Alert Section

Menter Gymdeithasol


Mae mentrau cymdeithasol yn gweithredu yn yr un ffordd â busnesau masnachol, drwy gystadlu yn y farchnad a chreu elw drwy fasnachu. 

Fodd bynnag, mae’r elw a gynhyrchir gan gwmni masnachol yn mynd i’r perchnogion a’r budd-ddeiliaid, ond caiff yr elw a gynhyrchir gan fentrau cymdeithasol ar y llaw arall ei ddefnyddio i fynd i'r afael â materion cymdeithasol. 

Bydd gan fenter gymdeithasol synnwyr clir o “bwrpas cymdeithasol,” hynny ydi y gwahaniaeth y mae’r fenter yn ceisio ei wneud, pwy mae’n anelu at eu helpu a sut mae’n bwriadu gwneud hynny. 

Cliciwch ar y ddolen hon i weld manylion Pecyn Cymorth Effaith Gymdeithasol arloesol Sir y Fflint sydd wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint a Phartneriaeth Menter Gymdeithasol Sir y Fflint.

Crynodeb y Crynodeb o'r Grŵp Llywio Adrodd ar Effaith

Mae’r pecyn cymorth hwn yn dangos gwerth ariannol effaith y gwaith y mae mentrau cymdeithasol yn ei wneud er budd cymdeithas a phobl Sir y Fflint a thu hwnt.



Prawf Menter Gymdeithasol 

Er mwyn bod yn gymwys fel menter gymdeithasol, mae’n rhaid i fusnes:

  • Fod ag amcanion cymdeithasol a/neu amgylcheddol clir 
  • Cynhyrchu’r mwyafrif o’u hincwm drwy fasnachu 
  •  Ail-fuddsoddi'r mwyafrif o'u helw yn ôl i'w hamcanion cymdeithasol 
  •  Bod yn annibynnol ar y wladwriaeth
  • Cael ei reoli i gyflawni ei genhadaeth gymdeithasol 
  • Bod yn atebol ac yn dryloyw

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo’n gadarn i’r angen am economi leol gryf a chadarn ac yn cydnabod cyfraniad Mentrau Cymdeithasol i’r gymuned.  

Rydym yn awyddus i gefnogi Mentrau Cymdeithasol a darparu ystod gynhwysfawr o gymorth busnes, gan gynnwys:

  • Cynllunio Busnes 
  • Rhagolygon ariannol
  • Nodi, datblygu a mabwysiadu strwythurau llywodraethu addas
  • Cofrestru Busnes
  • Paratoi ar gyfer buddsoddi 
  • Cymorth tendro
  • Mentora tîm ac 1 i 1
  • Diagnosteg busnes
  • Ceisiadau am wobrau

Swyddog Arweiniol Datblygu Mentrau Cymdeithasol, Mike Dodd 

Ffôn - 01267 224923

E-bost - Mike.Dodd@siryfflint.gov.uk


Astudiaethau Achos