Mae’n cynnig manylion gwasanaethau i bobl ifanc sy’n dioddef poen neu niwed a gaiff ei achosi gan aelodau o’r teulu. Mae’r ffynonellau cymorth yn cynnwys sefydliadau lleol a llinellau cymorth cyfrinachol.
Lleol
Nyrsys Ysgol ac Meddyg(on)
Wedi'u lleoli mewn Ysgolion Uwchradd
I gael gwybod mwy am eich nyrs ysgol benodol chi:
Canolfan Plant Sir y Fflint
Tŷ Catherine Gladstone
Hawarden Way
Mancot
CH5 2EP
01244 538883
Mae Nyrsys Ysgol, neu Ymgynghorwyr Iechyd Pobl Ifanc (YIPI) wedi'u lleoli mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, y naill a'r llall, ledled Sir y Fflint.
Gallwch siarad ag YIPI am unrhyw broblem iechyd neu les y gallech chi fod yn ei dioddef. Ni wnân nhw eich barnu chi, ac maen nhw wedi arfer siarad â phobl ifanc am bob math o salwch a phroblem. Rydyn ni'n gwybod ei bod hi weithiau'n gallu bod yn anodd neu'n destun embaras gofyn am help, ond fe wnawn ein gorau i wneud pethau'n haws i chi mewn unrhyw ffordd y gallwn.
Mae gan YIPI gysylltiadau â sawl gwasanaeth arall, yn lleol ac yn genedlaethol, ac mae'n bosib y gallai'r rhain roi cymorth pellach i chi efo unrhyw broblemau. Maent yn fwy na pharod i roi manylion ynglŷn â'r gwasanaethau hyn i chi, dim ond i chi ofyn.
Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Plant
Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ar gyfer Plant
Swyddfeydd y Sir
Rhodfa Gwepra
Cei Connah
Sir y Fflint
CH5 4HB
01352 701000
Mae Gwasanaethau ar gyfer Plant yn rhoi manylion ynglŷn â gwasanaethau cefnogi lleol sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc. Os oes gennych chi broblem a'ch bod yn chwilio am wybodaeth a chymorth pellach i'w goresgyn - rhowch alwad i ni.
Byddwn yn cadw unrhyw wybodaeth a rowch chi i ni yn gwbl gyfrinachol. Mae ein staff yn groesawgar ac yn cydymdeimlo â'ch anghenion, beth bynnag y bônt - mae gennym wybodaeth am wasanaethau iechyd a chefnogaeth emosiynol. Rydyn ni wedi arfer â delio am amrywiaeth o ymholiadau, felly peidiwch â theimlo embaras, da chi. Does yr un cwestiwn rhy fawr na rhy fach.
Ac os na allwn ni helpu, am ryw reswm, mae gennym ni gysylltiadau â gwasanaethau eraill a allai eich helpu.
Cenedlaethol
ChildLine
Ewch i Wefan
Llinell gymorth Rhif ffôn: 0800 1111
Am ddim o ffôn tŷ: Ydy
Am ddim o ffôn symudol: Ydy
Ymddangos ar fil ffôn: Nac ydy
Oriau Agor: Bob amser ar Agor
Mae ChildLine yn llinell gymorth arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc. Pan fyddwch yn ein ffonio ni, gallwch siarad â rhywun sy'n poeni am eich problemau. Mae'r cwnselwyr i gyd wedi derbyn hyfforddiant – mi wnawn ni wrando arnoch chi a cheisio eich helpu.
Mae galwadau i ChildLine yn gyfrinachol - gallwch siarad am unrhyw beth y mynnwch chi, ac ni wnawn ni ddweud dim wrth neb arall, os nad ydych chi eisiau i ni ddweud. Ni fydd eich cwnsleydd ChildLine yn cymryd unrhyw gamau, heblaw eu bod yn teimlo bod eich bywyd mewn perygl. Os ydych chi'n ofnus, neu'n teimlo allan o reolaeth, mae hynny'n ffein. Gallwch ddweud wrthym ni.
