Alert Section

Masnachu ar y Sul


Mae Deddf Masnachu ar y Sul 1994 yn caniatáu i siopau mawr (a ddiffinnir o dan y Ddeddf fel rhai sydd ag arwyneb gwerthu mewnol o dros 280 metr sgwâr) agor am chwe awr rhwng 10am a 6pm ar ddydd Sul.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i siopau mawr aros ar gau ar Sul y Pasg a Dydd Nadolig, ond dim ond os yw’n disgyn ar ddydd Sul.  Nid yw’r cyfyngiadau hyn yn berthnasol i siopau bach sy’n rhydd i agor.  Mae’r Ddeddf Masnachu ar y Sul hefyd yn cynnwys mesurau penodol i warchod hawliau gweithwyr sy’n dymuno peidio â gweithio ar y Sul.

Ar wahân i’r cyfyngiadau a grybwyllir uchod, mae’r perchnogion yn rhydd i benderfynu ar eu horiau agor yn dibynnu ar y galw gan gwsmeriaid.

Hysbysiad masnachu a chofrestr masnachu ar y Sul

Cafodd y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Masnachu ar y Sul) 2004 wared ar y gofyniad gwreiddiol i siopau mawr hysbysu eu hawdurdodau lleol o’u horiau agor ar y Sul neu o unrhyw newidiadau.  Nid oes raid i awdurdodau lleol gadw cofrestr o siopau mawr bellach.  Mae siopau mawr yn dal i orfod cadw at y rheol o beidio â masnachu am fwy na chwe awr rhwng 10am a 6pm ar ddydd Sul ac maent yn gorfod arddangos yr oriau hyn yn yr adeiladau a thu allan.

Sul y Pasg a Dydd Nadolig (os yw ar ddydd Sul)

Mae Deddf Masnachu ar y Sul 1994 yn mynnu bod siopau mawr – sydd ag arwynebedd llawr dros 280 metr sgwâr, yn cau ar Sul y Pasg a Dydd Nadolig os yw ar ddydd Sul.  Mae rhai eithriadau i’r rheol hon, sef:

a)  Unrhyw siop ar fferm a lle mae’r fasnach neu’r busnes a gynhelir yn cynnwys gwerthu cynnyrch y fferm honno yn rhannol neu’n gyfan gwbl.

b)  Unrhyw siop lle mae’r fasnach neu’r busnes a gynhelir yn cynnwys gwerthu diod feddwol yn rhannol neu’n gyfan gwbl.

c)  Unrhyw siop lle mae’r fasnach neu’r busnes a gynhelir yn cynnwys gwerthu un neu fwy o’r pethau canlynol yn rhannol neu’n gyfan gwbl:

i)  cyflenwadau ac ategolion i foduron, a

ii) chyflenwadau ac ategolion i feiciau.

ch)  Unrhyw siop sy’n:

i)  fferyllfa gofrestredig, ac

ii)  ar gau i werthu nwyddau manwerthu heblaw am nwyddau meddyginiaethol a chyfarpar meddyginiaethol a llawfeddygol.

d)  Unrhyw siop mewn maes awyr dynodedig.

dd)  Unrhyw siop mewn gorsaf reilffordd.

e)  Unrhyw siop mewn ardal gwasanaeth yn unol ag ystyr y Ddeddf Priffyrdd 1980.

f)  Unrhyw orsaf betrol.

ff)  Unrhyw stand a ddefnyddir i werthu nwyddau yn ystod arddangosfa.

g)  Unrhyw siop a redir gan unigolion sy’n credu yn y Sabath Iddewig.

Gwybodaeth bellach

Cysylltwch â’r Is-adran Drwyddedu ar 01352 703030

E-bost - trwyddedu@siryfflint.gov.uk