Cymeradwyo safle bwyd
Crynodeb o’r drwydded
Os ydych chi’n gweithredu safle bwyd mae’n bosibl bod angen i chi gael eich cymeradwyo gan eich awdurdod lleol.
Enghreifftiau o’r mathau o safleoedd y mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol eu cymeradwyo ydy mannau trin bwyd unigol (h.y. nad ydynt yn gysylltiedig â lladd-dy, ffatri torri cig neu sefydliad trin anifeiliaid hela):
- Gweithfeydd prosesu cig
- Gweithfeydd paratoi cig
- Gweithfeydd prosesu briwgig a gweithfeydd prosesu cig wedi’i wahanu’n fecanyddol
- Storfeydd oer
Crynodeb o’r rheoliadau
Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd)
Ffioedd
Nid oes ffi ar gyfer y cais hwn.
Gwneud cais
Nid yw'n bosibl gwneud cais am y drwyddd hon ar-lein ar hyn o bryd. Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod eich cais.
A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?
Bydd. Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais.
Gwneud iawn am gais a fethodd / Gwneud iawn i’r deilydd trwydded
Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.
Cwyn gan ddefnyddiwr
Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol. Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).
Manylion cyswllt
Diogelwch Bwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF
Rhif ffôn: 01352 703386
Cymdeithasau/mudiadau’r diwydiant
Livestock & Meat Commission for Northern Ireland (LMC)
The Association of Independent Meat Suppliers (AIMS)
National Federation of Meat and Food Traders
Mewn partneriaeth â EUGO