Alert Section

Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (RhTAS)


Beth yw’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP)?
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i gwrdd ag anghenion y gymuned leol am dai fforddiadwy ar draws y sir. Gan weithio gyda'u partner datblygu Wates Residential, mae’r cyngor wedi dechrau menter newydd i godi tai newydd drwy SHARP.
Bydd SHARP yn creu 500 o gartrefi newydd ar draws Sir y Fflint erbyn 2021, a bydd 197 o’r rhain yn dai rhent fforddiadwy (gyda North East Wales Homes Ltd yn berchen arnynt ac yn eu rheoli) a bydd 303 yn dai rhent cymdeithasol (yn cael eu rheoli gan Gyngor Sir y Fflint).
Fel rhan o'r prosiect, mae Cyngor Sir y Fflint a Wates Residential wedi gwneud ymrwymiad ar y cyd i greu cyfleoedd helaeth ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth leol. Amcangyfrifir y bydd dros 2,000 o bobl yn cael eu cyflogi drwy raglen SHARP ac y bydd tua 20 o swyddi prentisiaeth yn cael eu creu.
Bydd y tai yn cael eu hadeiladu i safon uchel gyda cheginau ac ystafelloedd molchi modern.  Er mwyn cadw costau cynnal yn isel bydd safonau arbed ynni yn cael eu hymgorffori, fel ffenestri modern a deunyddiau inswleiddio. 

CYNLLUNIAU  

Llys Dewi

Datblygiad o 27 o unedau sy’n cynnwys cyfuniad o dai 2 a 3 ystafell wely a byngalos 2 ystafell wely.

Gallwch weld cynllun y safle yma:
Cynllun 
Cynllun Lleoliad
Math o Dŷ 1
Math o Dŷ 2 
Math o Dŷ 3
Datganiad Drafft Dylunio

Mae’r cynllun wedi cael caniatâd cynllunio ar 2 Mai 2018 ac mae’r dolenni hyn yn darparu rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y dyluniad a’r cynllun.

https://digital.flintshire.gov.uk/FCC_Planning/Home/Details?refno=05797

Nant y Gro

Datblygiad o 41 o unedau sy’n cynnwys cyfuniad o dai 21 tŷ 2 ystafell wely, 12 tŷ 3 ystafell wely, 4 fflat 1 ystafell wely a 4 fflat 2 ystafell wely.

Gallwch weld cynllun y safle yma:
Cynllun y safle
Cynllun Safleoedd (cynllun manwl)
Cynllun lleoliad
Math o dy 1
Math o dy 1 - cynllun lliw
Ty fath 2
Cynlluniau lliw ty 2 fath
Fflatiau 
Nant y Gro - Arolwg CCTV
Nant Y Gro - Asesiad Effaith Coedyddiaeth
Datganiad Cludiant
Cynllun Teithio

Depo Dobshill

Lleolir ar safle cyn depo'r cyngor sydd wedi bod yn wag ers rhai blynyddoedd, bydd y datblygiad hwn yn darparu 24 o dai cyngor a thai fforddiadwy newydd.   Mae’r cynllun wedi’i ddylunio i gynnal y rhes coed aeddfed presennol i ffin y safle gyda’r holl eiddo y tu ôl i hyn i leihau’r effaith ar eiddo presennol yn yr ardal.  

Cynllun y Safle
Adroddiad cam estynedig Dobshill cam 1
Eiddo nodwedd 
Math o Dŷ 1
Math o Dŷ 2
Math o Dŷ 14
Math o Dŷ 15
Math o fflatiau 

Maes Gwern, Yr Wyddgrug

Mae Maes Gwern yn ddatblygiad 160 o dai a rhandai yn yr Wyddgrug ar y cyd rhwng Cyngor Sir y Fflint a Wates Residential.  Bydd 48 yn eiddo fforddiadwy i’w rhentu ac ecwiti rhannol, a bydd y 112 sy’n weddill ar gael i’w prynu ar y farchnad agored. Bydd tai fforddiadwy’n cynnwys tai lled-wahanedig dwy a thair ystafell wely, tai teras dwy ystafell wely a rhandai un ystafell wely. Bydd gan bob eiddo deiliadaeth wahanol. 

