip neu’r cynhwysydd cywir.  Os ydych yn ansicr, gofynnwch am gyngor gan aelod o staff.
  21. Rhaid i ddefnyddwyr Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref gydymffurfio â’r cyfarwyddiadau a roddir gan y gweithredwyr ar y safle, cyfraith a chanllawiau iechyd a diogelwch, unrhyw arwyddion, terfynau cyflymder, a pholisi penodol didoli a gwahanu gwastraff.
  22. Bydd gan y Cyngor yr hawl i wrthod unrhyw un rhag dod i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref os yw’n amau ei fod wedi mynd yn groes i unrhyw un o’r amodau a amlygir ym Mholisi Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Nid oes unrhyw eithriadau i’r telerau ac amodau hyn. 

Ffioedd Masnach yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Maes Glas - Polisi Preifatrwydd  

Hysbysiad preifatrwydd Gwasanaethau Stryd a Chludiant ar gyfer ffioedd Gwastraff Masnachol yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Maes Glas.

Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’n tasg gyhoeddus at ddibenion penodol gweinyddu a phrosesu eich cofrestriad ar gyfer gwaredu Gwastraff Masnachol o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw gwybodaeth nes bod y gwasanaeth yn cael ei ddisodli + 1 blwyddyn.

Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.