Alert Section

Tai Gofal Ychwanegol


Ffilm Cynllun Gofal

Cynllun Gofal Llys Raddington

Dewch i fyw yn annibynnol gyda Gofal a Chefnogaeth fel y bydd arnoch ei angen, gan roi tawelwch meddwl i chi rŵan ac at y dyfodol.

Mae Cymdeithas Tai Tŷ Glas, ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint, yn datblygu 73 o fflatiau Gofal Ychwanegol 1 a 2 ystafell wely o safon uchel ar rent, gyda chyfleusterau cymunedol, i unigolion 60 oed a hŷn yn nhref y Fflint. Yn y cynllun, bydd y fflatiau yn bodloni anghenion cefnogaeth amrywiol, sy'n cynnwys 58 fflat at gofal ychwanegol, a 15 fflat at wedi eu dylunio yn benodol a'u haddasu ar gyfer pobl hŷn sy'n colli eu cof neu yn byw gyda dementia.

Bydd y gwasanaethau rheoli ac ategol ar y safle yn cael eu darparu gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, tra bydd Cyngor Sir y Fflint yn cymryd cyfrifoldeb am gynnig gofal cartref ar y safle, i denantiaid sydd ag angen wedi ei asesu. Rhoddir blaenoriaeth i breswylwyr ardal y Fflint.

Os ydych chi'n 60 oed neu hŷn, bod arnoch angen cefnogaeth neu gymorth, ac yn teimlo y byddech yn cael budd o Gynllun Byw'n Annibynnol Gofal Ychwanegol Llys Raddington, gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol:

Rhadffôn: 0800 183 5757
E-bost: enquiries@tyglas.co.uk

Cynllun Gofal Llys Eleanor

Dewch i fyw yn annibynnol gyda Gofal a Chefnogaeth fel y bydd arnoch ei angen, gan roi tawelwch meddwl i chi rŵan ac at y dyfodol.

Mae Cynllun Gofal Ychwanegol Llys Eleanor yn cynnwys 50 o fflatiau gofal ychwanegol ar gael i'w rhentu, i unigolion sy'n 60 oed a hŷn sydd ag anghenion cefnogi wedi eu hasesu. Mae Llys Eleanor yn cynnig y cyfle i chi fyw yn eich fflat eich hun, gan wybod y bydd help a chefnogaeth ar gael ar drothwy eich drws 24 awr y dydd.

Bydd y gwaith rheoli ac ategol ar y cartref yn cael ei ddarparu gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, fel asiant rheoli dros Gymdeithas Tai Tŷ Glas, tra bydd Cyngor Sir y Fflint yn cymryd cyfrifoldeb am gynnig Gofal Cartref ar y safle 24 awr y dydd. Bydd y gofal yn cael ei deilwrio yn ôl eich anghenion gofal unigol sydd wedi eu hasesu, i helpu i gadw eich preifatrwydd, urddas, annibynniaeth a dewis.

Rhadffôn: 0800 183 5757

E-bost: enquiries@tyglas.co.uk

Llys Jasmin, yr Wyddgrug

Mae Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Llys Jasmine, Yr Wyddgrug, bellach wedi’i adeiladu ar gyfer Tai Wales & West mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint.

Tai ar gyfer pobl hŷn yw Tai Gofal Ychwanegol ac mae Llys Jasmine yn darparu llety â chymorth o’r radd flaenaf i helpu pobl i fyw’n annibynnol cyhyd ag sy’n bosibl.

Cwblhawyd 61 fflat, 33 o rhai un ystafell wely a 28 o rhai dwy ystafell wely, ar ddiwedd yr haf yn 2013.  Mae’r datblygiad hwn yn cynnwys 15 fflat sydd wedi’u llunio’n arbennig ar gyfer pobl â dementia, yn ogystal â dau fyngalo dwy ystafell wely ychwanegol.

Mae staff gofal ar gael 24 awr y dydd i ddarparu gofal mewn argyfwng neu i ymateb i gynlluniau gofal unigol.  Mae’r fflatiau ar gael i’w rhentu neu i’w prynu gan Dai Wales & West i bobl sy’n ateb y meini prawf cymhwyster.

Am fwy o fanylion, gan gynnwys prisiau rhent a chostau gwasanaeth, prisiau gwerthu a meini prawf cymhwyster, ffoniwch y llinell rhadffôn ar 0800 052 2526 heddiw a gofynnwch am Becyn Cais Gofal Ychwanegol Llys Jasmine yr Wyddgrug gan Dai Wales & West.

Neu gallwch wneud cais am becyn drwy ysgrifennu at:

Tai Gofal Ychwanegol, Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, 3 Alexandra Gate, Tremorfa, Caerdydd, CF24 2UD

E-bost: contactus@wwha.co.uk