Alert Section

Radon


Beth yw Radon?

Nwy ymbelydrol naturiol yw Radon. Ni allwch ei weld, clywed, teimlo na’i flasu. Daw o’r symiau lleiaf o wraniwm sy’n bodoli’n naturiol ym mhob craig a phridd.

Mae Radon yn bresennol mewn pridd ym mhob rhan o’r DU i rhyw raddau. Mae’r rhan fwyaf ohono’n ymdreiddio o’r ddaear yn ddiniwed i’r awyrgylch. Fodd bynnag, lle daw i mewn i adeiladau, gall ei lefelau gynyddu ac o bryd i’w gilydd gall hyn peri risg ymbelydredd difrifol i bobl y tu fewn i’r adeilad.

Mae Gogledd Cymru’n un o ardaloedd y DU a chanddynt lefelau uwch na’r cyffredin o radon. Radon yw ail achos mwyaf canser yr ysgyfaint yn y DU ar ôl ysmygu ac felly efallai y bydd angen ichi gymryd camau os yw eich staff yn gweithio mewn amgylchedd radon uchel. Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.hse.gov.uk/radiation/ionising/radon.htm (ffenestr newydd)

Sut mae Radon yn effeithio ar iechyd pobl?

Fe all y cynnyrch dadfeilio achosi’r problemau iechyd a ganlyn:

Difrod i gelloedd yr ysgyfaint – mae’r cynnyrch dadfeilio yn rhyddhau ymbelydredd niweidiol a elwir yn ronynnau alpha; y gronynnau hyn sy’n niweidio celloedd sensitif yr ysgyfaint

Canser yr ysgyfaint – yw’r prif ganser sy’n lladd yn y DU. Radon yw’r ail prif beth sy’n achosi canser yr ysgyfaint yn y DU. 

Beth a ddylai cyflogwyr fod yn ei wneud i leihau’r risg o ddatguddiad i Radon?

Oni bai eich bod wedi’i wneud yn barod, mae deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn gofyn eich bod yn asesu’r risg radon yn eich gweithle. Yn gyntaf, bydd rhaid ichi ddarganfod p’un ai a yw eich eiddo busnes wedi’i leoli mewn Ardal yr Effeithir arni gan Radon. Cafodd rhannau mawr o Ogledd Cymru eu dynodi’n Ardaloedd yr Effeithir Arnynt gan y llywodraeth a gallwch edrych ar y map ar-lein yma: http://www.ukradon.org/information/ukmaps/englandwales (ffenestr newydd)

Yr unig ffordd i weld a ydy’r lefelau radon yn uchel yn eich eiddo neu beidio yw i fesur y crynodiad yn yr aer. Unwaith y bydd hyn wedi’i wneud  gallwch wneud asesiad risg ynghylch p’un ai a oes angen ichi gymryd camau pellach.

Gwneir mesuriadau radon drwy ddefnyddio dosimedrau cymharol rhad y gallwch eu harchebu ar-lein. Yna, dylech eu gosod o gwmpas eich adeilad – fel arfer am 3 mis. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ar sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau mesur, gwybodaeth ymarferol ar le i osod dosimedrau, a chymryd camau adferol ar wefan HSE. 

Profion – Mesuriadau Radon

Dylid cynnal arolygon Radon mewn unrhyw adeilad neu seler lle mae’r lleoliad a nodweddion yn awgrymu y gall lefelau uwch o Radon fodoli yno a bod gweithwyr a/neu bobl eraill mewn perygl. Nid yw’n ddrud cynnal arolygon, a gwneir hyn drwy adael synwyryddion goddefol plastig

bach mewn gwahanol ystafelloedd. Gallwch gael gafael ar y rhain yma http://www.ukradon.org (ffenestr newydd) neu gallwch edrych ar-lein am gwmnïau eraill sy’n cynnig y gwasanaeth hwn. Ar ôl 3 mis o samplo, gallwch anfon y synwyryddion i’r labordy am brofion a bydd y canlyniadau’n cael eu hanfon atoch drwy’r post.

Canlyniadau – Mesuriadau Radon:

Lle bo’r mesuriadau yn y gweithle’n dangos lefelau radon llai na 400 Bq/m3, fel sy’n wir ar gyfer y rhan fwyaf o gyflogwyr, yr unig beth arall y mae’n raid ei wneud yw penderfynu pryd y bydd yr asesiad risg yn cael ei adolygu.

Ar gyfer ardaloedd a chanddynt fesuriadau dros 400 Bq/m3, efallai y bydd rhaid i’r cyflogwr gymryd camau ar unwaith i reoli datguddiadau galwedigaethol tra’n aros unrhyw benderfyniad y gwnânt i leihau’r lefelau radon drwy dulliau a gynllunir. Fel arfer, dylid ymgynghori ag Ymgynghorydd Diogelu rhag Ymbelydredd a chanddynt brofiad o radon i drafod y ffordd orau i reoli datguddiadau radon ond, os ydy’r cyflogwr yn bwriadu cael gwared ar y radon ar unwaith fel nad yw Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio 1999 yn berthnasol, mae’n well ymgynghori â chontractwr gwaredu ar radon arbenigol (adferiad) yn y lle cyntaf. Bydd yr arbenigwr yn gallu rhoi cyngor ichi ar y ffordd fwyaf cost effeithiol o leihau lefelau radon. Fel arfer, mae’n briodol parhau i fonitro’r ardaloedd hyn nes o leiaf bod y mesurau lleihau ar waith. Cewch gyngor ar benodi Ymgynghorydd yma: http://www.hse.gov.uk/radiation/rpnews/rpa.htm (ffenestr newydd)

Bydd angen i chi ystyried newidiadau tymhorol. Gwyddwn bod lefelau Radon yn uwch yn y gaeaf nag yn yr haf. 

Monitro yn y cartref

Gan fod pobl yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn eu cartref, nag mewn Ardaloedd yr Effeithir Arnynt gan Radon, gall gweithwyr hefyd fod mewn perygl yn eu cartrefi. Anogir cyflogwyr yn gryf i argymell bod eu gweithwyr sy’n byw mewn Ardal yr Effeithir Arnynt gan Radon yn profi eu cartrefi. Dylid cymryd y camau priodol yn y cartref os yw’r lefel radon yn 200 Bq/m3 neu fwy, sef hanner yr hyn y byddech yn ei ddisgwyl yn y gweithle.

Unwaith y bydd mesuriadau wedi’u cymryd a bod y canlyniadau’n dangos bod lefel radon y cartref yn 200 Bq/m3, argymhellir bod perchennog y tŷ/landlordiaid yn cywiro hyn ac yn rhoi mesurau rheoli ar waith i leihau y lefelau i llai na 100 Bq/m3.

Mae’n bwysig bod cyflogwyr yn ymwybodol o radon ac yn deall y peryglon posibl y mae cynnyrch dadfeilio radon yn eu hachosi. Argymhellir yn gryf eich bod yn hysbysu cyflogwyr ynghylch hyn fel y gallant gynnal y profion perthnasol yn eu cartrefi. Gall perchnogion cartrefi gael pecyn Mesur Cartref gan UK Radon drwy wefan Public Health England. Maent yn cynnig gwasanaeth tebyg am ffi bach, i’r un a nodwyd yn yr adran Profi uchod.