Cynllun Achredu Landlordiaid Rhentu Doeth Cymru
Rhentu Doeth Cymru – ydych chi’n cydymffurfio?
Hoffem atgoffa landlordiaid ac asiantau gydag eiddo yn Sir y Fflint area neu unrhyw ardal arall yng Nghymru bod pwerau gorfodi Rhentu Doeth Cymru ar waith bellach.
Yn ôl cynllun Llywodraeth Cymru, sy’n helpu i godi safonau yn y sector rhentu preifat, mae gofyn i bob landlord preifat gofrestru ei hun a'i eiddo.
Rhaid i Landlordiaid ac Asiantau sy’n gosod neu reoli eiddo gael trwydded yn ogystal.
Ers 23 Tachwedd, 2016 mae’r pwerau gorfodi mewn grym, a gallai landlordiaid ac asiantau nad ydynt yn cydymffurfio wynebu amrywiaeth o sancsiynau gan gynnwys erlyn, Hysbysiadau Cosb Benodedig, atal rhent a gorchmynion ad-dalu rhent.
Mae awdurdodau lleol ledled Cymru, gan gynnwys Cyngor Sir y Fflint, yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru i amlygu’r rhai sy’n dal i beidio â chydymffurfio â’r gyfraith. Mae Cynghorau bellach yn erlyn y rheiny sydd wedi methu â chydymffurfio.
Os ydych chi’n landlord neu asiant sydd heb gydymffurfio eto, peidiwch ag oedi. Mae'n bwysig eich bod yn cymryd y camau angenrheidiol nawr i gydymffurfio ac osgoi unrhyw weithredu.
Os ydych chi’n denant ac yn dymuno cadarnhau a yw’ch landlord a/neu asiant yn cydymffurfio, gallwch weld gofrestr gyhoeddus Rhentu Doeth Cymru
Os nad yw wedi cofrestru, gallwch gysylltu â Rhentu Doeth Cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Rhentu Doeth Cymru cysylltwch â https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/ neu ffoniwch 03000 133344.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch amodau eiddo rhent preifat yng Sir y Fflint, cysylltwch â housingenforcement@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01352 703440.
Rhentu Doeth Cymru - Cwestiynau Cyffredin