Alert Section

Amheuaeth o Dwyll / Pryder


Mae twyll a llygredigaeth yn costio cannoedd o filiynau o bunnau y flwyddyn i drethdalwyr wrth i niferoedd yr achosion a ganfyddir godi. 

Mae gan Gyngor Sir y Fflint ddyletswydd gyfreithiol i warchod yr arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu.  Rydym yn ymroddedig i ymladd yn erbyn twyll a llygredigaeth fel bod arian cyhoeddus yn cael ei wario ar ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r gymuned leol yr ydym yn ei gwasanaethu.  Mae gennym bolisi dim goddefgarwch tuag at dwyll ac mae unrhyw adroddiadau o dwyll yn cael eu cymryd o ddifri.

Gallwch chi helpu’r Cyngor i ymladd yn erbyn y twyllwyr trwy roi gwybod i ni am unrhyw bryderon sydd gennych ynglŷn ag amheuon o dwyll yn erbyn y Cyngor.  Gallwch chi ddefnyddio’r ffurflen ar-lein hon i roi gwybod am unrhyw bryderon ynglŷn â:

  • Budd-daliadau
  • Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau
  • Bathodynnau Glas
  • Ardrethi Busnes
  • Contractau gyda’r Cyngor
  • Gweithwyr y Cyngor
  • Treth y Cyngor / Gostyngiad Person Sengl
  • Hawliadau yswiriant twyllodrus i’r cyngor
  • Ceisiadau am Arian Grant e.e. Troi Tai yn Gartrefi
  • Taliadau i gyflenwyr
  • Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys taliadau uniongyrchol

PETHAU I’W NODI 
Ein amcan yw sicrhau bod achosion neu gyhuddiadau o dwyll posibl yn cael eu hymchwilio a’u trin yn effeithiol.  Er y gallwch lenwi’r ffurflen yn ddi-enw, gofynnwn i chi am eich gwybodaeth gyswllt bersonol er mwyn gallu cysylltu â chi am wybodaeth bellach fel rhan o unrhyw ymchwiliad.

Caiff eich data personol ei brosesu fel rhan o’n tasg gyhoeddus a chaiff unrhyw ddata sensitif a ddarperir gennych ei brosesu am resymau buddiant sylweddol er mwyn galluogi’r tîm Archwilio Mewnol i gyflawni ei ofynion statudol i awdurdodau lleol.  Y ddwy ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar archwilio mewnol mewn awdurdodau lleol yw:

  • Mae Adran 5 Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018 yn datgan "bod yn rhaid i awdurdod perthnasol gynnal archwiliad mewnol effeithiol i werthuso effeithiolrwydd ei brosesau rheoli risg, rheoli a llywodraethu, gan gymryd i ystyriaeth safonau a chanllawiau archwilio mewnol y sector cyhoeddus”.
  • Mae Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod wneud trefniadau ar gyfer gweinyddu ei faterion ariannol yn briodol.  Yn niffiniad CIPFA o ‘weinyddu priodol’, mae’n cynnwys ‘cydymffurfio â gofynion statudol cyfrifyddu ac archwilio mewnol’.  

Mae’n bosibl y caiff y wybodaeth a ddarperir gennych ei phasio ymlaen at y maes gwasanaeth perthnasol neu mae’n bosibl y caiff ei hymchwilio gan y tîm Archwilio Mewnol.

Efallai y bydd rhwymedigaethau gor-redol sy’n golygu bod yn rhaid i’ch manylion personol gael eu rhannu ag asiantaethau y tu allan i’r Cyngor yn dibynnu ar natur y pryder / twyll er mwyn cynnal ymchwiliad llawn e.e. yr Heddlu; Adran Gwaith a Phensiynau; Refeniw a Thollau Ei Mawrhydi; Cyrff Proffesiynol; Awdurdodau Lleol Eraill; Cyflogwyr; a Rhwydwaith Gwrth-dwyll Cenedlaethol.

Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth bersonol yn unol â’n polisi cadw gwybodaeth.  Caiff cofnodion archwilio eu cadw am saith mlynedd a chofnodion ymchwiliadau am 15 mlynedd.  Os na ellir profi bod twyll wedi digwydd, caiff y cofnodion hyn eu cadw am saith mlynedd.  Os yw’r wybodaeth wedi cael ei phasio at faes gwasanaeth neu barti allanol, bydd eu terfynau amser nhw yn berthnasol.

Am resymau cyfrinachedd ni allwn roi diweddariad i chi am gynnydd neu ganlyniad unrhyw ymchwiliad.

Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.  Am fwy o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i gwyno os ydych yn teimlo bod eich data personol wedi cael ei gam-drin ewch i:  Hysbysiad Preifatrwydd

Os ydych yn dymuno rhoi gwybod am rywbeth nad yw'n gysylltiedig ag amheuaeth o dwyll neu os ydych yn dymuno rhoi gwybod i’r Cyngor am gŵyn – ewch i’r dudalen Rhoi Gwybod a Chysylltu â ni ar wefan y Cyngor

Os ydych wedi deall yr uchod ac yn dymuno rhoi gwybod am amheuaeth o dwyll neu bryder llenwch y ffurflen hon ar-lein:
*14/9/21 online form currently undergoing maintenance

Ffurflen Adrodd


Gwybodaeth Ddefnyddiol Arall

  • Polisi Rhannu Pryderon Cyngor Sir Y Fflint
  • Gallwch hefyd roi gwybod am Dwyll Budd-daliadau i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
  • Llinell Gymorth Genedlaethol Twyll Budd-Daliadau 0800 854 4400. Llinell Gymraeg: 0800 678 3722 Neges destun: 0800 328 0512.  National Benefit Fraud Hotline, Mail Handling Site A, Wolverhampton, WV98 2BP.