Alert Section

Trwydded Petroliwm


Crynodeb o’r Drwydded 

Mae angen trwydded gan eich awdurdod trwyddedu petroliwm lleol arnoch chi ar gyfer cynnal busnes lle mae petrol yn cael ei storio i’w gyflenwi’n uniongyrchol i danc petrol injan tanio mewnol – neu lle bo swm mawr o betrol yn cael ei storio at ddefnydd preifat. 

Bydd rhaid talu ffi am drwydded o’r fath – manylion isod. 

Rhoir amodau ar y drwydded. 


Meini Prawf Cymhwysedd 

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.


Crynodeb o’r Rheoliadau

Gweld crynodeb o’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y drwydded hon (ffenestr newydd) 


Proses Gwerthuso Cais

Os hoffech gael rhagor o fanylion ffoniwch y Tîm Diogelwch ar 01352 703181


A Fydd Cydsyniad Mud yn Berthnasol?

Na fydd.  Er budd y cyhoedd mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir rhoi trwydded.  Os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol ymhen cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r adran berthnasol.  Cewch wneud hyn ar-lein os gwnaethoch chi gyflwyno eich cais trwy’r gwasanaeth UK Welcomes neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod. 


Ffioedd 

Trwydded i gadw petroliwm, yn ôl cyfaint:

- heb fod yn fwy na 2,500 litr. £42.00

- dros 2,500 litr ond heb fod yn fwy na 50,000 litr. £58.00

- dros 50,000 litr. £120.00

Trosglwyddo trwydded. £8.00


Gwneud Cais Ar-lein 

Cais am drwydded storio petroliwm (ffenestr newydd)

Cais i newid trwydded storio petroliwm (ffenestr newydd)

Cais i drosglwyddo trwydded storio petroliwm (ffenestr newydd)

Cais i adnewyddu trwydded storio petroliwm (ffenestr newydd)


Gwneud Iawn am Gais a Fethodd

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Os gwrthodir cais gall yr ymgeisydd gyflwyno apêl i’r Ysgrifennydd Gwladol. 


Manylion Cyswllt

Rhif ffôn: 01352 703181

E-bost: safonau.masnach@siryfflint.gov.uk

Post:

Gwasanaeth Safonau Masnach, Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF


Cymdeithasau / Mudiadau’r Diwydiant 

Petrol Retailers Association (PRA) (ffenestr newydd)

Mewn partneriaeth â EUGO