Mae’r datblygiad wedi cael ei ddylunio a’i ysbrydoli gan y thema ’pentref gardd’. Bydd y themâu, sy’n ffurfio’r datblygiad, nid yn unig yn helpu’r gymuned i ffynnu’n gymdeithasol drwy ryngweithiad gofod cyhoeddus a phreifat, ond yn hunan-blismona yn erbyn trosedd ac ymddygiad gwrth cymdeithasol hefyd.  

Dechreuwyd y gwaith ar y datblygiad ym mis Medi 2018 ac mae disgwyl iddo orffen yn ystod gwanwyn 2022.

Maes Gwern - Cynllun Lleoliad

Sealand Avenue, Garden City

Datblygiad unigryw o 4 fflat un ystafell wely ac 8 fflat dwy ystafell wely wedi’u lleoli a Sealand Avenue, Garden City.  Mae’r cynllun yn cynnwys dyluniad ffrâm bren unigryw ac arloesol sy’n creu amgylchedd o safon uchel. 

CYNLLUNIAU ARFAETHEDIG 

MOSTYN
Mae’r ddau ddatblygiad ym Mostyn yn cynnwys 30 tŷ dwy ystafell wely a rhandai un a dwy ystafell wely wedi eu lleoli ar Ffordd Pandarus a Ffordd Hiraethog.

Cynllun arfaethedig y safle
FP Cynllun arfaethedig y safle

Cais Cynllunio 059707
Cais Cynllunio 059701

GWYBODAETH AM DENANTIAETHAU

Tai Cyngor
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer un o dai y Cyngor, mae’n rhaid i chi fod yn gymwys ar gyfer tai cymdeithasol a rhaid gwneud cais i dîm Atebion Tai Sir y Fflint ar 01352 703777.  Mae polisi gosod tai lleol wedi cael ei baratoi sy’n rhoi blaenoriaeth i’r rheiny sy’n byw yn y gymuned gerllaw neu sydd â chysylltiad â hi.

Tai Fforddiadwy
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer tai’r Cyngor yna mae 62 eiddo ar gael am rent fforddiadwy (is na rhent y farchnad).  Gellir gwneud cais arlein drwy ddilyn y cysylltiad yma https://taiteg.org.uk/cy/am-i-eligible-to-apply.  Unwaith eto bydd yr eiddo yn gyntaf yn cael eu gosod i bobl gyda chysylltiad lleol â'r ardal ond bydd hyn yn cael ei ymestyn yn dibynnu ar y galw am y tai.

CYFLEOEDD DYSGU A CHYFLOGAETH DRWY SHARP
Mae partneriaid y datblygiad, Wates Residential yn awyddus i gyflogi cynifer o bobl leol â phosib ar y safleoedd adeiladu gan weithio gydag is-gontractwyr lleol.  Hefyd maent wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd dysgu a phrentisiaeth.  Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ceisio cyflogaeth gysylltu â Rheolwr Prosiect Wates Residential ar 07795 520727 neu alw i mewn i swyddfa'r safle yn The Walks, yn Y Fflint.

CYNLLUNIAU WEDI'U CWBLHAU  

Cyn safle’r Hufenfa, Ffordd yr Wyddgrug, Cei Connah

Bydd y datblygiad newydd hwn o 3 tŷ cyngor 3 llofft a 3 tŷ cyngor 2 lofft ar gornel y Stryd Fawr a Ffordd yr Wyddgrug yn adfywio’r ardal hon, gan greu ardal breswyl ddeniadol fydd yn darparu tai y mae cymaint o’u hangen yng Nghei Connah. 

