Alert Section

Adolygiad o Ostyngiad Person Sengl 2022


Bydd gwiriad yn cael ei gynnal cyn bo hir ar y rheiny sy'n talu Treth y Cyngor yn Sir y Fflint ac yn derbyn gostyngiad o 25 y cant oddi ar eu bil oherwydd eu bod yn byw ar eu pen eu hunain, i wneud yn siŵr bod y gostyngiadau’n gywir. Mae hwn yn ymarfer rheolaidd, a chynhaliwyd adolygiad tebyg yn 2019.

Bydd Datatank Ltd, sef darparwr gwasanaeth blaenllaw sy’n arbenigo yn yr adolygiadau hyn, yn cydweithio â’r Cyngor i gadarnhau’r gostyngiad ar gyfer hawlwyr dilys ac i ganfod unigolion sy'n hawlio gostyngiad Treth y Cyngor heb hawl i wneud hynny.

Os bydd hawliadau anghywir yn cael eu canfod, bydd y Cyngor yn rhoi’r gorau i’r hawliadau ac yn ceisio adennill y gostyngiad o ddyddiad priodol ymlaen.

Ar hyn o bryd mae dros 23,273 o drigolion - bron i un o bob tri chartref - yn hawlio gostyngiad person sengl. Er bod mwyafrif helaeth y trigolion hyn yn hawlio'r gostyngiad yn gywir, mae’n bosib y bydd achosion lle nad yw'r Cyngor wedi cael gwybod am newid mewn deiliadaeth aelwyd a all effeithio ar y gostyngiad, neu bydd gostyngiad wedi’i hawlio’n anghywir yn fwriadol.

Llenwch eich Ffurflen Adolygiad Gostyngiad Person Sengl ar-lein

Beth ddylwn i ei wneud nawr?

Dylech gadarnhau eich manylion drwy glicio ar y ddolen Adolygiad Gostyngiad Person Sengl uchod. I weld eich ffurflen bydd arnoch chi angen teipio’ch rhif PIN unigryw. Mae'r rhif PIN hwn wedi’i nodi ar y llythyr yr anfonwyd atoch chi.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am y ffurflen hon, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen isod i weld y dudalen gwestiynau ac atebion.

Cwestiynau ac Atebion Gostyngiad Person Sengl

Mwy am yr Adolygiad Gostyngiad Person Sengl

Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i adolygu gostyngiadau er mwyn canfod hawliadau twyllodrus ymhlith talwyr Treth y Cyngor.

Pob blwyddyn mae awdurdodau lleol ar draws y wlad yn derbyn nifer fawr o geisiadau ar gyfer y Gostyngiad Person Sengl. Yn anffodus mae rhai o’r ceisiadau hyn yn dwyllodrus ac yn union fel twyllwyr budd-daliadau mae’r bobl hyn yn hawlio gostyngiadau ar gam. Mae deddfwriaeth yn bodoli sy’n golygu bod modd erlyn twyllwyr Treth y Cyngor yn yr un ffordd â thwyllwyr budd-daliadau, sef drwy’r llys, gan wneud iddynt dalu’r arian sy’n ddyledus yn ôl

Bydd gwiriadau yn cael eu gwneud i sicrhau bod pawb sy’n hawlio’r gostyngiad yn gymwys i wneud hynny. Fodd bynnag, ceir amgylchiadau sy'n anoddach eu hegluro. I helpu dan yr amgylchiadau hyn, rydym ni wedi ateb rhai cwestiynau a ofynnir yn aml yn ystod y cyfnod adolygu.