Mae’n darparu gwybodaeth am ffynonellau cymorth i rieni ifanc. Mae’n cynnwys manylion cyswllt sefydliadau sy’n gallu cynorthwyo, cynghori a threfnu cyswllt â theuluoedd tebyg.
Lleol
Rhieni Cymunedol
Canolfan Westwood
Stryd Tabernacl
Bwcle
CH7 2JT
01244 545021
Mae Rhieni Cymunedol Sir y Fflint yn rhaglen ymweld â chartrefi. Fe'i cynlluniwyd i alluogi teuluoedd i wneud dewisiadau sy'n addas ar eu cyfer hwy, a gwella canlyniadau iechyd. Mae'r prosiect ar agor i unrhyw un sy'n rhiant neu'n ofalwr i un neu fwy o blant - beth bynnag y bo eu hoedran a'u hamgylchiadau.
Wrth ymuno â'r rhaglen, byddwch yn cael ymweliad gan riant arall am sgwrs gyfeillgar ac anffurfiol. Byddwch yn gallu rhannu pryderon, gofidiau a syniadau am fagu plant, a hynny yn gyfrinachol. Gellir trefnu ymweliadau pellach, efo'r un rhiant neu riant arall, yn ôl eich dymuniad.
Ein gobaith, wrth gysylltu rhieni â'i gilydd, yw lleihau ynysu, hyrwyddo lles cymdeithasol a magu hyder. Mae gennym hefyd fanylion am wasanaethau eraill a allai eich cefnogi, a gallwn eu rhoi i chi, dim ond i chi ofyn.
Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu
Canolfan Westwood
Stryd Tabernacl
Bwcle
CH7 2JT
01244 547017
GGiDSyFf@siryfflint.gov.uk
Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu yn ffynhonnell gwybodaeth sydd â manylion ynglŷn â gwasanaethau cefnogi ar gyfer pob agwedd ar fywyd teulu. Mae gennym lawer o fanylion am help ar gyfer materion cyffredin y mae pobl ifanc yn eu hwynebu.
Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod gofal plant, gweithgareddau gwyliau ysgol, gwasanaethau hamdden a swyddi gwag. Gallwn hefyd roi gwybodaeth i chi am fudiadau a llinellau cymorth ar gyfer rhieni a gofalwyr ifanc.
Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn gyfeillgar ac yn gyfrinachol. Os na allwn ni eich helpu chi'n hun, mae'n bosib y gallen ni eich rhoi chi mewn cysylltiad â mudiadau eraill sy'n gallu cefnogi eich anghenion.
Cenedlaethol
Baby Centre
Ewch i Wefan
Yn y Baby Centre, rydyn ni'n gwybod nad ydy bod yn rhiant yn hawdd bob amser. Os ydych chi'n rhiant ifanc, mae'n bosib y gwelwch y bydd y newidiadau o'ch blaen hyd yn oed yn fwy anodd. Peidiwch â phanicio, rydyn ni yma i helpu.
Mae ein hadran Rhieni Ifanc yn cynnwys llwyth o gyngor arbenigol. Ceir cynghorion ynglŷn â chael beichiogrwydd iach, sut bydd eich corff yn newid dros y misoedd i ddod - a sut i leihau’r straen o ddod yn rhiant newydd. Ceir cyngor am beth i'w wneud ar ôl i'ch babi gyrraedd, a gallwch ofyn unrhyw gwestiynau a allai fod gennych i'n harbenigwyr preswyl.
Ceir hefyd lu o straeon gan rieni ifanc eraill. Os oes angen cefnogaeth arnoch chi gan bobl ifanc sy'n gwybod yn union beth rydych chi'n mynd trwyddo, ein bwletin negeseuon ydy'r lle i chi.
Net Mums
Ewch i Wefan
Mae Netmums yn rhwydwaith lleol unigryw ar gyfer Mamau a Thadau sy'n cynnig stôr o wybodaeth ar lefel leol a chenedlaethol.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar eich safle lleol, gallwch gael manylion am bob math o adnoddau, o gaffis sy'n croesawu plant i warchodwyr, llefydd i fynd, a llawer, llawer mwy. Clic neu ddau, a gallwch sgwrsio â mamau lleol yn eich caffi coffi, darllen argymhellion lleol mamau eraill a darllen gwybodaeth am ddarpariaeth cyn-ysgol neu ysgolion yn eich ardal. Mae'r cyfan yma, dan un to. Mae gennym hefyd ein tîm cefnogi rhieni preswyl, sy'n barod i helpu gydag unrhyw broblemau neu gwestiynau a allai fod gennych.
Rydyn ni'n gwybod pa mor anodd yw bod yn rhiant weithiau – mae'n bosib eich bod yn teimlo'n flinedig, dan straen neu'n unig. Drwy ein gwefan, ein gobaith ydy eich rhoi mewn cysylltiad ag eraill sy'n gallu eich helpu, yn enwedig y rheiny sydd mewn sefyllfa debyg sy'n gwybod yn union beth rydych chi'n mynd trwyddo. Os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch chi ar y safle, mae croeso i chi anfon e-bost aton ni, ac fe wnawn ein gorau i'ch helpu chi.
Support Line
Ewch i Wefan
Llinell gymorth Rhif ffôn: 01708 765200
Am ddim o ffôn tŷ: Nac ydy
Am ddim o ffôn symudol: Nac ydy
Ymddangos ar fil ffôn: Ydy
Oriau Agor: Yn amrywio – ffoniwch am fanylion
Yn Llinell Cefnogi, rydyn ni'n cynnig cefnogaeth emosiynol i bobl o bob oed. Mae ein horiau agor yn amrywio - ond os ydych chi'n ffonio pan ydyn ni ar gau, bydd neges leisbost yn dweud wrthych chi pryd fyddwn ni'n agor nesa.
Mae unrhyw beth a ddywedwch chi wrthym ni'n gyfrinachol. Wnawn ni ddim rhoi eich manylion i neb arall, heblaw eich bod chi eisiau i ni wneud hynny. Mae ein holl weithredwyr yn gyfeillgar, a byddwn yn gwrando'n astud iawn ar yr hyn sydd gennych chi i'w ddweud wrthym ni.
Byddwn yn gweithio â chi i geisio datblygu eich hunan-barch, gan roi i chi'r cryfder mewnol a'r gallu i symud ymlaen yn eich bywyd. Mae'n bosib y byddwn yn gofyn cwestiynau i chi a fydd yn caniatáu i chi archwilio'r mater yn llawnach, a chanfod eich ateb chi eich hun i wella'r sefyllfa. Gallwn hefyd roi gwybodaeth i chi am wasanaethau eraill o bobl rhan o'r Deyrnas Unedig a allai fod yn ddefnyddiol i chi.