Cwrt y Tollty, Cei Connah

Datblygiad yw hwn o dai cyngor newydd 2 a 3 ystafell wely.  Cul de sac bychan ydyw ar safle hen Ysgol Custom House Lane.  Dyma'r tro cyntaf i dai cyngor newydd gael eu hadeiladu yn Sir y Fflint ers cyflwyno’r Cynllun Hawl i Brynu dros 25 mlynedd yn ôl.  Mae’r tai wedi eu hadeiladu i safon uchel gyda cheginau ac ystafelloedd molchi modern.  Er mwyn cadw costau cynnal yn isel mae safonau arbed ynni wedi eu hymgorffori fel ffenestri modern a deunyddiau inswleiddio.  

Cwrt St Mark's, Cei Connah

Mae’r cyn safle moduradai oddi ar St Mark’s Avenue wedi cael ei glirio 5 ty cyngor 2 lofft yn cael eu codi arno.  

Heol y Goron, Coed Llai

Bydd cyn safle modurdai wedi trawsnewid yn ddatblygiad newydd o 3 tŷ 2 llofft a 2 dŷ 3 llofft, gan greu ardal breswyl fechan ddeniadol i bobl leol a darparu tai cyngor y mae cymaint o’u hangen yn y pentref.  

Maes y Meillion, Coed Llai

Bydd cyn safle modurdai (oedd wedi mynd yn anaddas at y diben) wedi trawsnewid yn ddatblygiad newydd o 4 rhandy 2 lofft a 4 byngalo 2 lofft, gan greu 8 tŷ cyngor newydd i bobl leol. 

The Walks, Y Fflint

Mae The Walks,Y Fflint yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd a bydd yn darparu 92 o dai newydd ar gyfer pobl leol.  Bydd cymysgedd o dai 2 a 3 ystafell wely a fflatiau 1 a 2 ystafell wely (gweler llun y pensaer sydd ynghlwm), a bydd rhai o’r fflatiau yn cael eu haddasu. Bydd y ddeiliadaeth yn gymysg gyda 62 o’r tai ar gyfer rhent canolradd, gyda NEW Homes yn berchen arnynt ac yn eu rheoli, a bydd 30 yn dai Cyngor ar gyfer rhent cymdeithasol.

Bydd cwblhau’r safle hwn yn creu cymuned newydd yng nghanol y Fflint gan droi’r hyn a arferai fod yn hen fflatiau yn ddatblygiad tai modern.  Mae’r cynllun yn newid yn ddyddiol. 

Gwyliwch yr adeilad…https://vimeo.com/275283914

Ysgol Delyn, Y Wyddgrug

Mae ysgol nad oedd ei hangen mwyach wedi cael ei dymchwel er mwyn creu datblygiad newydd o 16 o dai cyngor newydd yn agos at ganol y dref.  Bydd 10 tŷ 2 lofft a 6 tŷ 3 llofft yn cael eu hadeiladu yn yr ardal breswyl newydd er mwyn creu datblygiad modern a deniadol fydd yn darparu tai y mae cymaint o’u hangen ar bobl leol.

 

Rhodfa Melrose, Shotton Uchaf

Lleolwyd ar Rodfa Melrose, Shotton Uchaf, mae’r datblygiad hwn o 4 tŷ 2 ystafell wely, 2 fflat 1 ystafell wely a 2 fflat 2 ystafell wely wedi disodli Canolfan Gymunedol Melrose sy’n wag a oedd yn arfer bod ar y safle hwn ac yn destun fandaliaeth cyn ei ddymchwel yn gynharach eleni.

Arfaethedig - Garden City: Cynllun y safle
Arfaethedig - Garden City Bloc A: Cynllun am elevations
Arfaethedig - Garden City Bloc B: Cynllun
Garden City Bloc B - Elevations

 

Ffotograffau o gynlluniau wedi'u cwblhau

SHARP

Browser does not support script.