Alert Section

Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf


 

Mae’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf bellach wedi cau ar gyfer ceisiadau newydd


Beth yw’r Cymorth Tanwydd Gaeaf?

Mae’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn rhan o becyn cymorth gwerth £90miliwn i fynd i’r afael â’r pwysau uniongyrchol ar gostau byw.Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro o £200 gan eu hawdurdod lleol i gyfrannu tuag at dalu eu costau tanwydd.  Mae’r taliad yma yn ychwanegol at y taliad tanwydd gaeaf sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU ac mae’r Taliad Tanwydd Gaeaf fel arfer yn cael ei dalu i bensiynwyr.   Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd cymwys (un taliad fesul aelwyd) ni waeth sut maent yn talu eu tanwydd, boed hynny er enghraifft ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter, ac fe ellir ei hawlio pa unai ydynt yn defnyddio tanwydd ar y grid neu oddi ar y grid neu beidio. 

Beth yw’r budd-daliadau cymwys?

Bydd y cynllun yn agored i aelwydydd lle mae ymgeisydd, neu eu partner yn derbyn un o’r budd-daliadau cymwys ar unrhyw adeg rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023: 
• Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor

• Cymhorthdal Incwm

• Lwfans Ceisio Gwaith Seiliedig ar Incwm

• Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm

• Credyd Cynhwysol• Credydau Treth Gwaith

• Credydau Treth Plant• Credyd Pensiwn

• Taliad Annibyniaeth Bersonol

• Lwfans Byw i'r Anabl

• Lwfans Gweini

• Lwfans Gofalwyr - mae hyn yn cynnwys y rhai sydd yn derbyn Lwfans Gofalwyr a phobl sydd wedi hawlio Lwfans Gofalwyr ond yn sgil y rheolau budd-daliadau sy’n gorgyffwrdd, nid ydynt yn ei dderbyn fel budd-dal arian, h.y. mae ganddynt hawl sylfaenol i Lwfans Gofalwyr.

• Math newydd o Lwfans Cyfrannol/Lwfans Ceisio Gwaith

• Math newydd o Lwfans Cyfrannol/Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

• Taliad Annibynnol y Lluoedd Arfog• Lwfans Gweini Cyson

• Atodiad Symudedd Pensiwn y Rhyfel 

Os bydd rhywun o’r aelwyd (neu eu partner) yn gyfrifol am gostau tanwydd yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau cymwys, dylid ystyried yr unigolyn yn gymwys am daliad os oes ganddynt berson cymwys yn byw gyda nhw yn ystod y cyfnod cymwys. 

Mae unigolyn yn bodloni’r diffiniad o berson cymwys os:
• Ydynt yn byw yng nghartref deiliad tŷ fel y prif gartref; ac

• Yn blentyn dibynnol neu’n oedolyn arall sy’n byw gyda deiliad tŷ (neu eu partner); ac, 

• Yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023: 

o Lwfans Gweini

o Lwfans Byw i'r Anabl

o Taliad Annibyniaeth Bersonol

o Taliad Annibynnol y Lluoedd Arfog

o Lwfans Gweini Cyson

o Atodiad Symudedd Pensiwn y Rhyfel 

Mae’r taliad yn adlewyrchiad o’r costau ynni uwch y mae aelwydydd yn eu hwynebu lle mae person anabl yn byw, ac agwedd synnwyr cyffredin sydd yn cydnabod bod Lwfans Byw i’r Anabl yn bennaf yn cael ei dalu i blentyn anabl o dan 16 oed (sydd methu bod yn ddeiliad tŷ). Dylai’r taliad gael ei wneud i’r deiliad tŷ sy’n gyfrifol am dreth y cyngor neu’r costau tanwydd.  

Beth yw’r Amod Atebolrwydd Tanwydd? 

Mae’n rhaid i ymgeisydd fodloni’r amod yma os ydyn nhw (neu eu partner) yn gymwys am Dreth y Cyngor gan fod eu hatebolrwydd am Dreth y Cyngor yn cael ei ystyried yn gyfystyr ag atebolrwydd tanwydd.

Gall ymgeiswyr nad ydynt yn gyfrifol am dalu Treth y Cyngor ddangos eu bod yn bodloni’r amod hwn drwy ddarparu tystiolaeth eu bod yn gyfrifol am dalu costau tanwydd eu heiddo. Dyma’r achos pa unai ydi a delir am danwydd drwy fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu fil chwarterol ac a ydi’r tanwydd yn cael ei ddarparu ar y grid neu oddi ar y grid. 

Dim ond ar gyfer eiddo yng Nghymru y gellir hawlio costau tanwydd ac os mai’r eiddo yma yw eu prif gartref.   

Pryd a sut alla’i wneud cais?

Bydd y cynllun yn agored ar gyfer cofrestru am 9am 26 Medi 2022. Mae’n rhaid cyflwyno pob cais cyn 5pm ar 28 Chwefror 2023.  

Pan fydd eich ffurflen gofrestru yn cael ei derbyn a’i phrosesu, byddwch yn derbyn e-bost yn rhoi gwybod a fuoch chi’n llwyddiannus neu beidio. Os na fuoch chi’n llwyddiannus, cewch wybod pam.

Os ydw i’n llwyddiannus, pryd fydda’ i’n derbyn taliad?

Os ydych chi’n llwyddiannus, byddwch yn derbyn e-bost yn eich hysbysu, ac yn cadarnhau dyddiad y taliad. Byddwch yn amyneddgar wrth i ni brosesu’r holl geisiadau mor gyflym â phosibl.  Bydd taliadau ar gyfer ceisiadau llwyddiannus yn cael eu gwneud erbyn 31 Mawrth 2023. 

Lle bo modd, ac oni bai fod gennych ymholiad brys, gan fod nifer fawr o aelwydydd yn gymwys i gael y taliad hwn, ceisiwch beidio â chysylltu â ni i ofyn pryd y bydd eich taliad yn cyrraedd eich cyfrif banc. Os oes gennych unrhyw ymholiadau brys am y cynllun, gallwch e-bostio’r Adain Fudd-daliadau winterfuelsupport@flintshire.gov.uk

Mae fy nghais wedi’i wrthod, alla’ i apelio?

Nid oes yna hawl i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad i beidio â dyfarnu taliad.  Byddwn yn rhoi gwybod pam fod eich cais wedi’i wrthod.  Os ydych chi’n teimlo fod y wybodaeth sydd gennym yn anghywir, yna e-bostiwch ni winterfuelsupport@flintshire.gov.uk gan nodi eich enw llawn, cyfeiriad a rhif y cais a rhowch wybod beth sydd yn anghywir. Efallai y byddwn angen tystiolaeth ddogfennol i gefnogi hyn a byddwn yn rhoi gwybod os mai dyma sydd ei angen. 

Efallai y byddwch chi dal i wynebu caledi ariannol difrifol.  Os felly, efallai y byddwch chi’n dymuno cyflwyno cais i’r Gronfa Cymorth Dewisol https://gov.wales/discretionary-assistance-fund-daf.

Diolch i chi am eich amynedd, rydym ni’n gweithio i brosesu taliadau cyn gynted â phosibl.