Ymyraethau a chyngor
Yr hyn a wnawn ni
- rhoi cyngor i fusnesau ynghylch sut i gydymffurfio â’u dyletswyddau
- gorfodi deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a rhoi cyngor mewn perthynas â gweithleoedd a gweithgareddau gwaith penodol
- archwilio i ddigwyddiadau a gofnodir a hysbysiadau swyddogol (adroddiadau ar offer lifft, llestri pwysedd, derbynyddion aer ayb)
- arolygu a monitro sefydliadau tyllu croen a gwelyau haul i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac is-ddeddfau
- gweithio mewn partneriaeth â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wrth fynd i’r afael â phynciau lleihau damweiniau a chlefydau â blaenoriaeth.
Ymhle Ydym ni’n Gorfodi Iechyd a Diogelwch?
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ac Awdurdodau Lleol fel Cyngor Sir Y Fflint yn gorfodi cyfreithiau iechyd a diogelwch. Yn gyffredinol, prif weithgaredd eiddo sy’n pennu’r awdurdod gorfodi.
Yn gyffredinol, mae swyddogion gorfodi Cyngor Sir Y Fflint yn cwmpasu:
- Eiddo manwerthu
- Warysau (cadwyn manwerthu/cyfanwerthu)
- Swyddfeydd
- Arlwyo
- Gwestai a chartrefi gofal preswyl ayb
- Gwasanaethau defnyddwyr mewn siop
- Gweithgareddau hamdden
- Lletyau anifeiliaid ayb
- Gofal plant mewn eiddo annomestig
- Mannau addoli
Yn gyffredinol, mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn cwmpasu popeth arall, e.e. ffatrïau, safleoedd adeiladu, ffermydd, ffeiriau, chwareli, rheilffyrdd, ysbytai, ysgolion a cholegau.
Gallwch gysylltu â’r HSE ar 0300 0031647.
Cewch wybodaeth ar sut i leisio pryder gyda’r HSE ynghylch gweithle yma (ffenestr newydd).
Mae’r gwaith a wnawn yn unol â’r Cod (ffenestr newydd) Gorfodi Awdurdod Lleol Cenedlaethol a luniwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ganllaw i awdurdodau lleol ar ymyraethau mewn mathau penodol o eiddo a chanddynt y risgiau mwyaf.
Cysylltwch â ni
Adran Gorfodi Iechyd a Diogelwch, Gwarchod y Cyhoedd
Cyngor Sir Y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint, CH7 6NA
Ffôn 01352 703381
Ffacs 01352 703441
health.safety@flintshire.gov.uk