Alert Section

Trwyddedu Gorfodol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth


Crynodeb o’r drwydded 

Os ydych chi’n rhentu eiddo fel tŷ amlbreswyliaeth efallai y bydd arnoch angen trwydded gan eich awdurdod lleol. 


Meini prawf cymhwysedd 

Rhaid cyflwyno cais i’r awdurdod tai lleol. 

Gellir codi ffi. 

Mae’n rhaid i chi fod yn unigolyn priodol a chymwys i feddu ar drwydded o’r fath.


Crynodeb o’r Rheoliadau

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd)


Proses Gwerthuso Cais 

Rhoir trwydded os:

  • Ydy’r eiddo yn addas neu y gellid ei wneud yn addas i nifer o bobl fyw ynddo 
  • Ydy’r ymgeisydd yn unigolyn priodol a chymwys a’r unigolion mwyaf priodol i ddal y drwydded 
  • Ydy’r rheolwr arfaethedig yn rheoli’r tŷ, ac yn unigolyn priodol a chymwys i weithredu fel rheolwr
  • Ydy’r trefniadau rheoli yn foddhaol  

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol? 

Bydd.  Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais. 


Gwneud cais ar-lein 

Cais am drwydded tŷ amlbreswyliaeth (PDF)

Cais i newid trwydded tŷ amlbreswyliaeth (ffenestr newydd)

Gwneud iawn am gais a fethodd 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Cewch gyflwyno apêl i dribiwnlys eiddo preswyl. 

Rhaid cyflwyno apêl cyn pen 28 diwrnod o wneud y penderfyniad. 

Gwneud iawn i’r Deilydd Trwydded 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Cewch gyflwyno apêl i dribiwnlys eiddo preswyl ynghylch amodau a roddwyd ar drwydded, neu unrhyw benderfyniad i amrywio neu ddiddymu trwydded. 

Rhaid cyflwyno apêl cyn pen 28 diwrnod o wneud y penderfyniad. 

Cwyn gan ddefnyddiwr 

Os rhoir trwydded a’ch bod chi’n dymuno gwneud apêl yn erbyn cyflwyno’r drwydded cewch wneud hynny i dribiwnlys eiddo preswyl cyn pen 28 diwrnod o wneud y penderfyniad.  


Manylion cyswllt

Llythyrau: Rheoli Amgylcheddol, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF

Rhif ffôn: 01352 703440

E-Bost: ppadmin@flintshire.gov.uk


Cymdeithasau / Mudiadau’r Diwydiant 

British Property Federation (BPF) (ffenestr newydd)

National Federation of Property Professionals (ffenestr newydd)

Mewn partneriaeth â EUGO