Mae siarad yn agored am broblemau neu siarad am eich teimladau'n gallu bod yn wirioneddol anodd, ond dyna'r peth iawn i'w wneud. Meddyliwch gymaint gwell y byddwch chi'n teimlo os ydych chi'n gallu siarad am y peth yn gyfrinachol â rhywun. Ein gwaith ni ydy gwrando arnoch chi, ac weithiau eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun arall sy'n gallu eich helpu - os ydych chi'n fodlon.
Family Matters
Ewch i Wefan
Llinell gymorth Rhif ffôn: 01474 537 392
Am ddim o ffôn tŷ: Nac ydy
Am ddim o ffôn symudol: Nac ydy
Ymddangos ar fil ffôn: Ydy
Oriau Agor: Dydd Llun – dydd Gwener 9:00am - 5:00pm
Mae Family Matters llinell gymorth ar gyfer pobl sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol neu drais. Os ydych chi'n un o'r bobl ifanc niferus sydd wedi'u heffeithio gan y mater hwn, un o'r sialensiau mwyaf a wynebwch ydy penderfynu siarad efo rhywun. Rydyn ni'n gwybod bod hwn yn gallu ymddangos yn gam anferthol.
Pan fyddwch yn ffonio ein llinell gymorth, byddwn yn cynnig i chi wasanaeth diogel a chyfrinachol i archwilio'r meddyliau, y teimladau a'r ymddygiad sy'n effeithio ar eich bywyd. Mae holl wirfoddolwyr ein llinell gymorth yn derbyn hyfforddiant arbennig, ac maent yn gyfeillgar ac yn gydymdeimladol.
Byddwn yn gwrando, yn cynnig cefnogaeth a help wrth i chi ganfod ffordd drwy rai o'r anawsterau yr ydych yn eu profi a sut maent yn effeithio ar eich lles. Rydyn ni'n gobeithio y gallwn leihau'r trallod meddyliol a chorfforol y gallech fod yn ei brofi. Gallwn hefyd eich helpu i ddelio â meddyliau am niweidio neu ladd eich hun. Os nad ydyn ni'n gallu eich helpu chi'n uniongyrchol, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi – os ydy hyn yn rhywbeth yr hoffech chi i ni ei wneud.
SupportLine
Ewch i Wefan
Llinell gymorth Rhif ffôn: 020 8554 9004
Am ddim o ffôn tŷ: Nac ydy
Am ddim o ffôn symudol: Nac ydy
Ymddangos ar fil ffôn: Ydy
Oriau Agor: Yn amrywio – ffoniwch am fanylion
Yn SupportLine, rydyn ni'n cynnig cefnogaeth emosiynol i bobl o bob oed. Mae ein horiau agor yn amrywio - ond os ydych chi'n ffonio pan ydyn ni ar gau, bydd neges leisbost yn dweud wrthych chi pryd fyddwn ni'n agor nesa.
Mae unrhyw beth a ddywedwch chi wrthym ni'n gyfrinachol. Wnawn ni ddim rhoi eich manylion i neb arall, heblaw eich bod chi eisiau i ni wneud hynny. Mae ein holl weithredwyr yn gyfeillgar, a byddwn yn gwrando'n astud iawn ar yr hyn sydd gennych chi i'w ddweud wrthym ni.
Byddwn yn gweithio â chi i geisio datblygu eich hunan-barch, gan roi i chi'r cryfder mewnol a'r gallu i symud ymlaen yn eich bywyd. Mae'n bosib y byddwn yn gofyn cwestiynau i chi a fydd yn caniatáu i chi archwilio'r mater yn llawnach, a chanfod eich ateb chi eich hun i wella'r sefyllfa. Gallwn hefyd roi gwybodaeth i chi am wasanaethau eraill o bobl rhan o'r Deyrnas Unedig a allai fod yn ddefnyddiol i chi.